Gweithredoedd eiddo a phapurau ystâd Bronceiro, Bow Street, Ceredigion. Gellir olrhain cysylltiadau'r teulu Rees gyda Bronceiro pan briododd J. T. Rees gydag Elizabeth Davies, merch Bronceiro. Daeth y cysylltiadau teuluol i ben pan werthwyd y cartref yn 2017.
Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'i nofel gyntaf, adolygiadau o'r nofel a gyhoeddwyd yn 1993, ynghyd â llyfr lloffion, 1985-1988, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gerallt Lloyd Owen ar ran Gwasg Gwynedd. Ceir llythyrau oddi wrth ddarllenwyr yn ei llongyfarch ar ysgrifennu'r nofel, adolygiadau o gylchgronau ac anerchiadau i gymdeithasau ar gefndir hanesyddol a daearyddol y nofel a nodiadau ar gyfer cyfweliad radio.
Sgript 'Buchedd Dewi' gan Moelwyn Merchant gyda chyfieithiad Norah Isaac a chyfarwyddiadau llwyfan wedi'u hychwanegu ganddi. Fe'i perfformiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 1976 yn Eglwys Llanddewi Brefi. Ceir hefyd nodiadau am wisgoedd y cymeriadau.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1995-1996, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith i nifer o fwytai a chaffiau yng Nghaerdydd, a darparwyr gwasanaethau draffordd, yn ymwneud â gweithredu polisi iaith Gymraeg.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1995-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o westai, tafarnau, a bwytai yng Nghaerdydd yn trafod polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiad i’r wasg (1996) oddi wrth y Gymdeithas.
Gohebiaeth a phapurau, 1982-1985, y rhan fwyaf yn ymwneud â chais y Ganolfan i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion, yn cynnwys copi a drafft o adroddiad y cais (1983); amserlen ar gyfer ymweliad y Pwyllgor i’r Ganolfan (1983); agenda a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983-1984); agendâu a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (1984-1985); cofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol (1983); cofnodion cyfarfod Uwch Gynrychiolwyr y Ganolfan (1984); adroddiad ariannol (1983-1984); a llythyrau cysylltiedig yn trafod y cais (1980, a 1982-1985) oddi wrth Gareth Owen; J.E. Caerwyn Williams, Emrys Evans, Ieuan Gwynedd Jones, a Bobi Jones; Emrys Wynn Jones; Peter Swinnerton-Dyer; Bobi Jones; Robin Gwyndaf; Y Parch. Dr Pennar Davies; Mary Burdett-Jones; Hywel Wyn Jones; ac M.A.R. Kemp;
Gohebiaeth a phapurau gweinyddol amrywiol, 1986-1995, yn ymwneud a gweithgareddau a gwasanaethau’r Nant, yn cynnwys papurau yn ymwneud â noddi calendr y Nant (1993); materion staff (1993-1994); Addysg i Oedolion (1994); awdurdodau lleol (1987, 1993); y Cyngor Llyfrau Cymru (1994); trefnu gyrsiau a digwyddiadau (1986-1995); marchnata (1993); grantiau ariannol (1987-1988); yswiriant (1986-1987); torion o’r wasg (1991-1992); a’r adroddiad blynyddol, 1987. Yn ogystal, ceir rhai copïau o’r cylchgrawn ‘Prentis’ (1992-1994).
Copi llawysgrif a llungopi o'r gerdd Cân Bom gan Waldo Williams, y copi llawysgrif yn ei law. Ar du ôl y copi llawysgrif, ceir copi o'r gerdd Almaenes gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd Cân Bom am y tro cyntaf yn rhifyn 3 Ebrill 1946 o'r Faner.