fonds GB 0210 PENLLA - CMA: Cofysgrifau Eglwys Pensarn, Llandysiliogogo

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 PENLLA

Teitl

CMA: Cofysgrifau Eglwys Pensarn, Llandysiliogogo

Dyddiad(au)

  • 1813-1966 (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.018 metrau ciwbig (5 cyfrol)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Adeiladwyd y capel yn 1794 ar ddarn o dir yn perthyn i fferm Tirgwyn ger Caerwedros ym mhlwyf Llandysiliogogo. Cafwyd y tir gan Llewelyn Parry, Gurnos, ar brydles o 99 o flynyddoedd, am 8s. y flwyddyn. Ceir tystysgrif yn cadarnhau'r adeilad fel man addoli yn 1853. Yn 1894 prynwyd y capel, y tŷ a'r tir am £172 10s. Cyn ei gau yn 1966 roedd y capel yn perthyn i Ddosbarth Ceinewydd, Henaduriaeth De Aberteifi.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan Ms Eleri Davies, Llandysul, Hydref 2001.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r fonds yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1813-1959, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1863-1966, a llyfr y trysorydd, 1911-1966.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn LlGC yn un gyfres: llyfrau casgliad y weinidogaeth; a dwy ffeil: cofrestr genedigaethau a bedyddiadau a llyfr y trysorydd.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Mae cofrestr bedyddiadau, 1813-1837, ar gadw yn yr Archifdy Gwladol a cheir copi microffilm yn LlGC (PRO NPR 4/2782); mae adroddiadau blynyddol, 1913, 1915, yn LlGC; a phapurau ariannol, 1897-1914, 1940, yn CMAIII/EZ1/255/1. Hefyd, cedwir Cwpan Cymun Capel Pensarn yn LlGC.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004240346

GEAC system control number

(WlAbNL)0000240346

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mai 2002.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Barbara Davies.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: J. Evans, Hanes Methodistiaeth De Aberteifi (1904), a gwybodaeth bersonol Ms Eleri Davies, Llandysul, Mai 2002.

Ardal derbyn