Dangos 210 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Waldo Williams
Rhagolwg argraffu Gweld:

Etholiad Cyffredinol 1979

Deunydd yn ymwneud ag Etholiad Cyffredinol 1979 a anfonwyd at Dilys Williams, gan gynnwys pamffledi ymgeiswyr Plaid Cymru, y Blaid Ecoleg (bellach y Blaid Werdd) a'r Ceidwadwyr a thocyn mynediad Dilys Williams i Neuadd y Farchnad Hwlffordd, lle cyfrifwyd y pleidleisiau; ynghyd â phamffledyn yn datgan cefnogaeth i'r ymgyrch etholiadol ar gyfer Cynulliad i Gymru, pan fwriwyd y pleisleisiau ar y cyntaf o Fawrth 1979.

Ffair Ceffylau Bach

Toriad papur newydd yn adrodd fel yr ennillodd Waldo Williams gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod y Tabernacl, Clunderwen, Mai 1931, gyda'i gynnig 'Ffair Ceffylau Bach'. Crybwyllir hefyd lwyddiant diweddar Waldo yng nghystadleuaeth stori fer y cyfnodolyn Y Ford Gron.

Ffotograffau teuluol

Llungopïau o ffotograffau o Waldo Williams gyda'i frodyr a'i chwiorydd a llungopi o doriad o'r wasg yn dangos ffotograff o blant ac athrawon Ysgol Mynachlog-ddu, 1915.

Ffotograffau teuluol

Llungopïau o ffotograffau o Waldo Williams a'i chwiorydd Morvydd Monica Williams a Mary Enid Williams (yn ddiweddarach Francis) ac o'r pump plentyn - Morvydd Monica, Mary Enid, Waldo, Roger (brawd Waldo) a Dilys Williams (chwaer Waldo). Mae'r arysgrif anhysbys (wedi'i lungopïo) ochr-yn-ochr â'r lluniau yn datgan fel y nodwyd gwybodaeth ar gefn y ffotograffau gwreiddiol gan Dilys Williams.

Llungopi o doriad o'r wasg yn dangos ffotograff o blant ac athrawon Ysgol Mynachlog-ddu, 1915, yn eu plith Waldo Williams, ei chwiorydd Morvydd a Mary, ei frawd Roger a'i dad John Edwal Williams, prifathro'r ysgol. Rhestrir enwau'r plant a'r athrawon ar waelod y llun.

Gohebiaeth at Dilys Williams

Gohebiaeth wedi'i gyfeirio at Dilys Williams, yn bennaf oddi wrth aelodau teuluol a chyfeillion, yn ogystal â chan sefydliadau megis aelodau pwyllgor Gŵyl y Sir, Abergwaun (1957), a'r Academi Gymreig yn eu paratoadau ar gyfer Gŵyl Waldo (1986).

Gohebiaeth at Waldo Williams

Llythyrau a chardiau post wedi'u cyfeirio at Waldo Williams, yn bennaf oddi wrth aelodau o'i deulu, gan gynnwys ei wraig, Linda, a chan gyfeillion, gan gynnwys llythyrau a anfonwyd ato yn ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd, 1970-1971.

Guild y Bobl Ifainc, Blaenconin

Manylion o gyfraniadau Waldo Williams ac aelodau o'i deulu i weithgareddau Guild y Bobl Ifainc Capel Bedyddwyr Blaenconin, Llandysilio, Sir Benfro, 1927 - 1935, y wybodaeth yn deillio o bapur newydd lleol (yn ôl pob tebyg, The Narberth, Whitland and Clynderwen Weekly News - gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 161).

Gwahoddiad i ddrama'r geni Ysgol Botwnnog

Cerdyn gwahoddiad (di-ddyddiad) i ddrama'r geni Ysgol Ramadeg Botwnnog, lle bu Waldo Williams yn dysgu o 1942 hyd 1944. Ar gefn y cerdyn ceir enw 'Gruff [Gruffudd] Parry', cyd-athro i Waldo ym Motwnnog, ynghyd ag enwau rhai o gast y ddrama ac enw'r gyfeilyddes.

Gwladys Llewellyn

Deunydd yn cynnwys gohebiaeth wedi'i gyfeirio at Gwladys Llewellyn ac ysgrif goffa iddi.

Gwrthodiad i dalu'r dreth incwm, dedfryd a charchariad Waldo Williams

Toriadau papur newydd yn ymwneud â gwrthodiad Waldo Williams i dalu ei dreth incwm, ynghyd â'i ddedfrydu a'i garcharu o ganlyniad i hynny ym mis Medi 1960; hefyd toriad o rifyn 6 Hydref 1960 o bapur newydd Y Tyst yn cynnwys cerdd gan 'Gerallt' wedi'i chyfeirio at Waldo Williams yn ystod cyfnod ei garchariad.

Gwybodaeth achyddol

Ebost, dyddiedig 5 Rhagfyr 2011, at dderbynnydd anhysbys yn cynnwys gwybodaeth achyddol am deulu John Edwal Williams. Ceir yr enw 'Dai' (David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal - gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams) ar frig y ddalen yn llaw David Williams.

Gŵyl Waldo

Deunydd yn ymwneud â digwyddiadau Gŵyl Waldo, a drefnwyd gan yr Academi Gymreig, sy'n cynnwys darlith gan yr ysgolhaig Cymraeg Dr R. Geraint Gruffydd, taith lenyddol yng nghwmni'r bardd a'r athro Jâms (James) Nicholas, a chyfraniadau gan amryw feirdd a llenorion megis T. Llew Jones, Gruffudd Parry, T. James Jones ac eraill.

Gŵyl Waldo

Gwahoddiad i Dilys Williams i swper fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Waldo, a drefnwyd gan yr Academi Gymreig, 18-19 Ebrill 1986; ynghyd ag amserlen gweithgareddau a phoster yn ymwneud a'r Ŵyl.

Gŵyl y Sir, Abergwaun, 1957

Llyfr nodiadau, y rhan helaethaf ohono yn llaw Dilys Williams, gyda'r nodyn canlynol ar y clawr: 'Is-bwyllgor. Trefnu Rhaglen Cyngerdd yr Adrannau Gwyl [sic] Sir. 1957', sef cyngerdd Adrannau'r Urdd a oedd i'w gynnal 4 Gorffennaf 1957 yn ystod Gŵyl y Sir yn Abergwaun. Mae'r gyfrol yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd yr is-bwyllgor wrth drafod a threfnu'r cyngerdd, a oedd i gynnwys datganiadau o'r awdl Tŷ Ddewi gan Waldo Williams, brawd Dilys, a'r gân 'Molawd Penfro' (geiriau Waldo Williams, cerddoriaeth Gerallt Evans). Yn nhu blaen y gyfrol ceir nodyn, dyddiedig 5 Mehefin 1957, oddi wrth Tom Lewis o Ysgol Gynradd Mynachlogddu at Dilys Williams. Ymddengys mai Dilys Williams oedd ysgrifennyddes yr is-bwyllgor. Ceir hefyd gohebiaeth at Dilys Williams ynglŷn â threfniadau cystadlu Aelwyd Abergwaun ar gyfer yr Ŵyl.

Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif; Hywel Dda

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams sy'n cynnwys nodiadau a gymerwyd o Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif gan R. T. Jenkins (Gwasg Prifysgol Cymru, 1928); nodiadau ar Hywel Dda (c. 880-950); nodiadau ar hanes economaidd a gwleidyddol; a mân nodiadau eraill.

High Above The Great West Road ....

Copi llawysgrif o gerdd gan ac yn llaw Waldo Williams yn cychwyn 'High above the Great West Road ...' a anfonodd Waldo fel rhodd Nadolig, 20 Rhagfyr 1948, at nai Maude Webb, prifathrawes Ysgol Gynradd Lyneham ger Chippenham, swydd Wiltshire, lle 'roedd Waldo'n dysgu ar y pryd; ynghyd â llungopi o'r gerdd. Darlunir y gerdd â phaentiad dyfrlliw gwreiddiol o Geffyl Gwyn Cherhill a Chofeb Lansdowne.

I'r Hafod

Llungopi o'r gerdd I'r Hafod gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law.

Canlyniadau 81 i 100 o 210