Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1876-1882 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
5 dogfen : Dwy ddogfen femrwn, 3 dogfen bapur ; Y ddwy ddogfen femrwn yn 470 x 650 mm. a 275 x 290 mm., gyda'r dogfennau papur yn llai o faint.
Gosodwyd y dogfennau mewn amlenni melinecs yn LlGC, a'u cadw'n rhydd mewn amlen archifol.
Ardal cyd-destun
Hanes archifol
Ffynhonnell
Swann Auction Galleries; Efrog Newydd; Prynwyd mewn arwerthiant, lot 99; 17 Medi 2009; 004925018
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Casgliad o chwe dogfen, 1876-1882, yn ymwneud â sefydlu Derwyddiaeth yn Unol Daleithiau'r Amerig dan awdurdod 'Gorsedd Dderwyddol Ynys Brydain a Chadair Morganwg'. Cynhwysa'r casgliad ddwy ddogfen femrwn, y naill yn dystysgrif, 1876, yn awdurdodi James Davies ('Corafar') [y Parch. James Davies M.A. yn ôl Bye-gones (1874-5), t. 123], 'Rhag-archdderwydd America', i hybu derwyddiaeth yn 'hemisffer gorllewinol y byd' (f. 1), a'r llall, 1878, yn cymeradwyo sefydlu 'Prif-athrofa dderwyddol' yn yr Unol Daleithiau, dan awdurdod James Davies (f. 2). Am sylwadau ar y brifysgol dderwyddol yn Buffalo, Efrog Newydd, gweler ymhellach Young Wales, IV (1898), 213. Cynhwysa'r casgliad hefyd dri llythyr ar bapur, 1881-2, oddi wrth Evan Davies ('Myfyr Morganwg') at J.H. Davies, Efrog Newydd, yn trafod materion derwyddol, ynghyd â darn o lythyr arall yn llaw Evan Davies, a anfonwyd o bosibl at yr un derbynnydd (ff. 3-6). = A collection of six documents, 1876-1882, relating to the establishment of Druidism in the United States of America by authority of 'Gorsedd Dderwyddol Ynys Brydain a Chadair Morganwg'. The collection includes two parchment documents: a certificate, 1876, authorizing James Davies ('Corafar') [the Revd. James Davies M.A. according to Bye-gones (1874-5), p. 123], 'Vicarial Arch-druid of America', 'to perpetuate and propagate in the western hemisphere of the world the Druidic cause' (f. 1), together with a document authorizing the establishment of a Druidic University in the United States, under James Davies' direction (f. 2). On the druidic university at Buffalo, New York, see further Young Wales, IV (1898), p. 213. The collection also includes three letters on paper, 1881-2, from Evan Davies ('Myfyr Morganwg') to J.H. Davies, New York, discussing druidism, together with a fragment of another letter in the hand of Evan Davies, possibly sent to the same recipient (ff. 3-6).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Nodiadau
Preferred citation: NLW MS 24001G.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Davies, James, Rev. (Pwnc)
- Myfyr Morganwg, 1801-1888 (Pwnc)
- Davies, J. H., New York (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Hydref 2010.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Maredudd ap Huw;