fonds GB 0210 TABACL - CMA: Cofysgrifau Eglwys Tabernacl, Blaengarw,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 TABACL

Teitl

CMA: Cofysgrifau Eglwys Tabernacl, Blaengarw,

Dyddiad(au)

  • 1924-2001 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

9 cyfrol.

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Agorwyd Eglwys Tabernacl, Katie Street, Blaengarw, sir Forgannwg, ym mis Mai 1885. Tabernacl oedd capel Cymraeg Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym Mlaengarw: y capel Saesneg oedd Trinity. Caewyd Tabernacl ar 27 Mehefin 2002.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan Mr David Walters, Pen-y-bont ar Ogwr, trwy law Mr Huw Ebenezer, Ystalyfera, Tachwedd 2002; 0200213596.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Y mae'r archif yn cynnwys cofnodion pwyllgorau Eglwys Tabernacl, Blaengarw, 1925-1977, ynghyd â chyfrifon ariannol, 1924-1981, llyfrau casgliadau ariannol, 1945-1992, a llyfrau'r eisteddleoedd, 1925-2001.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i LlGC.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn chwe chyfres: cofnodion 'Pwyllgor yr Amgylchiadau', cofnodion cyfarfodydd y blaenoriaid, llyfrau cyfrifon cyffredinol, llyfrau casglu 'Yr Amgylchiadau', llyfrau casglu y Weinidogaeth a llyfrau'r eisteddleoedd.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir cofrestri priodasau, 1902-1968, yn LlGC, CMA O5/1-2. Y mae adroddiadau blynyddol y Capel, 1910-1924, 1976, hefyd yn LlGC.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crewyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004276966

GEAC system control number

(WlAbNL)0000276966

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Ionawr 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Glyn Parry.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, CMA: Cofysgrifau Eglwys Tabernacl, Blaengarw, a CMA: Cofnodion Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg.

Ardal derbyn