Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1887-1950. (Creation)
Lefel y disgrifiad
is-fonds
Maint a chyfrwng
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Cyfeirir at yr Eisteddfod Genedlaethol fel ‘prif ŵyl ddiwylliannol y Cymry’ yn y Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1880 ac yn 1890 sefydlwyd Rheolau’r Gymdeithas. Cytunodd Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1922 i roi cartref i’r cyfansoddiadau a beirniadaethau a gynigiwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 1937 ffurfiwyd Cyngor yr Eisteddfod drwy uno Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn 1952 disodlwyd y Gymdeithas gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyddwyd i gynnal eisteddfod bob blwyddyn ac eithrio 1914 a 1940 (Eisteddfod Radio). Cyflwynwyd cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn 1937, Tlws y Ddrama yn 1961 (daeth i ben yn 1993), Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1978 a Thlws y Cerddor yn 1990. Bellach mae’r Orsedd hefyd yn rhan o seremoni’r Fedal Ryddiaith.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Ymhlith y cyfansoddiadau, 1887-1950, mae 'Yr arwr', awdl fuddugol Hedd Wyn, Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, a beirniadaethau.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn ôl dyddiad yr eisteddfod.