Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 5987 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil / File
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Radio Yes Cymru

Deunydd yn ymwneud â Radio Yes Cymru, sy'n cynnwys ffotograff o Siôn Jobbins yn darlledu ar Radio Yes Cymru am y tro cyntaf, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018; rhestr cyfranwyr a fu'n darlledu ar Radio Yes Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018; a chofnodion cyfarfod Radio Yes Cymru, 6 Hydref 2018. = Material relating to Radio Yes Cymru, comprising a photograph of Siôn Jobbins hosting Radio Yes Cymru's very first broadcast during the National Eisteddfod of Wales held in Cardiff in 2018; a list of the contributors who broadcast on Radio Yes Cymru during the National Eisteddfod of Wales held in Cardiff in 2018; and records of a Radio Yes Cymru meeting held 6 October 2018.

Deunydd amrywiol = Miscellaneous material

Llungopi o archwiliad o'r enw The Flotilla Effect a gyhoeddwyd gan Adam Price a Ben Levinger yn 2011 tra'r oedd y ddau yn dilyn cyrsiau ymchwil mewn prifysgolion yn yr Unol Daleithiau. = Photocopy of a report titled The Flotilla Effect, published by Adam Price and Ben Levinger in 2011 while they were both conducting research at universities in the United States.
Copi o The National, 7 Medi 2019, papur newydd sy'n gefnogol i ymgyrch annibyniaeth yr Alban. = Copy of The National, 7 September 2019, a newspaper supportive of Scotland's campaign for independence.

'The Peak'

Dau gopi o sgript 'The Peak', 1973, drama deledu gan y bardd a'r awdur Emyr Humphreys, wedi'i gyfieithu a'i addasu o'r stori fer Y Garnedd Uchaf gan y dramodydd, llenor ac academydd John Gwilym Jones o'i gyfrol Y Goeden Eirin, a gyfieithwyd fel The Plum Tree (https://www.ebay.com/itm/394017519616), ynghyd ag amserlenni (call sheets) dyddiedig Ionawr 1973.

Hugh Griffith

Deunydd yn ymwneud â'r actor Cymreig Hugh Griffith, sy'n cynnwys:
Cardiau post yn dangos Theatr Frenhinol Shakespeare a Theatr yr Alarch (Swan Theatre), Stratford-upon-Avon (di-ddyddiad).

Taflenni argraffiedig gyda manylion dadorchuddio cerflun er cof am Hugh Griffith gan y cerflunydd John Meirion Morris. Am yr achlysur hwn, gweler, er enghraifft: https://artuk.org/discover/artworks/hugh-griffith-19121980-277631 [1980].

Llungopi o 'Y Gigfran', drama radio a ddarlledwyd ar Radio Cymru, 15 Tachwedd 1946, sy'n seiliedig ar waith y llenor Edgar Allan Poe, yn arbennig felly ei gerdd 'The Raven', a atgynhyrchir yma ochr-yn-ochr â chyfieithiad y gerdd i'r Gymraeg; cymerir rhan cymeriad 'Llais 2' gan Hugh Griffith. Dyddir y deunydd gwreiddiol [1946].

Llungopi o erthygl yn y wasg gan Hugh Griffith yn dwyn y teitl 'Tro ym Mhen Llŷn' (dim dyddiad yn amlwg, ond mae cynnwys yr erthygl yn awgrymu dechrau'r Ail Ryfel Byd).

Llungopi o gyfieithiad i'r Saesneg [?gan ac] yn llaw y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis o bennill gyntaf yr emyn 'Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon, 'Rwyt ti'n llawer gwell ['mwy' yw'r testun cywir] na'r byd ...' (di-ddyddiad).

Llungopïau o ffotograffau yn dangos Hugh Griffith yn ei fynych rannau mewn ffilmiau (di-ddyddiad, ond awgrymir dyddiad yn ôl y ffilm).

Darlun cartŵn o Hugh Griffith yn rhan Falstaff (1964) (gweler https://collections.shakespeare.org.uk/search/museum/strst-sbt-2017-13-38). Dyddir y deunydd gwreiddiol [1964].

Llungopïau o lythyrau at Hugh Griffith, sydd bennaf yn trafod gwaith a llwyddiannau Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis (1950, 1959, 1960, 1975); y darlledwr a swyddog gweithredol y BBC Huw Wheldon (1954); yr actor a'r canwr Richard Harris (1962); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1962); y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans ([?1963]); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y dramodydd, awdur ac ysgolhaig John Gwilym Jones (1965); y bardd a'r dramodydd Christopher Fry (1975); a'r newyddiadurwr, awdur a gohebydd John Arlott (di-ddyddiad).
Ceir hefyd lythyr di-ddyddiad oddi wrth 'Charlotte' (enw'r derbynnydd yn annarllenadwy).

Llungopïau a chopïau o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans (1964); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1965); a'r awdur, cynhyrchydd drama ac ymgyrchydd iaith Norah Isaac (1940-1941, 1961 a di-ddyddiad), rhai o'r llythyrau wedi'u hanfon tra bod Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llungopïau a chopïau teipysgrif o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith at aelodau teuluol, gan gynnwys yr actores a'r athrawes Elen Roger Jones a'i gŵr Gwilym Roger Jones, sef chwaer a brawd-yng-nghyfraith Hugh Griffith, a'u merch Mary (neu Meri) Rhiannon (un llythyr yn anghyflawn) (1942-1945, 1957-1959 a di-ddyddiad); a'i fam Mary Griffith (di-ddyddiad). Anfonwyd nifer o'r llythyrau tra 'roedd Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llungopïau a chopïau yn bennaf o ohebiaeth, 1960-1961 a di-ddyddiad, rhwng Hugh Griffith a chynrychiolwyr o gwmni ffilmiau Metro-Goldwyn-Mayer (MGM) tra 'roedd Griffith yn chwarae, neu'n paratoi i chwarae, rhan 'Alexander Smith' yn y ffilm 'Mutiny on the Bounty' (1962), ynghyd â rhai amserlenni (call sheets) a rhan o'r sgript. Rhai o'r llythyrau oddi wrth Griffith wedi'u croesi allan a heb eu hanfon. Un llythyr yn Ffrangeg.

Sentencing debate

Speech notes relating to the House of Commons sentencing debate which took place on 19 June 1996.

Mensa debate

Speech notes utilised in a Mensa debate, 20 June [1996], which postulated that 'This House has no Confidence in Her Majesty's Government'. Annotated at top of notes: 'My opponent in the debate at Simpsons in the Strand [sic] was Boris Johnson'.

Crime Bill debate

Speech notes relating to the House of Commons Crime Bill debate, which took place 4 November 1996.

Canlyniadau 5921 i 5940 o 5987