Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1980x2018] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llungopi o goeden deulu teulu Llewellyn, sy'n cynnwys Linda Llewellyn (yn ddiweddarach Williams), gwraig Waldo Williams. Lluniwyd y goeden deulu gan R. G. Thorne, Ionawr 1980 (gweler nodyn ar frig y ddalen).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Ganed Lewis Llewellyn yn Nhrefelen, Sir Benfro ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau. Wedi marw ei wraig, Mary (née Williams), dychwelodd i Sir Benfro, lle'r ailbriododd. Bu farw yng Nghlunderwen ym 1923. 'Roedd Lewis Llewellyn yn perthyn i Linda Williams (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams.
Ganed Dafydd (Dafi) Williams ym mhlwyf Llanddewi Felffre, Sir Benfro ym 1834. Priododd â Martha Thomas ym 1862 a daethant yn rieni i Mary Llewellyn ac i John Edwal Williams, tad Waldo. Yn bostman wrth ei alwedigaeth, tystir fod Dafydd Williams yn ŵr o gymeriad gwreiddiol a hiwmor ffraeth oedd yn meddu ar feddwl a barn annibynnol a chadarn.
Ganed Linda Williams (née Llewellyn) ym 1912, yn ferch i beiriannydd yn un o byllau glo'r Maerdy yng Nghwm Rhondda. Cyfarfu Waldo a Linda yn Rhosaeron, Clunderwen, Sir Benfro, cartref teulu Waldo ar ochr ei dad, ac fe'u priodwyd ar y pedwerydd ar ddeg o Ebrill 1941 yng Nghapel y Bedyddwyr, Blaenconin. Wedi cwta ddwy flynedd o briodas, bu farw Linda o'r ddarfodedigaeth yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor ar y cyntaf o Fehefin 1943 a'i chladdu yn mynwent Blaenconin yn yr un bedd â rhieni Waldo (a lle'n ddiweddarach y rhoddwyd Waldo i orffwys).