Dangos 1388 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Mesur datganoli Cymru

Papurau amrywiol ar gyllideb y Swyddfa Gymreig a chynlluniau i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan gynnwys ddogfen boli gan undeb Unsain.

Mesur yr Iaith Gymraeg

Papurau amrywiol ynglyn a Mesur yr Iaith Gymraeg gan gynnwys copiau o bapurau polisi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, deddfwriaeth perthnasol, nodiadau a gohebiaeth.

Mesur yr Iaith Gymraeg

Papurau amrywiol ynglyn a Mesur yr Iaith Gymraeg gan gynnwys nodiadau, gohebiaeth, rhestrau cyrff o fewn cylch gorchwyl y deddf a drafftiau y Gorchymun Cymhwyso Deddfwriaeth.

Mesuriadau tir

Llungopi o ddalen wedi'i chymryd o lyfr nodiadau o eiddo John Edwal Williams, yn dangos manylion mesuriadau tir ym mhlwyf Llandysilio, Sir Benfro. O dan y ddalen llungopiedig, ceir arysgrif eglurhaol, ?o bosib yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal (am David Williams, gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).

Mewn Dau Gae

Copi llawaysgrif o'r gerdd Mewn Dau Gae gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 13 Mehefin 1956 o'r Faner.

Migildi Magildi,

Llungopi o drefniant o'r alaw draddodiadol 'Migildi Magildi' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Sgôr, sol-ffa gyda geiriau.

Min y môr,

Llyfr gwaith Gilmor Griffiths sy'n cynnwys brasluniau, nodiadau a cherddoriaeth 'Min y môr', sef y gwaith creadigol olaf iddo gyfansoddi erbyn Eisteddfod yr Urdd.

Molawd i Gymru,

Cerddoriaeth gan Gilmor Griffiths 'Molawd i Gymru', ar gyfer S.A.T.B., geiriau gan Leslie Harries. Cyfansoddwyd ar gyfer Pasiant y Plant yn Eisteddfod yr Urdd, Yr Wyddgrug, 1958.

Mordaith i Awstralia : dyddlyfr

  • NLW MS 15078B.
  • Ffeil
  • 1865-1866

Dyddlyfr John Davies, Blaenafon, Troed-yr-aur, Ceredigion, yn disgrifio ei daith, yng nghwmni ei chwaer Elizabeth, o Lerpwl i Sydney, Awstralia, Tachwedd 1865–Chwefror 1866; ynghyd â’i brofiadau yn Sydney, Chwefror–Mai 1866. = Journal of John Davies, Blaenafon, Troed-yr-aur, Cardiganshire, describing his voyage, in the company of his sister Elizabeth, from Liverpool to Sydney, Australia, November 1865–February 1866; with an account of his experiences in Sydney, February–May 1866.

Davies, John, 1846-1924.

Morfudd Rhys Clark

Casgliad bychan o bapurau Morfudd Rhys (Morfudd Rhys Clark ar ôl iddi briodi). Fe'i ganed yn 1920, yr hynaf o blant T. Ifor ac Elizabeth Rees, a threuliodd rywfaint o amser yn Bolifia yn cynorthwyo ei thad yn ei waith, yn dilyn ei benodiad cyntaf yno yn 1943. Mae'r casgliad yn cynnwys adroddiadau ysgol Morfudd, 1932-1938, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Dr Williams yn Nolgellau; dyddlyfr ar gyfer taith Ysgol Dr Williams i'r Eidal, 1938; wyth dyddiadur poced ar gyfer 1941-1948; llyfryn yr ysgrifennodd, yn dwyn y teitl "Evocaciones Bolivianas" a chyflwynodd i'w thad yn 1946; dyddlyfr ar gyfer 1947 (wedi'i ysgrifennu gan ddefnyddio dyddiadur ar gyfer y flwyddyn 1945); tystysgrifau; a llythyrau wedi'u cyfeirio ati, 1935-2004. Bu farw Morfudd Rhys Clark yn 2015, a thrwy ei merch, Gwenan, y cyflwynwyd yr archif hon o bapurau T. Ifor Rees a'i dad, J. T. Rees i'r Llyfrgell yn 2016, ac ychwanegiad yn 2018 [gweler disgrifiad lefel Fonds am fanylion pellach].

My little Welsh home,

Trefniant o'r alaw 'My little Welsh home', cyfansoddiad a geiriau gan W. S. Gwynn Williams, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrifau o sgôr, ac un anghyflawn, gyda geiriau.

Canlyniadau 981 i 1000 o 1388