Print preview Close

Showing 675 results

Archival description
Only top-level descriptions Welsh
Print preview View:

3 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau Alwyn D. Rees,

  • GB 0210 ADREES
  • fonds
  • [c. 1930]-1974 /

Papurau'r cymdeithasegydd Alwyn D. Rees, 1911-1974, yn cynnwys papurau'n ymwneud â Phrifysgol Cymru, yn bennaf â Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1920au-1974, gan gynnwys papurau'n ymwneud â'r comisiwn a sefydlwyd i archwilio strwythur ffederal Prifysgol Cymru yn y 1960au; papurau ynglŷn â lle'r Gymraeg yn y Brifysgol a'r ymgyrch i sefydlu neuadd Gymraeg i fyfyrwyr yn Aberystwyth,1967-1974; papurau'n ymwneud â llyfrau, erthyglau a darlithoedd Alwyn D. Rees, 1933-1973, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, [c.1964]-1974; papurau'n ymwneud â Barn, 1966-1967; papurau'n ymwneud â darlledu yng Nghymru, 1938-1974; papurau'n ymwneud â'r diwydiant llechi yng Nghymru,1946; papurau'n ymwneud â gwleidyddiaeth yng Nghymru, 1911-1974; gohebiaeth gyffredinol, 1935-1974; a phapurau a gohebiaeth bersonol , 1930-1974 = Papers of the sociologist Alwyn D. Rees, 1911-1974, including papers relating to the University of Wales, mainly the University College of Wales, Aberystwyth, 1930s-1974, including papers relating to the commission established to examine the federal structure of the University of Wales in the 1960s; papers concerning the place of the Welsh language in the University and the campaign to establish a Welsh student hostel at Aberystwyth, 1967-1974; papers relating to the University of Malta, 1940-1951; Alwyn D. Rees's research papers, 1933-1973; papers relating to Alwyn D. Rees's books, articles and lectures, and further related research papers assembled by him, 1925-1974; papers relating to the Welsh language, 1952-1974, and 'Cymdeithas yr Iaith Gymraeg', [c. 1964]-1974; papers relating to 'Barn', 1966-1975; papers relating to broadcasting in Wales, 1938-1974; papers relating to the Welsh slate industry, 1946; papers relating to politics in Wales, 1911-1974; general correspondence, 1935-1974; and personal papers and correspondence, 1930-1974.

Rees, Alwyn D.

Papurau Alun T. Lewis,

  • GB 0210 ALULEWIS
  • fonds
  • [1932x1986] /

Papurau Alun Tudor Lewis, [1932x1986], yn cynnwys llyfrau nodiadau gyda drafftiau o'r storiâu byrion a cherddi, 1938-1984; cyfieithiadau gan Alun Tudor Lewis o dair stori a gyhoeddwyd yn Y Piser Trwm, [1957x1986]; sgyrsiau, erthyglau ac adolygiadau c. 1950s-1970s; gohebiaeth, 1948-1984; ac eitemau amrywiol, yn cynnwys eitemau printiedig, drafft o gerdd a cherddi a theyrngedau er cof am Alun Tudor Lewis, [1932x1986] = Papers of Alun Tudor Lewis, [1932x1986], including notebooks containing drafts of short stories and poems, 1938-1984; translations by Alun Tudor Lewis of three stories published in Y Piser Trwm, [1957x1986]; talks, articles and reviews c. 1950's-1970's; correspondence, 1948-1984; and miscellaneous items, including printed items, notes, a draft poem and poems and memorial tributes to Alun Tudor Lewis, [1932x1986].

Lewis, Alun T. (Alun Tudor), 1905-1986

Papurau Alun Eirug Davies

  • GB 0210 ALEIRUG
  • Fonds
  • [1908]-[2017]

Papurau llenyddol ac academaidd Alun Eirug Davies, ynghyd â phapurau ei dad T. Eirug Davies, [1908]-[2017], sy'n cynnwys gohebiaeth, dyddiaduron, barddoniaeth, pregethau a phapurau eraill. = Literary and academic papers of Alun Eirug Davies, together with the papers of his father T. Eirug Davies, [1908]-[2017], comprising correspondence, diaries, poetry, sermons and other papers.

Davies, Alun Eirug, 1932-

Papurau Alaw Ddu (W. T. Rees)

  • GB 0210 ALAWDDU
  • fonds
  • 1865-1904

Gohebiaeth 'Alaw Ddu', 1870-1904; copïau llawysgrif o'i gyfansoddiadau cerddorol, yn cynnwys alawganau, 1878-1901, anthemau,1875-1903, emynau,1865-1895, caneuon crefyddol,1875-1896, caneuon seciwlar, 1879-[c. 1900], a darnau cerddorfaol, 1889-1899; ac eitemau amrywiol, 1879-1894 = Correspondence of 'Alaw Ddu', 1870-1904; manuscripts of his musical compositions, comprising cantatas, 1878-1901, anthems, 1875-1903, hymns, 1865-1895, religious songs, 1875-1896, secular songs, 1870-[c. 1900], and orchestral pieces, 1889-1899; and miscellaneous items, 1879-1894.

Rees, W. T. (William Thomas), 1838-1904

Papurau Alarch Ogwy,

  • GB 0210 ALAGWY
  • fonds
  • 1879-1941 /

Mae'r archif yn cynnwys fersiynau gwreiddiol llawysgrif o lawer o'i gynnyrch llenyddol, yn cynnwys barddoniaeth a thraethodau [c.1880]-1913, a dwy ddrama [c.1941]; torion o'r wasg a deunydd printiedig arall yn gysylltiedig â gweithgareddau Cymdeithas Unedig y Glowyr, Rhanbarthau Castell Nedd, Abertawe a Llanelli,1879-1894, a gohebiaeth, 1890-1939, yn enwedig â Syr Samuel Thomas Evans, AS = Contains original manuscripts of much of his literary output, including poetry and essays, [c. 1880]-1913, and two dramas, [c. 1941]; newspaper cuttings and other printed material relating to the activities of the Amalgamated Association of Miners, Neath, Swansea and Llanelli Districts, 1879-1894; and correspondence, 1890-1939, especially with Sir Samuel Thomas Evans, MP.

Clement, James, Alarch Ogwy, 1862-1943

Papurau Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth,

  • GB 0210 URDYTH
  • fonds
  • 1928-1991 /

Papurau Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, 1928-1991: cofnodion y cyfarfod cyffredinol blynyddol, y pwyllgor cyffredinol a phwyllgorau eraill, 1928-1990; cofnodion, gohebiaeth a phapurau eraill,1968-1991; a chyfrol o dorion o'r wasg a rhaglenni, 1954-1964 = Papers of Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, 1928-1991: minutes of the annual general meeting, general committee and other committees, 1928-1989; membership books of officials and committee members, 1933-1990; minutes, correspondence and other papers, 1968-1991; and volume of newspaper cuttings and programmes, 1954-1964.

Urdd Gobaith Cymru. Aelwyd Aberystwyth.

Papurau Adran Amaethyddol Gymraeg, Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru,

  • GB 0210 AMCYMGPC
  • fonds
  • 1927-1968 /

Papurau yn ymwneud ag Adran Amaethyddol Cymraeg Prifysgol Cymru, 1936-1967, yn cynnwys cyfrifon,1950-1962; rhestri aelodaeth, 1949-1963; cofnodion printiedig Urdd y Graddedigion, 1927-1951; a gohebiaeth yn ymwneud â thermau amaethyddol, 1944-1968 = Papers relating to the University of Wales Guild of Graduates, Adran Amaethyddol Cymraeg, 1936-1967, comprising accounts, 1950-1962; membership lists, 1949-1963; printed records of the Guild of Graduates, 1927-1951; and correspondence relating to farming terms, 1944-1968.

University of Wales. Guild of Graduates. Adran Amaethyddol Gymraeg.

Papurau A. Cadnant Ellis,

  • GB 0210 ACALLIS
  • fonds
  • [20fed ganrif] /

Papurau Arthur Cadnant Ellis [20fed ganrif], yn cynnwys traethodau ar 'Rhai o Enwogion Aberllefenni' a 'John Jones (Jac) Glan-y-gors a'i Amserau (1766-1821)'; braslun o hanes achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Harlech a Llanfair, sir Feirionnydd; torion erthyglau, llythyrau, etc., a gyfrannodd i'r wasg; a nodiadau amrywiol = Papers of Arthur Cadnant Ellis, [20th century], including essays on 'Rhai o Enwogion Aberllefenni' and 'John Jones (Jac) Glan-y-gors a'i Amserau (1766-1821)'; a brief history of the Calvinistic Methodist cause in Harlech and Llanfair, Merionethshire; cuttings of articles, letters, etc., which he contributed to the press; and miscellaneous notes.

Ellis, A. Cadnant (Arthur Cadnant), 1909-1984

Pamffledi etholiadol Plaid Cymru, plwyf Llangiwg,

  • NLW Misc. Records 309.
  • File
  • Mawrth 1934.

Pamffledi etholiadol (2), 1934, a ddosparthwyd ar ran y Parch H. Samuel pan oedd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyngor Plwyfol Llangiwg, Morgannwg. = Two election pamphlets, 1934, of the Rev. H. Samuel as a Plaid Cymru candidate in Llangiwg Parish Council Election.

Owen Williams, Eglwysbach, cerddor,

  • NLW Misc. Records 405.
  • file
  • [1900x1977].

Geiriau (Cymraeg a Saesneg) a cherddoriaeth cân yn dwyn y teitl 'Nadolig? Pwy a wyr', ynghyd â sgript rhaglen ar fywyd Owen Williams, Eglwysbach, cerddor a chyfansoddwr. = Copy of the words (Welsh and English) and music of a song entitled 'Christmas maybe?'; and a copy of the script of a programme on the life of Owen Williams of Eglwysbach, musician, composer.

Nodiadau T. E. Ellis ar Morgan Llwyd

  • NLW MS 24073B
  • File
  • 1893, [c. 1897]

Copi personol Thomas [Edward] Ellis, wedi ei ryngddalennu, o Morgan Llwyd, Llyfr y Tri Aderyn (Lerpwl: Isaac Foulkes, 1893), yn cynnwys nodiadau ac arnodiadau helaeth, yn Saesneg a Chymraeg, yn llaw Ellis, [c. 1897]. Ellis oedd golygydd cyfrol gyntaf Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899), lle'r atgynhyrchwyd testun argraffiad cyntaf Llyfr y Tri Aderyn (1653) (tt. 151-266). = Thomas [Edward] Ellis's personal interleaved copy of Morgan Llwyd, Llyfr y Tri Aderyn (Liverpool: Isaac Foulkes, 1893), containing copious notes and annotations, [c. 1897], by Ellis in English and Welsh. Ellis was the editor of the first volume of Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899), in which was reproduced the text of the first edition of Llyfr y Tri Aderyn (1653) (pp. 151-266).
Mae'r gyfrol yn cynnwys mân arnodiadau ar y testun gwreiddiol gyda nodiadau ychwanegol ar y rhyngddalennau (ff. 28 verso-141 verso passim). Ceir nodiadau a dyfyniadau mwy sylweddol, ar bynciau megis y Rhyfel Cartref a'r Werinlywodraeth, Oliver Cromwell, John Milton, diwinyddiaeth Gatholig, y Bumed Frenhiniaeth a'r Piwritaniaid Cymreig, ar y dalennau ychwanegol ar gychwyn a diwedd y gyfrol (ff. 1 verso-15, 25 verso-26, 145-150), gan ddyfynnu amrywiaeth o ffynonellau. = The volume contains minor annotations to the original text with further notes supplied on the interleaves (ff. 28 verso-141 verso passim). More substantial notes and quotations, on subjects including the Civil War and Commonwealth, Oliver Cromwell, John Milton, Catholic theology, the Fifth Monarchy and the Welsh Puritans, have been written on the additional leaves at the beginning and end of the volume (ff. 1 verso-15, 25 verso-26, 145-150), quoting various sources.

Ellis, Thomas Edward, 1859-1899

Nodiadau Syr Ben Bowen Thomas ar faledi,

  • NLW ex 2726.
  • file
  • [1949]-[1950].

Nodiadau, [1949]-[1950], ar ffynonellau baledi ar slipiau o bapur mewn amlenni wedi'u trefnu yn ôl thema [ar gyfer ei gyhoeddiad Drych y baledwr (Aberystwyth, 1958)], gan gynnwys llythyrau a dderbyniodd yn ymwneud â'i ymchwil.

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977.

Nodiadau pregethau,

  • NLW MS 16079A.
  • file
  • 1821 /

Cyfrol yn cynnwys nodiadau pregethau, 1821, yn llaw y Parch. Daniel Evan Owen, Trefdraeth, sir Benfro. = A volume of sermon notes, 1821, in the hand of the Rev. Daniel Evan Owen, Newport, Pembrokeshire.

Owen, Daniel E. (Daniel Evan), 1803-1830.

Nodiadau o bregethau,

  • NLW ex 2398.
  • file
  • [1847]-[1866].

Nodiadau am bregethau a phregethwyr, y darlleniadau a thestun y bregeth, [1839]-[1866], ar ddalennau rhydd. Rhestrir pregethwyr Sasiwn Machynlleth 1839.

Nodiadau ieithyddol gan Robert Vaughan, Hengwrt,

  • NLW MS 23883D.
  • File
  • [1632x1667]

Copi o gyfrol John Davies, Mallwyd, Antiquae Linguae Britannicae...et Linguae Latinae, Dictionarium Duplex (Llundain: R. Young, 1632, STC 6347), gyda nodiadau helaeth, [1632x1667], yn llaw Robert Vaughan, Hengwrt, yn cynnwys yn bennaf eiriau (ff. 9-66 passim) a diarhebion (ff. 191-195 passim) Cymraeg ychwanegol. = A copy of John Davies of Mallwyd's Antiquae Linguae Britannicae...et Linguae Latinae, Dictionarium Duplex (London: R. Young, 1632, STC 6347), with extensive annotations, [1632x1667], in the hand of Robert Vaughan of Hengwrt, comprising mostly additional Welsh words (ff. 9-66 passim) and proverbs (ff. 191-195 passim).

Vaughan, Robert, 1592-1667

Nodiadau ar hanes Methodistiaeth Sir Gaernarfon

  • NLW MS 16490B.
  • File
  • [1903x1924]

Cyfrol o nodiadau, [1903x1924], ar hanes eglwysi Methodistiaid Calfinaidd yn sir Gaernarfon, yn llaw'r Parch. William Hobley, ar gyfer ei Hanes Methodistiaeth Arfon, 6 chyfrol (Caernarfon, 1910-24). = A volume of notes, [1903x1924], on the history of Calvinistic Methodist churches in Caernarfonshire, in the hand of Rev. William Hobley, in preparation for his Hanes Methodistiaeth Arfon, 6 vols (Caernarfon, 1910-24).
Mae'r nodiadau ac adysgrifau wedi eu tynnu o nifer o ffynonellau llawysgrif a phrintiedig, mewn perthynas ag amryw o eglwysi, gan gynnwys Salem, Llanllyfni (ff. 2-35), Y Graig, Bangor (ff. 60 verso-74), a'r Tabernacl, Bangor (ff. 84-91). = The notes and transcripts are taken from various manuscript and printed sources and relate to a number of churches, including Salem, Llanllyfni (ff. 2-35), Y Graig, Bangor (ff. 60 verso-74), and Tabernacl, Bangor (ff. 84-91).

Hobley, W. (William), 1858-1933.

Results 301 to 320 of 675