Showing 3783 results

Archival description
file Welsh
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Cerddi,

Llyfr nodiadau'n cynnwys awdl 'Carcharor' ar gyfer cystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Bro Aled 1984.

Cerddi,

Cerddi Cymraeg a Saesneg, [1930]-[1990], gan gynnwys 'Dieithriaid. I Rosemarie', 1944; ei gyfieithiad 'I ble?' o 'Wohin?' gan Schubert ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1965; 'Adduned. I Gwynfor Evans'; cyfieithiad i'r Saesneg o'i gerdd 'Creiddylad' gan Richard Jeffrey; ei gyfieithiad o'i gerdd 'Llanddwyn' i'r Saesneg; a cherdd 'I gyfarch Rhydwen', Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990. Ceir cerddi hefyd o'r cyfnod cynnar, [1931]-[1939], rhai mewn llawysgrif.

Cerddi,

Llyfr nodiadau'n cynnwys cerddi 'Broliant i brifardd', a 'Gwreichion', awdl (dilyniant o gerddi) ar gyfer Eisteddfod Caernarfon 1984.

'Cerddi'r Gael'

Mae'r ffeil yn cynnwys copïau o'r sgript, 'Cerddi'r Gael. Darlith Deledu gan John Stoddart', 9 Ebrill 1984.

Cerddoriaeth,

Unawdau i unrhyw lais gyda chyfeiliant, ar gerdd gan unrhyw fardd Cymraeg cyfoes; anthem S.A.T.B gyda chyfeiliant organ; cylch o ganeuon unsain; emyn-donau; gwaith ar gyfer grŵp siambr a threfniannau o ddwy alaw draddodiadol ar gyfer gwahanol leisiau, un ohonynt ar gyfer T.T.B.B.

Charles Edwards

Papurau'n ymwneud ag astudiaeth G. J. Williams o waith Charles Edwards, gan gynnwys copi llawysgrif o'i ragymadrodd i'r gyfrol Y Ffydd Ddi-ffuant, ..., gan Charles Edwards (1936), a llythyrau perthynol, 1935.

Christmas Evans

Araith gan y Parch. W. Glasnant Jones ar Christmas Evans, [1938], i'w thraddodi ar ddiwrnod canmlwyddiant marwolaeth Christmas Evans.

Clociau

Llythyrau yn bennaf, 1962-1981, ynglŷn â gwneuthurwyr clociau, nifer ohonynt yn cyfeirio at waith Iorwerth Peate, Clock and Watch Makers in Wales (Caerdydd, 1945). Yn eu plith ceir rhai lluniau o glociau; nodiadau teipysgrif megis 'The nomenclature of sundials', 'Llandovery town clock' a 'Llandovery clockmakers'; a chopi printiedig o'r penillion, 'Myfyrdod ar y cloc yn taro'. Yn ogystal, ceir llythyrau, 1943 (fwyaf) a 1945, yn ymwneud â John Tibbot yn bennaf a Samuel Roberts, yn cynnwys rhai oddi wrth W. Ambrose Bebb; Robert Evans (3); R. T. Jenkins; E. D. Jones (3); Bob Owen; a J. B. Willans.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Results 401 to 420 of 3783