Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1909] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
ii, 48 ff. (gwag o f. 41 verso; testun yn bennaf ar y rectos) ; 145 x 105 mm.
Rhwymwyd yn LlGC mewn lledr morocco coch gyda gwaith addurno aur, llinellau aur a doublures sidan, o fewn cas cadw llyfr.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd, newyddiadurwr, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, beirniad ac ysgolhaig, yn y Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos, sir Ddinbych. Yn 1899 priododd Margaret Davies, a chawsant ferch a dau fab. Heblaw am addysg elfennol, yr oedd Jones yn hynanddysgedig, er iddo dderbyn gwersi mewn mathemateg, Lladin a Groeg gan gymydog. Rhwystrwyd ei uchelgais o astudio yn Rhydychen gan afiechyd, a gweithiodd fel newyddiadurwr gyda Baner ac Amserau Cymru, Y Cymro (y daeth yn olygydd arno faes o law), Yr Herald Gymraeg a phapurau newydd eraill rhwng 1891 a 1909, pan gymerodd swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1913, a'i ddyrchafu i Gadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1919; ymddeolodd yn 1937. Derbyniodd y CBE yr un flwyddyn. Dylanwadwyd Jones yn gryf gan y llenor Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan,1851-1906) ac yn arbennig gan y newyddiadurwr a'r cyfieithydd Daniel Rees (1855-1931), gyda'r hwn y magodd berthynas glos. Yn ogystal ag ymhyfrydu mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg cyfoes ac o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, a hefyd llên gwerin ac ieithoedd tramor, yn enwedig Gwyddeleg ac ieithoedd Celtaidd eraill; bu ar ymweliad ag Iwerddon deirgwaith rhwng 1892 a 1913, daeth i gysylltiad ag ysgolheigion Gwyddelig, a defnyddiodd lysenwau fel Fionn mhac Eóghain yn ei ohebiaeth atynt. Ei brif lwyddiant oedd fel bardd pwysicaf ei genhedlaeth, yn cyfansoddi'n bennaf yn y mesurau caeth. Cyfansoddodd a chyhoeddodd farddoniaeth yn y 1880au, ac enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1902 a 1909 (am 'Ymadawiad Arthur a 'Gwlad y bryniau'); ymhlith gweithiau eraill o'i eiddo mae 'Tir na nOg', 'Madog' ac 'Y Dwymyn'. Cyfieithodd Jones waith Goethe, Ibsen, Shakespeare ac eraill i'r Gymraeg, a chyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Gweledigaethau y Bardd Cwsc Ellis Wynne (1670/1-1734). Mae ei brif gyhoeddiadau academaidd yn cynnwys astudiaeth ar waith y bardd Tudur Aled (bl. 1480-1526), ac roedd yn awdur nofelau, dramâu, cofiannau a llyfr taith hefyd. Yn ogystal, yr oedd yn beirniadu a darlithio mewn eisteddfodau yn rheolaidd, ac yn athro dylanwadol.
Hanes archifol
Cyflwynwyd gan T. Gwynn Jones i Alafon ym 1909 (gweler y llythyr oddi wrth Alafon at Jones, LlGC, Papurau Thomas Gwynn Jones G4379); rhoddwyd gan Mrs W. G. Owen, Rhyl (gweddw Llifon, sef brawd Alafon), i John W. Jones, Blaenau Ffestiniog, er cof am Alafon a Llifon, [1922] (f. 1 verso).
Ffynhonnell
Mr J. W. Jones; Blaenau Ffestiniog; Rhodd; Hydref 1949.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Copi têg, [1909], yn llaw T. Gwynn Jones o'i gerdd 'Gwlad y Bryniau', yr awdl fuddugol yng nghystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1909, Llundain. = A holograph fair copy, [1909], of 'Gwlad y Bryniau' by T. Gwyn Jones, the ode which won the chair at the 1909 National Eisteddfod in London.
Cyhoeddwyd yr awdl gyntaf yng Nghofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1909 (Llundain), gol. gan E. Vincent Evans (Llundain, 1910), tt. 25-36, a'i gasglu yn T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau ([Y Drenewydd], 1926), tt. 20-44. = It was first published in Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1909 (Llundain), ed. by E. Vincent Evans (London, 1910), pp. 25-36, and collected in T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau ([Newtown], 1926), pp. 20-44.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl gwreiddiol.
Nodiadau
Preferred citation: NLW MS 16132A.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mehefin 2006 a Medi 2014.
Iaith(ieithoedd)
- Saesneg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Nia Mai Daniel, a'i adolygu gan Rhys Morgan Jones