Gohebiaeth a phapurau, 1980-1993 a 1997-2013, yn ymwneud â chyflogaeth a gwirfoddoli yn Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys y Rhaglen Cymuned y Canolfan Gwaith; adroddiadau; gweithgareddau staff; hyfforddiant; swyddi; a pholisiau staff.
Papurau, 1980-1991, yn ymwneud â chyfraniadau gan staff y Ganolfan i gyhoeddiadau, yn cynnwys drafftiau teipysgrif, amcangyfrifon argraffu, a gohebiaeth gysylltiedig.
Papurau yn ymwneud gyda chyhoeddiadau Alun Eirug Davies, 1934-[2017], ei ddiddordebau mewn hanes Ceredigion a’r diwydiant gwneud papur yng Nghymru, ynghyd ag astudiaethau o waith ei Dad.
Gohebiaeth a phapurau, 1978-1997 a 2002-2008, yn ymwneud â datblygu y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn a darparu gwasanaethau, yn cynnwys cynlluniau busnes; trefnu cyrsiau; datblygu’r safle; strategaethau; yr Ymddiriedolaeth; nawdd; rhaglen EWROSGOL, a gweithgareddau a digwyddiadau yn y Nant. Mae rhai o’r ffeiliau hefyd yn ymwneud â phrynu a datblygu Plas Pistyll.
Deunyddiau graffig yn cynrychioli agweddau o safle Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys gwaith celf plant Ysgol Parc y Bont, Llanedwen (1987), a chynllun safle pensaernïol Nant Gwrtheyrn ([?1985]-[?1995]).