Is-fonds G - Gweithgareddau a digwyddiadau

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

G

Teitl

Gweithgareddau a digwyddiadau

Dyddiad(au)

  • 1974-1994 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Is-fonds

Maint a chyfrwng

24 ffolder a 5 amlen

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

(1979-)

Hanes gweinyddol

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn sefydliad ymchwil sy'n cynnal prosiectau cydweithredol ar hanes, iaith, a llên Cymru, a gwledydd Celtaidd eraill. Roedd Coleg Prifysgol Cymru wedi cydnabod Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ers 1971, sef yr adrannau Cymraeg, Gwyddeleg, a Hanes Cymru. Yn 1976, lansiodd Athrawon yr Ysgol apêl er cof am y llenor Syr Thomas Parry-Williams, a fu farw yn 1975, ac i ddathlu’r ysgolheigion ac Athrawon Astudiaethau Celtaidd eraill a ddysgodd yn Aberystwyth, sef (o’r Adran Gymraeg) Timothy Lewis, Thomas Jones, Garfield Hughes, a J.R.F. Piette; ac (o Adran Hanes Cymru) E.A. Lewis, T. Jones-Pierce, David Williams, ac W. Ogwen Williams. Bwriad yr Apêl oedd codi arian er mwyn sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, gyda'i adeilad ei hun a chysylltiad agos gyda'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yr Apêl yn llwyddiannus, ac agorodd y Ganolfan yn swyddogol yn 1979 yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, gyda'r Athro J.E. Caerwyn Williams fel y Cyfarwyddwr Mygedol gyntaf. Yn 1983 fe wnaeth Coleg Prifysgol Cymru gais llwyddiannus i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion am arian i gyflogi tîm o chwe staff swyddogol yn y Ganolfan, ac yn 1985 apwyntiwyd ei chyfarwyddwr swyddogol cyntaf, Yr Athro R. Geraint Gruffydd. Yn 1988, fe wnaeth y Ganolfan gais llwyddiannus pellach i’r Pwyllgor Grantiau i adeiladu adeilad pwrpasol i gartrefi’r Ganolfan ochr yn ochr ag Uned Geiriadur Prifysgol Cymru. Agorodd yr adeilad newydd yn Aberystwyth, ar bwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn 1993, a chymerodd Yr Athro Geraint H. Jenkins drosodd fel Cyfarwyddwr yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Daeth y Geiriadur o dan gyfarwyddiaeth y Ganolfan yn 2007. Ar ôl ymddeoliad Yr Athro Geraint H. Jenkins yn 2008 apwyntiwyd Yr Athro Dafydd Johnston fel Cyfarwyddwr y Ganolfan tan 2021, pan benododd y Ganolfan ei chyfarwyddwr presennol, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae’r grŵp yn cynnwys papurau yn ymwneud â gweithgareddau a digwyddiadau academaidd a chymdeithasol y Ganolfan, 1974-1994.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Mae rhai dyblygion wedi cael eu tynnu o'r grŵp.

Croniadau

System o drefniant

Trefnwyd yn ôl pwnc mewn pum cyfres: Seminarau a darlithoedd; Fforymau; Gweithgareddau cymdeithasol; Arddangosfa’r Eisteddfod; a Deiseb yr Adran Astudiaethau Celtiadd, Prifysgol Lerpwl.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Ffrangeg
  • Gaeleg yr Alban
  • Gwyddeleg
  • Llydaweg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg a Saesneg yn bennaf; gyda rywfaint o Ffrangeg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, a Llydaweg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Mae rhai papurau yn y grŵp sy'n cynnwys data sensitif wedi cael eu golygu, a gynrychiolir gan dudalennau porffor.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig