- B/2
- Ffeil
- 1947-2017
Rhan oPapurau Nansi Selwood
Papurau personol amrywiol Nansi Selwood ac yn ymwneud â hi, 1947-2017, gan gynnwys rhaglen Noson Wobrwyo Gwobr Goffa Griffith John Williams, 1988, pan ddyfarnwyd iddi'r wobr gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei nofel Brychan dir; rhaglenni cymdeithasau y bu'n eu hannerch; allbrintiau o erthyglau a gyhoeddwyd ar y We yn 2012 yn ymwneud â’i golwg yn dirywio ac fel yr aeth ati i ddysgu braille yn ei hwythdegau, ynghyd â thaflen angladd ei mam Martha Williams, 1969, a thaflen gwasanaeth angladd Nansi Selwood, 18 Chwefror 2017.