Gohebiaeth, 1990, yn trafod ymchwilio ac ysgrifennu’r gwaith arfaethedig ‘Welsh Recusants and Catholics 1559-1791: A Directory’, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Martin Cleary ac R. Geraint Gruffydd. Mae’r llythyrau yn cynnwys nodiadau a drafftiau penodau; drafftiau o’r cyflwyniadau; map braslun o Aberhonddu; ac un ffotograff.
Brasluniau, lawysgrifau a llungopïau o sgorau o 'Goleuni'r byd' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Mairlyn Lewis. Trefniadau ar gyfer S.S.A.A. neu S.S.T.B..
Dau drefniant gwahanol o'r alaw 'Dyfrdwy' gan John Jeffries, trefniant i bedwar llais gan Gilmor Griffiths, geiriau 'Goleuni'r Gair' gan Richard Jones, Llanfrothen.
Rhaglen Prifysgol Cymru yn cynnwys cyflwyniad Yr Athro G. J. Williams i Tegla Davies pan dderbyniodd radd Doethur mewn Llên er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe yn 1958.
Papurau, 1983-1984, yn ymwneud â cheisiadau grantiau a chymrodoriaethau ymchwil amrywiol, yn gynnwys copïau o ffurflenni cais a chanllawiau ar gyfer ceisiadau grantiau Yr Academi Prydeinig, y 'Social Science Research Council', y ‘Twenty-Seven Foundation’; a chymrodoriaethau Prifysgol Cymru, y ‘Lister Institute of Approved Medicine’, a Prifysgol Casnewydd; a llythyrau yn trafod y ceisiadau grantiau oddi wrth G. J. Roderick; G.S. Dawes; ac Emrys Wynn Jones. Yn ogystal, ceir copi o gylchlythyr Coleg Prifysgol Cymru, ‘News and Views’ (1983); a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983).
Llungopi o drefniant Gilmor Griffiths o'r alaw draddodiadol 'Green sleeves' perfformiwyd gan Gantorion y Wledd Ganoloesol, Castell Ruthun, yng Nghastell Rhuthun. Sgôr gyda geiriau.
Manylion o gyfraniadau Waldo Williams ac aelodau o'i deulu i weithgareddau Guild y Bobl Ifainc Capel Bedyddwyr Blaenconin, Llandysilio, Sir Benfro, 1927 - 1935, y wybodaeth yn deillio o bapur newydd lleol (yn ôl pob tebyg, The Narberth, Whitland and Clynderwen Weekly News - gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 161).
Llyfr nodiadau gyda stamp Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys cerddi ganddo 1921-1924, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Gwaed ifanc yn 1923 gyda cherddi gan E. Prosser Rhys, a llungopi o’r gyfrol, ynghyd ag adolygiadau oddi ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein, 2016. Ceir gosodiad cerdd dant Dewi Mai o Feirion mewn sol-ffa o ddwy gerdd ‘Atgof’ a ‘Mi wn’ gan John Eilian, Nadolig 1947, i ddathlu llwyddiant John Eilian yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1947.
Cerdyn gwahoddiad (di-ddyddiad) i ddrama'r geni Ysgol Ramadeg Botwnnog, lle bu Waldo Williams yn dysgu o 1942 hyd 1944. Ar gefn y cerdyn ceir enw 'Gruff [Gruffudd] Parry', cyd-athro i Waldo ym Motwnnog, ynghyd ag enwau rhai o gast y ddrama ac enw'r gyfeilyddes.
Gohebiaeth a phapurau, 1990-97, yn ymwneud â materion gweinyddol amrywiol, yn cynnwys grantiau, llif arian a chyfrifon, cyflog a swyddi, digwyddiadau; marchnata; a gwaith cynnal a chadw. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papurau a gohebiaeth yn ymwneud â Gŵyl ieithoedd Ewrosgol Cymru (1991); sêl Plas Pistyll (1995-1996); achos HTV yn erbyn cyfreithwyr Hugh James (1996-1997); copi o Adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1995), a copi o Cynllun Strategol Nant Gwrtheyrn (1997).
Gohebiaeth a phapurau, 1988, yn ymwneud ag wythfed Fforwm y Ganolfan, ‘Gwaith Prydydd y Moch’, yn cynnwys slipiau ateb; rhaglen; rhestr o fynychwyr; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Gwynfor Evans; Morfydd E. Owen; ac R. Geraint Gruffydd.
Copi mewn llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o 'Gwaith yr Iesu', o'r alaw 'Saron' gan Thomas Hughes, Gendros, ar gyfer S.A.T.B., geiriau Cymraeg gan Elfed.
Gohebiaeth a phapurau, 1987-1990, y rhan fwyaf yn ymwneud â gwasanaethau cyfieithu; ymweliadau, a nawdd. Yn ogystal, ceir copïau o gynlluniau adeiladol Nant Gwrtheyrn (1989); a llungopi o ran o’r map Arolwg Ordnans 1918 ardal y Nant (1989).