Print preview Close

Showing 160 results

Archival description
Papurau Waldo Williams File
Print preview View:

Tystlythyrau John Edwal Williams

Tystlythyrau John Edwal Williams wrth iddo ymgeisio am swyddi wedi iddo raddio o'r Coleg Normal, Bangor, gan gynnwys tystlythyron oddi wrth John Price, prifathro'r Coleg Normal, ac oddi wrth J. Cocker, prifathro Ysgol Maenclochog, lle cwblhaodd John Edwal dymor prentisiaeth fel athro; ynghyd â curriculum vitae (anghyflawn) John Edwal [yn ei law ei hun].

Lewis Williams

Deunydd yn ymwneud â Lewis Williams, brawd John Edwal Williams, gan gynnwys ffotograff o Lewis Williams ac eraill; cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth Lewis Williams; ysgrif deipysgrif [?gan Lewis Williams]; a gohebiaeth o'r Unol Daleithiau wedi'i gyfeirio at John Edwal ynglyn ag eiddo y diweddar Lewis Williams wedi i hwnnw golli ei gyllidion yn dilyn cwymp Wall Street ym 1929. Ceir nodyn yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal, ar frig un dalen (am David Williams, gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).

Gwybodaeth achyddol

Ebost, dyddiedig 5 Rhagfyr 2011, at dderbynnydd anhysbys yn cynnwys gwybodaeth achyddol am deulu John Edwal Williams. Ceir yr enw 'Dai' (David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal - gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams) ar frig y ddalen yn llaw David Williams.

William Price Jones

Cardiau post, un â marc post 19 Rhagfyr 1915 a'r llall â marc post aneglur, yn dwyn cyfarchion Nadolig at 'Mrs J. E. Williams' (Angharad Williams) oddi wrth ei brawd, William Price Jones. Mae'r cyfeiriad 'Oak or Elm Cottage' ar un o'r cardiau yn enghraifft o hiwmor William Price Jones (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39; gweler hefyd Cardiau post at Mary Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - Mary Francis (née Williams)).

Adroddiad blynyddol y Durban Benevolent Society am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 1974 a roddwyd i neu a anfonwyd at William Price Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), ynghyd â nodyn ar ran y Gymdeithas yn cyfeirio at gwymp a gafodd y derbynnydd, gan obeithio am wellhad buan. Mae'r gyfrol yn cynnwys adroddiad gan William Price Jones, ysgrifennydd a thrysorydd y Gymdeithas.

Llungopïau o lythyrau, 27 Awst 1973 a di-ddyddiad (ond ceir y dyddiad '28 10 76' mewn llaw anhysbys ar frig y llythyr dyddiedig 27 Awst 1975, sydd o bosib yn cyfeirio at y llythyr di-ddyddiad), a llythyr gwreiddiol, 17 Hydref 1975, oddi wrth William Price Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), at ei chwaer Mwynlan Mai Edmond (née Jones). Yn y llythyr di-ddyddiad ceir ôl-nodyn yn llaw William Price Jones a ffotograff ohono (wedi'i lungopïo yn unol â chorff y llythyr) wedi'i glymu i frig y llythyr. Ceir nodyn (heb ei lungopïo) [?yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad] ar frig yr un llythyr yn datgan 'Brawd ieuengaf Angharad i'w chwaer ieuengaf Mwynlan'. Mae'r llythyrau yn cynnwys peth o hanes bywyd William Price Jones yn Durban, De Affrica, cyfeiriad at farwolaeth ei wraig, Doreen, a hanes y llawdriniaeth a gafodd ar ei lygad.

Achau teuluol a chyfrifiadau

Llungopïau a chopïau gwreiddiol o goeden deuluol Angharad Williams (née Jones), yn olrhain manylion teulu ei mam, Margaret Jones, oddi ar Elias Jones, Cwm, Llangernyw. Mae rhai o'r dalennau yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad.

Coeden deulu Syr Henry Jones, brawd John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), a luniwyd - yn ôl nodyn [yn llaw David Williams, nai Waldo a gor-nai Angharad] ar ymyl y ddalen gefn - gan Jean Ware (bellach Hunt, ganed Jones) (a oedd, yn ôl tystiolaeth y goeden deulu, yn wyres i Syr Henry Jones); ynghyd â gwybodaeth bellach ynghylch ŵyrion, gor-ŵyrion a gor-gor-ŵyrion Syr Henry Jones yn llaw Jean Ware.

Llungopi o fanylion achyddol a arysgrifwyd ym meibl teuluol John a Margaret Jones, rhieni Angharad. Nodir genedigaethau plant ac ŵyrion John a Margaret Jones (gan gynnwys Angharad), ynghyd â'r wybodaeth mai anrheg briodas oddi wrth aelodau 'Temlwyr Da Brynaman' oedd y beibl. Yr oedd John Jones yn brifathro Ysgol Elfennol Brynaman ar y pryd.

Achau teuluol Angharad, yn deillio oddi wrth ei thaid a'i nain, Elias ac Elizabeth Jones, Cwm, Llangernyw; ynghyd â manylion achyddol yn llaw David ('Dai') Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad.

Allbrintiadau o fanylion a gymerwyd o gyfrifiadau 1861 a 1881 oddi ar wefan Ancestry.com yn dangos manylion am John Jones, tad Angharad, pan yn blentyn yn byw yn Cwm, Llangernyw, cartref ei rieni, ac yna ym mhlwyf Hanley Castle, Swydd Gaerwrangon, lle 'roedd yn gweithio fel garddwr a lle ganwyd ei ail fab, Azariah Henry Jones, brawd Angharad; hefyd, manylion am Angharad pan yn blentyn yn byw ym mhlwyf Hanley Castle, Swydd Gaerwrangon.

Allbrintiadau o gyfrifiadau 1861 a 1871 yn dangos manylion teulu Elias ac Elizabeth Jones, Cwm, Llangernyw, taid a nain Angharad ar ochr ei thad, a llungopi o gyfrifiad 1881 yn dangos manylion teulu John a Margaret Jones, rhieni Angharad, pan yn byw yn mhlwyf Hanley Castle, Swydd Gaerwrangon, lle ganed Azariah Henry Jones, brawd Angharad. Testun yn aneglur.

Azariah Henry Jones

Copi o ffotograff o Azariah Henry Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), a gymerwyd, yn ôl pob golwg, o ffynhonell brintiedig, ynghyd â rhai manylion bywgraffyddol amdano yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad.

Cardiau post oddi wrth Dilys Williams at Benni ac Elsie Lewis

Cardiau post, marc post 11 Ebrill 1974, marc post 29 [?Rhagfyr] 1975, 1 Ionawr 1977, 23 Gorffennaf 1980 (marc post 24 Gorffennaf 1980), a anfonwyd at Benni ac Elsie Lewis, Llanwnda, Wdig, Sir Benfro ac at Elsie Lewis, Abergwaun, Sir Benfro oddi wrth Dilys Williams.

Achau Wil Penfold; Eisteddfod Genedlaethol Cricieth 1975

Llyfr nodiadau yn llaw Dilys Williams, y nodyn 'ACHAU Wil Penfold' wedi'i ysgrifennu ar y clawr blaen, yn cynnwys un dalen yn unig o nodiadau achyddol, gyda gweddill y gyfrol o'r bron yn cynnwys nodiadau ynghylch amserlen Eisteddfod Genedlaethol Cricieth 1975, pryd y cynhaliwyd [?cystadleuaeth] Cerdd Goffa Waldo yn y Babell Lên. Ar ddalen gyntaf y gyfrol ceir yr enw 'Dil' a rhifau wedi'u hysgrifennu mewn ysgrifen plentyn, ynghyd â'r dyddiad '1975', mae'n debyg yn llaw Dilys Williams.

Ffotograffau teuluol

Llungopïau o ffotograffau o Waldo Williams a'i chwiorydd Morvydd Monica Williams a Mary Enid Williams (yn ddiweddarach Francis) ac o'r pump plentyn - Morvydd Monica, Mary Enid, Waldo, Roger (brawd Waldo) a Dilys Williams (chwaer Waldo). Mae'r arysgrif anhysbys (wedi'i lungopïo) ochr-yn-ochr â'r lluniau yn datgan fel y nodwyd gwybodaeth ar gefn y ffotograffau gwreiddiol gan Dilys Williams.

Llungopi o doriad o'r wasg yn dangos ffotograff o blant ac athrawon Ysgol Mynachlog-ddu, 1915, yn eu plith Waldo Williams, ei chwiorydd Morvydd a Mary, ei frawd Roger a'i dad John Edwal Williams, prifathro'r ysgol. Rhestrir enwau'r plant a'r athrawon ar waelod y llun.

Ysgrif goffa y Parchedig John Jenkins

Toriad papur newydd yn cynnwys ysgrif goffa y Parchedig John Jenkins, gweinidog Capel Bedyddwyr Hill Park, Hwlffordd, Sir Benfro, sef addoldy rhieni Waldo Williams pan oeddent yn byw yno yn ystod blynyddoedd cynharaf Waldo. 'Roedd John Jenkins yn sosialydd ac yn gyfaill agos i John Edwal Williams, tad Waldo. Bu ei fab, W. J. (William James) Jenkins, yn gyfaill bore oes i Waldo.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn bennaf o natur wleidyddol, lenyddol, grefyddol neu gymdeithasol, yn eu plith:

Llungopi o ffotograff o Glunderwen, Sir Benfro, tua throad neu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.

Pamffledyn gan Harold Bing yn dwyn y teitl 'Pacifists over the world'.

Taflen yng ngeiriau George Bernard Shaw yn dwyn y teitl 'Sacrifice - for what?'

Cerdyn cydnabod Mrs Eluned Tilsley, gweddw'r bardd y Parchedig Gwilym Richard Tilsley ('Tilsli').

Rhifyn cyntaf (Nadolig 1946) ac ail rifyn (Calanmai 1947) o gylchgrawn Y Fflam.

Cerdyn yn dangos cofeb y bardd a'r llenor D. J. Williams ar y Lôn Las, Abergwaun.

Cerddi amrywiol

Teipysgrif a llungopïau o amrywiol gerddi yn dwyn y teitlau 'Dydd Barn A Diwedd Byd', 'Saunders Lewis', 'Brambles' a 'Ynys Ffri (O Saesneg W. B .Yeates [sic]' (y ddwy olaf wedi'u llungopïo o ffynhonell brintiedig). Ceir llungopi o gerdd ddrafft - a ymddengys ei bod yn hanner Cymraeg, hanner Saesneg - ar gefn y gerdd 'Saunders Lewis'.

Copïau teipysgrif o sonedau a ymddengys fel pe baent wedi'u cyflwyno ar gyfer cystadleuaeth, gan gynnwys y soned fuddugol, pob un â ffugenw atodol.

Llungopi o gerdd ddi-enw mewn teipysgrif yn dwyn y teitl 'Stafell Blaentwrch'.

Gŵyl Waldo

Gwahoddiad i Dilys Williams i swper fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Waldo, a drefnwyd gan yr Academi Gymreig, 18-19 Ebrill 1986; ynghyd ag amserlen gweithgareddau a phoster yn ymwneud a'r Ŵyl.

Abergwaun Group of the Peace Pledge Union

Llyfr nodiadau yn cynnwys cofnodion cangen Abergwaun o Undeb y Llw o Blaid Heddwch (Peace Pledge Union), 1939-1945, y rhan helaethaf o'r cofnodion yn llaw Dilys Williams, ysgrifennyddes yr Undeb, gydag un cofnod (dyddiedig 6 Rhagfyr 1939) wedi'i lofnodi ganddi, a chofnodion 24 Mawrth 1944 ymlaen yn llaw ei brawd, Waldo Williams. Hefyd yn y gyfrol ceir derbynebau am daliadau; rhestr o aelodau'r Undeb ym mis Gorffennaf 1939; llythyr printiedig at aelod(au)'r Undeb; a thoriad papur newydd yn cynnwys cerdd Alun J[eremiah] Jones (Alun Cilie) 'Diwedd Hydref'.

Y Genhinen

Rhifyn Hydref 1968 o'r cyfnodolyn Y Genhinen. 'Miss D Williams' (nid yn llaw Dilys Williams) wedi'i ysgrifennu ar frig y dudalen flaen.

Llyfr nodiadau: Ymgyrch lyfrau, grŵp trafod

Llyfr nodiadau yn llaw Dilys Williams, yn cynnwys rhestr o lyfrau ar gyfer Ymgyrch Lyfrau 1984 a nodiadau ynghylch grŵp trafod. Rhai tudalennau yn nhu blaen y gyfrol wedi'u torri allan. Mae rhan helaethaf y gyfrol yn wag.

Results 101 to 120 of 160