Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

William P. Milne, Leeds,

Estyn gwahoddiad, fel Llywydd Cymdeithas Astudiaethau Celtaidd Swydd Efrog, i W. J. Gruffydd eu hannerch ar unrhyw destun Celtaidd. Amlinellu dibenion y gymdeithas a ffurf y cyfarfod. Y flwyddyn cynt Dr Robin Flower o'r Amgueddfa Brydeinig oedd y darlithydd gwadd a chyn hynny, yr Athro Tolkien o Rydychen. Telir ei gostau teithio ar y trên ac estynnir croeso iddo aros yng nghartref William P. Milne a'i wraig. Brodor o swydd Aberdeen yw William P. Milne.

[William Owen], 'Mate Bill', Biwmares,

Ysgrifennu yn dilyn y mwynhad a gafodd o raglen o ddarlleniadau am Gymru yn farddoniaeth a rhyddiaith. Sylweddola mai oherwydd iddo fynychu dosbarth llenyddiaeth W. J. Gruffydd yn y gorffennol yr oedd y cyfan mor gyfarwydd iddo. Yr oedd y dosbarthiadau hynny fel 'agor drws teml gweledigaethau'. Cafodd bleser mawr o ddarllen gwaith W. J. Gruffydd hefyd. Gwyr am bob troedfedd o'r triongl tir yn Llanddeiniolen a ddisgrifiwyd mor fendigedig gan W. J. Gruffydd.

William Owen,

Bryn Gwynedd, Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog. Archebu copïau o Tannau Tegfelyn.

William Owen,

Wisconsin. Llythyr yn cynnwys atgofion o'r hen ardal a'i hanes ef a'i deulu.

William Morris,

Stockport. Gofyn i Garneddog ail-drefnu ei ysgrif cyn ei roi yn y 'Manion' a nodyn yn diolch am ei gerdyn post.

Results 2401 to 2420 of 45762