Showing 3 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955 Welsh
Print preview View:

Clociau

Llythyrau yn bennaf, 1962-1981, ynglŷn â gwneuthurwyr clociau, nifer ohonynt yn cyfeirio at waith Iorwerth Peate, Clock and Watch Makers in Wales (Caerdydd, 1945). Yn eu plith ceir rhai lluniau o glociau; nodiadau teipysgrif megis 'The nomenclature of sundials', 'Llandovery town clock' a 'Llandovery clockmakers'; a chopi printiedig o'r penillion, 'Myfyrdod ar y cloc yn taro'. Yn ogystal, ceir llythyrau, 1943 (fwyaf) a 1945, yn ymwneud â John Tibbot yn bennaf a Samuel Roberts, yn cynnwys rhai oddi wrth W. Ambrose Bebb; Robert Evans (3); R. T. Jenkins; E. D. Jones (3); Bob Owen; a J. B. Willans.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Llythyrau B

Llythyrau, 1913-1968. Ymhlith y gohebwyr mae Ambrose Bebb (11), Hugh Bevan (4), D. J. Bowen (65), [David Bowen], 'Myfyr Hefin' (1), Euros Bowen (4).

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Papurau Ambrose Bebb

  • GB 0210 AMBEBB
  • Fonds
  • 1887-1955 (yn bennaf 1919-1955) (crynhowyd [1920au]-1958)

Mae'r fonds yn cynnwys gohebiaeth, 1898-1958, dyddiaduron, 1918-1954, llawysgrifau a theipysgrifau llawer o'i gyhoeddiadau llenyddol, hanesyddol, crefyddol a hunangofiannol, 1934-1955, copi o'i draethawd MA, 1920, ynghyd â nifer bychan o ddarlithoedd a phapurau amrywiol, 1937-1949. Mae rhai o'r llythyrau at Bebb, ynghyd â rhai o'i ddyddiaduron, yn taflu goleuni gwerthfawr ar gyflwr a hanes Llydaw cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac i raddau llai, ar hanes cynnar Plaid Cymru.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955