Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1928]-1967 (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
7 eitem.
Context area
Name of creator
Biographical history
Name of creator
Biographical history
Roedd Robert (Bob) Owen, Croesor (1885-1962) yn hanesydd, achyddwr a chasglwr llyfrau. Cafodd ei eni yn Llanfrothen, sir Feirionnydd, ar 8 Mai 1885 a'i fagu gan ei fam-gu, Ann Owen. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Elfennol Llanfrothen nes cyrraedd ei 13 mlwydd oed, pan adawodd i weithio ar wahanol ffermydd. Tair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Chwarel Lechi Parc a Chroesor fel clerc a bu yno tan i'r chwarel gau yn 1931. Yna fe'i penodwyd yn drefnydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr gan Gyngor Gwledig sir Gaernarfon, a bu'n darlithio yn ogystal. Er gwaethaf ei ddiffyg addysg ffurfiol, datblygodd yn hynafiaethydd, achyddwr ac ymchwilydd. Casglodd lawer o lawysgrifau a llyfrau a gwnaeth adysgrifau o gofnodion plwyf a dogfennau eraill. Roedd ganddo ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o bynciau hanesyddol ond yn arbennig hanes y Cymry yn America a chyfrannodd golofn wythnosol, 'Lloffion Bob Owen' yn Y Genedl Gymreig, 1929-1937. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei draethodau ar ymfudiad y Cymry i America yn y cyfnod 1760-1860 ac ar ddiwydiant ardal Dwyryd a Glaslyn yn sir Gaernarfon. Yn 47 mlwydd oed dyfarnwyd iddo radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru a derbyniodd yr OBE. Yr oedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn a hefyd yn ddarlledwr. Priododd Nell (Ellen) Jones o Gaeathro, sir Gaernarfon, yn 1923 a chawsant fab a dwy ferch. Bu farw ar 30 Ebrill 1962 a'i gladdu yn Llanfrothen.
Name of creator
Biographical history
Roedd Iorwerth Cyfeiliog Peate (1901-1982) yn ysgolhaig ac yn fardd.
Fe'i ganwyd ym Mhandy Rhiwsaeson, Llanbryn-mair, Trefaldwyn, yr ail o dri phlentyn George H. ac Elizabeth Peate. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Machynlleth a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r astudiodd dan T. Gwynn Jones a H. J. Fleure a gafodd gryn ddylanwad arno. Arbenigodd mewn Archaeoleg Geltaidd ac yn 1927 penodwyd ef yn Is-Geidwad yn Adran Archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dyrchafwyd Iorwerth Peate yn Bennaeth Is-adran Diwylliant a Diwydiannau Gwerin yn 1932, a gweithiodd yn ddiflino i sefydlu amgueddfa werin yng Nghymru ar batrwm amgueddfeydd awyr-agored gwledydd Llychlyn. Gwireddwyd ei freuddwyd pan agorwyd Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yn 1948 a phenodwyd yntau'n Guradur cyntaf hyd ei ymddeoliad yn 1971. Roedd yn ŵr o argyhoeddiadau cryf ac un annibynnol ei farn ac ymhyfrydai yn 'nhraddodiad Llanbryn-mair' y magwyd ef ynddi, sef traddodiad anghydffurfiol, radicalaidd. Bu'n heddychwr gydol oes a chollodd ei swydd fel Curadur am gyfnod oherwydd ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd Iorwerth Peate yn awdur toreithiog o weithiau ysgolheigaidd Cymraeg a Saesneg yn ogystal â barddoniaeth, rhyddiaith a beirniadaeth lenyddol. Ymhlith ei brif gyfraniadau ym maes diwylliant gwerin mae Y crefftwr yng Nghymru (1933), The Welsh house (1940), Diwylliant gwerin Cymru (1942), Clock and watch makers in Wales (Caerdydd, 1945), a Tradition and folk life: a Welsh view (1972). Cyhoeddodd amryw gyfrolau o ryddiaith, yn eu plith Sylfeini (1938), Syniadau (1969), a'r gweithiau hunangofiannol Rhwng dau fyd (1976), a Personau (1982); bu'n olygydd monograffau megis Hen Gapel Llanbrynmair 1739-1939 (1939), John Cowper Powys: letters 1937-54 (1974), a'r cylchgronau Dragon (1922-1923), Y ddraig goch (1926-1927), a Gwerin. An international journal of folk life (1956-1962). Ymhlith y casgliadau o farddoniaeth a gyhoeddwyd mae Y cawg aur a cherddi eraill (1928), Canu chwarter canrif (1957) sef detholiad o'i gerddi, a Cerddi diweddar (1982) wedi iddo farw. Cyfrannodd nifer helaeth o erthyglau ac adolygiadau i'r wasg, rhai ohonynt dan y ffugenw 'Gwerinwr', ac roedd yn ddarlledydd radio poblogaidd.
Roedd Iorwerth Peate yn aelod o amryw bwyllgorau a bu'n Llywydd y Gymdeithas Fywyd Gwerin, Llywydd Adran H (Anthropoleg) o'r British Association for the Advancement of Science, Is-Lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, un o sefydlwyr a chyn-Gadeirydd yr Academi Gymreig, ac aelod o Lys a Chyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Derbyniodd gydnabyddiaeth am ei gyfraniad ysgolheigaidd gyda'r graddau D. Litt. Celt. er anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon (1960), a D. Sc. (1941) a D. Litt. honoris causa (1970) gan Brifysgol Cymru. Cyflwynwyd bathodyn y Cymmrodorion iddo yn 1978 am ei waith dros Gymru, a chyfrol festschrift, Studies in folk life, gol. J. Geraint Jenkins, yn 1966.
Priododd Nansi (Annie) Davies, yn 1929, a ganwyd mab iddynt, Dafydd (1936-1980). Bu farw Iorwerth C. Peate ar 19 Hydref 1982.
Name of creator
Biographical history
Name of creator
Name of creator
Biographical history
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Gwahanlithoedd, [1928]-1967, o erthyglau o wahanol gyfnodolion: (i) W. F. Irvine, 'Matthew Owen of Llangar (1631-1679)' (o Gylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 8.1 (Haf 1953)), gyda nodyn yn llaw John Cowper Powys ar y clawr blaen; (ii) Bob Owen, 'Y Barque Hindoo, Caernarvon' (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1944); (iii) Bob Owen, 'Plas Tan-y-Bwlch' (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd / Journal of the Merioneth Historical and Record Society, 3 (1957-60)); (iv) Iorwerth C. Peate, 'Folklore Studies in Wales' (o Folk-Lore, 68 (Rhagfyr 1957)); (v) Evan Roberts, 'Cofnodion Festri Plwyf Llandderfel, 1726-56' (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd / Journal of the Merioneth Historical and Record Society, 3 (1957-60)); (vi) Evan Roberts, Brenda Parry-Jones ac E. D. J[ones], 'Merioneth Notes' (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd/Journal of the Merioneth Historical and Record Society (1967)); a (vii) Rev. H. E. Ruddy, 'The Mass-dials of North-east Lindsey', [1928] (cyhoeddwyd mewn sawl cyfnodolyn).
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Trefnwyd yn nhrefn y wyddor yn ôl awdur.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- English
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.