Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1953, Medi/Sept.-Tach./Nov. (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
Ffolder/Folder (2 cm.)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd yr awdur a'r hanesydd William Ambrose Bebb yng Ngoginan, Ceredigion, yn 1894. Graddiodd o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1918 cyn treulio dwy flynedd arall yno yn astudio ar gyfer gradd MA. Aeth i Brifysgol Rennes yn 1920 ond symudodd i'r Sorbonne ym Mharis cyn pen ychydig wythnosau lle bu'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd a lle daeth dan ddylanwad Charles Maurras a'r Action Francaise, ac y daeth yn edmygydd mawr o Ffrainc a'i diwylliant. Ymunodd â staff Adran Hanes y Coleg Normal, Bangor, yn 1925, gan ddod, yn ddiweddarach, yn bennaeth yr Adran. Cyhoeddodd ei fyfyrdodau ar wareiddiad Ewrop yn y gyfrol Crwydro'r Cyfandir (1936). Daeth i adnabod Llydaw yn dda a rhoddodd adroddiadau ar ei gysylltiadau â'r mudiad cenedlaethol yn y wlad honno mewn tri llyfr a gyhoeddwyd rhwng 1929 a 1941. Ysgrifennodd gyfres o bum llyfr ar hanes Cymru, a gyhoeddwyd rhwng 1932 a 1950, ac y mae llawysgrifau'r cyfrolau hynny ymysg y papurau hyn. Yn 1924 sefydlodd y Mudiad Cymreig ar y cyd â Saunders Lewis a Griffith John Williams, mudiad a ddatblygodd yn ddiweddarach i fod yn Blaid Genedlaethol Cymru ac a ddaeth wedi hynny yn Blaid Cymru. Parhaodd i fod yn un o gefnogwyr selocaf y Blaid hyd at yr Ail Ryfel Byd ac fe safodd yn ymgeisydd drosti yn Arfon yn Etholiad Cyffredinol 1945. Tua diwedd ei oes, fodd bynnag, oerodd ei s1/4l wleidyddol a rhoddai bwyslais cynyddol ar egwyddorion Cristnogol, fel y dengys ei lyfr olaf, Yr Argyfwng, a gyhoeddwyd yn 1956, ar ôl ei farwolaeth.
Priododd yn 1931 ag Eluned Pierce Roberts, Llangadfan, a bu iddynt saith o blant. Gwnaeth y teulu eu cartref yn Llwydiarth, Ffordd Ffriddoedd, Bangor Uchaf. Bu farw Ambrose Bebb yn sydyn ar 27 Ebrill 1955.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Gohebiaeth a phapurau amrywiol, Medi-Tachwedd 1953, yn ymwneud â sefydlu a chynnal cronfa i anfon J. E. Jones, ysgrifennydd cyffredinol Plaid Cymru, ar daith i Fôr y Canoldir er mwyn ei gynorthwyo i adfer ei iechyd yn dilyn triniaeth lawfeddygol./Correspondence and miscellaneous papers, September-November 1953, concerning the setting up and the administration of a fund to send J. E. Jones, general secretary of Plaid Cymru, on a voyage to the Mediterranean to assist him to recover his health following major surgery. -- Yn cynnwys llythyrau oddi wrth/Includes letters from: W. Ambrose Bebb; Cassie Davies; Marion Eames; Thomas Charles Edwards; Islwyn Ffowc Elis; Mari Ellis; J. Gwyn Griffiths; A. O. H. Jarman; Dr Gwenan Jones; Daydd Orwig Jones; Dr Emyr Wyn Jones; Thomas Parry; Dewi Watkin Powell; D. J. Williams, Abergwaun.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Preferred citation: M1/3
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970 (Pwnc)
- Davies, Cassie, 1898-1988 (Pwnc)
- Eames, Marion (Pwnc)
- Charles-Edwards, T. M. (Pwnc)
- Ellis, Mari, 1913-2015 (Pwnc)
- Griffiths, John Gwyn (Pwnc)
- Jarman, A. O. H. (Alfred Owen Hughes) (Pwnc)
- Jones, Gwenan, 1889-1971 (Pwnc)
- Jones, Dafydd Orwig (Pwnc)
- Jones, Emyr Wyn. (Pwnc)
- Parry, Thomas, 1904-1985 (Pwnc)
- Powell, Dewi Watkin, 1920- (Pwnc)
- Williams, D. J. (David John), 1885-1970 (Pwnc)