Papurau, gan gynnwys llythyron. datganiadau ymgeisyddion, copiau o'r rheolau ac ati yn ymwneud ag etholiad Llywydd ac Arweinydd Grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad yn 2003.
Papurau a gohebiaeth, 1986, yn ymwneud ag ail Fforwm y Ganolfan, ‘Y Traddodiad Barddol yn Iwerddon’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; a llythyrau yn trafod trefnu'r Fforwm oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Morfydd E. Owen; Katherine Simms; Pádraig A. Breatnach; a J. Beverley Smith.
Sgôr mewn llawysgrif o 'Y Tlawd hwn', gan Gilmor Griffiths. Darn adrodd i gyfeiliant telyn. Dim geiriau [o bosib y gerdd o'r un enw gan W. J. Gruffydd].
Copïau o sgôr (anodedig) o 'Y Pren afalau', ar gyfer unawd, gan Gilmor Griffiths, geiriau gan I. D. Hooson. Perfformiwyd am y tro cyntaf gan y Soprano, Jean Gwynn, Nantglyn.
Papurau'n ymwneud â grŵp trafod Y Pentan yn ardal Dyffryn Ogwen, gan gynnwys nifer o gerddi a luniodd ar gyfer eisteddfodau'r Pentan, 1958-1997, a cherddi sydd wedi'u cynnwys yn ei gyfrol O’r niwl a’r anialwch lle cyhoeddwyd detholiad o’i gerddi caeth a rhydd]. Bu'n ysgrifennydd Y Pentan a cheir rhaglenni ar gyfer 1993-94 a 2012-2013.