Showing 92 results

Archival description
sub-fonds
Print preview View:

Llawysgrifau wedi'u crynhoi

Llawysgrifau a gohebiaeth, [16 gan., hwyr]-[?1939], a gasglwyd gan G. J. Williams yn ystod ei oes, yn cynnwys barddoniaeth Gymraeg a chyfieithiadau Saesneg; cyfarwyddiadau meddygol; pregeth; traethawd ar gerddoriaeth; cerdd Saesneg gan Iolo Morganwg; a llythyrau oddi wrth William Owen [-Pughe], Iolo Morganwg, John Jones ('Tegid')a D. Lleufer Thomas.

Materion ariannol

Cofnodion ariannol yn cynnwys llyfrau casgliadau, 1841-1982, llyfrau'r eisteddleoedd, 1852-1975, llyfrau'r weinidogaeth, 1898-1991, papurau'r Trysorydd, llyfrau cyfraniadau at Y Casgliad Chwarterol a'r Gronfa Gynnal, ynghyd â ffurflenni cyfamodi, 1951-1986, buddsoddiadau, 1952-1996, yswiriant, 1940-1995, a phapurau ariannol amrywiol, 1910-1997.

Papurau academaidd

Mae'r uned yn cynnwys copïau llawysgrif o'i draethawd MA ac o rai o'i ddarlithoedd hanes, 1920-1949.

Cofysgrifau'r capel

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau cyfraniadau aelodau at y Weinidogaeth, 1862-1993, llyfrau'r eisteddleoedd, 1879-1948, llyfrau casglu cyfraniadau at adeiladu, codi estyniad ac atgyweirio'r capel, 1834-1913, llyfrau cyfrifon, 1878-1893, 1948-1996, a chopïau o'r Suliaduron, 1957-1994.

Cofnodion y Capel

Mae'r grŵp yn cynnwys cofnodion a phapurau, 1865-1866, 1870-1984, yn eu plith cofrestri, cyfrifon, manylion am gyfraniadau aelodau ynghyd â chofnodion Pwyllgor y Capel, Cymdeithas y Chwiorydd a Chymdeithas Lenyddol y Capel.

Papurau llenyddol

Mae'r uned yn cynnwys llawysgrifau a theipysgrifau, [?1915]-[?1999], o farddoniaeth Mathonwy Hughes, cyfrolau cyhoeddedig, erthyglau, ysgrifau, a'i nofel anghyhoeddedig Y Pris, yn ogystal â chopïau o'i waith fel beirniad, beirniadaethau a dderbyniodd ef ar ei waith, a deunydd a baratowyd ar gyfer ymrysonau barddol.

Papurau teuluol

Mae'r uned yn cynnwys papurau aelodau amrywiol o deulu Mathonwy Hughes, [?1847]-[?1986].

Results 81 to 92 of 92