Showing 1388 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cofnodion

Cofnodion cyfarfodydd a phapurau cysylltiol Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2008-2011, ynghyd â chofnodion Cyfarfodydd Cyffredinol a phapurau cysylltiol, 2003-2010.

Cofio (cyfieithiad i'r Saesneg)

Cyfieithiad i'r Saesneg gan William Fillery o Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan o'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams a ymddangosodd mewn rhifyn o'r cylchgrawn Awen, 1966.

Coediog,

Llawysgrif o'r alaw 'Coediog' gan Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B. ond heb eiriau.

Coeden deulu teulu Llewellyn

Llungopi o goeden deulu teulu Llewellyn, sy'n cynnwys Linda Llewellyn (yn ddiweddarach Williams), gwraig Waldo Williams. Lluniwyd y goeden deulu gan R. G. Thorne, Ionawr 1980 (gweler nodyn ar frig y ddalen).

Cloch Llanerfyl,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Gwyn ap Nudd' gan Elfed, i'r gainc 'Cloch Llanerfyl' gan Dwynwen Jones.

Cilmeri,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Carol Nadolig' gan W. Rhys Nicholas, i'r alaw 'Cilmeri' gan Nan James.

Chomisiwn y Gweithly; Cymraeg Yn Y Gweithle; Bwrdd yr Iaith Gymraeg; cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth; apêl ariannol; Plas Pistyll

Gohebaieth a phapurau, yn ymwneud â Chomisiwn y Gweithly (1987), Cymraeg Yn Y Gweithle (1990), Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1995), a chyrsiau (1992-1993); cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr (1984-1986); papurau trafod (1987-1988); apêl ariannol (1983); digwyddiadau (1986-1988); a datblygu Plas Pistyll (1989-1991).

Cerdyn post at Waldo Williams oddi wrth Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)]

Cerdyn post, marc post 4 Medi 1920, a anfonwyd at Waldo Williams gan [ei chwaer] Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)], yn llongyfarch Waldo, yn ôl pob tebyg am ennill Gwobr James yng nghyfarfod gwobrwyo Ysgol Ramadeg Arberth, lle bu'n ddisgybl o 1917 hyd 1922 (gweler Diwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth dan bennawd Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams).

Results 1181 to 1200 of 1388