Print preview Close

Showing 20 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Cyfres / Series
Print preview View:

Awdur preswyl

Deunydd yn ymwneud â chyfnodau Menna Elfyn fel awdur preswyl yn Nyffryn Clwyd, Ysgol Dinas Mawddwy a Phrifysgol Cymru Aberystwyth.

Barddoniaeth

Deunydd yn ymwneud â gwaith barddonol Menna Elfyn ac eraill, gan gynnwys teyrngedau i waith a bywyd y llenor Gwyddelig Seamus Heaney.

Canto

Deunydd yn ymwneud â chwmni Canto, a sefydlwyd ym 1997 fel is-gwmni o fewn Antur Teifi er hybu llenyddiaeth Gymraeg.

Cyfieithiadau

Deunydd yn ymwneud â chyfieithu gwaith barddonol Menna Elfyn i amryw ieithoedd, gan gynnwys enghreifftiau drafft o gerddi cyfieithiedig a gohebiaeth rhwng Menna Elfyn a'i chyfieithwyr.

Dedfryd a charchar

Deunydd yn ymwneud â gweithredoedd ymgyrchol Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James fel aelodau o Gymdeithas yr Iaith, gan gynnwys gohebiaeth sylweddol a anfonwyd at Wynfford James a Rhodri Williams yng ngharchar Abertawe yn dilyn eu rhan yn achos difrodi mast Blaenplwyf ym 1978 a dyddiadur carchar a gadwyd gan Menna Elfyn yn ystod ei chyfnod yng Ngharchar Pucklechurch ym 1971.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol, yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn.

Deunydd ychwanegol Mai 2023

Papurau o eiddo neu sydd yn ymwneud â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn a ychwanegwyd at yr archif ym mis Mai 2023, yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn; deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn; llyfrau nodiadau; gohebiaeth; erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn; ynghyd â rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.

Gohebiaeth

Gohebiaeth cyd-rwng Menna Elfyn ac amryw ffigyrau'r byd llenyddol ac aelodau o'i theulu.

Gweithdai

Deunydd yn ymwneud â gweithdai ar gyfer plant ac oedolion a gynhaliwyd gan Menna Elfyn, un a'i ar ei phen ei hunan neu ar y cyd â beirdd neu lenorion erail, gan gynnwys Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas, 2014-2016, a gynhaliwyd yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan.

Gwobrwyon ac anrhydeddau

Deunydd yn ymwneud â gwobrywon ac anrhydeddau a ddaeth i ran Menna Elfyn yn ystod ei gyrfa, y rhan helaeth ohono yn deillio o'i chyfnod fel Bardd Plant Cymru.

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Deunydd yn ymwneud â swyddogaethau Menna Elfyn o fewn Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan a Choleg y Drindod, Caerfyrddin (bellach ill dau yn adrannau o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).

Prosiectau ar y cyd

Deunydd yn ymwneud â phrosiectau a ymgymerwyd gan Menna Elfyn ar y cyd â chyfansoddwyr a cherddorion, artistiaid a gwneuthurwyr ffilm.

Y cyfryngau

Deunydd yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn o fewn cyfryngau'r teledu a'r radio, gan gynnwys dramâu, rhaglenni dogfen, sgyrsiau a chyfweliadau.