Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [2012x2018] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llungopi o erthygl yn Yr Herald Cymraeg am Elias Henry Jones, mab Syr Henry Jones, a oedd yn frawd i John Jones, tad Angharad Williams (née Jones). Mae'r erthygl yn cynnwys lluniau o Tony Walker a Gail Kincaid, ŵyr ac wyres Elias Henry Jones, ac o Mair Olwen Jones (née Evans), gwraig Elias Henry Jones.
Llungopi o erthygl gan yr awdur Neil Gaiman am Elias Henry Jones ac am ei lyfr The Road to En-dor (1920) ym mhapur newydd y Guardian.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Ganed Elias Henry Jones yn Aberystwyth, yn fab hynaf i'r darlithydd a'r athronydd Syr Henry Jones, a'i addysgu ym Mhrifysgol Glasgow, Prifysgol Grenoble a Choleg Balliol, Rhydychen. Wedi ei alw i'r Bar, cymerodd swydd weinyddol gyda Gwasanaeth Gwladol yr India, gan esgyn i swydd Comisiynydd Cyllidol. Tra'n gwasanaethu fel swyddog ym Myddin yr India yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe'i cipiwyd gan y Twrcïaid a'i garcharu am dair blynedd yng ngharchar rhyfel Yozgad; hanes ei ddihangfa o'r carchar hwnnw yw testun ei glasur The Road to En-dor, a gyhoeddwyd ym 1920. Wedi ei ymddeoliad o'r Gwasanaeth Gwladol ym 1922, dychwelodd i Gymru ac ymddiddori yn y mudiad heddwch rhyngwladol ac mewn addysg yng Nghymru. Ef oedd golygydd y Welsh Outlook o 1927 hyd 1933 (gweler The Welsh Outlook / Y Geninen / Y Deyrnas dan bennawd John Edwal Williams), pryd y'i penodwyd yn gofrestrydd Coleg y Brifysgol, Bangor, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Priododd Mair Olwen Evans, Bangor ym 1913.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Jones, Elias Henry, 1883-1942 (Pwnc)
- Jones, Elias Henry, 1883-1942 -- Family (Pwnc)
- Gaiman, Neil, b. 1960 (Pwnc)