Llythyr drafft, 19 Ionawr 1974, oddi wrth Dilys Williams at Meic Stephens, oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yn trafod manylion poster a fyddai'n dwyn geiriau'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams, brawd Dilys. 'Roedd 'Cofio' yn un o gyfres o bosteri a gyhoeddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a oedd yn arddangos cerddi Cymraeg yn erbyn cefndiroedd darluniadol o waith yr arlunydd Sue Shields.
Llythyr, 14 Gorffennaf 1920, oddi wrth Nan a Waldo Roberts, Sgiwen, Castell-nedd Port Talbot at Gwladys [Llewellyn] yn datgan cydymdeimlad ar achlysur marwolaeth ewythr Gwladys, sef William Williams (Gwilamus), brawd John Edwal Williams, tad Waldo (gweler William Williams (Gwilamus) dan bennawd John Edwal Williams).
Llungopi o lythyr, 2 Mehefin 1943, oddi wrth yr ysgolhaig Cymreig Syr Thomas Parry at Gwladys Llewellyn, Rhosaeron, Clunderwen yn holi ar ran ei frawd, Gruffudd Parry, ynglŷn â phrynu torch ar gyfer angladd Linda Williams (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams. 'Roedd Gruffudd Parry a Waldo yn gyd-athrawon yn Ysgol Ramadeg Botwnnog pan fu farw Linda o'r ddarfodedigaeth ar y cyntaf o Fehefin 1943.
Llungopi o lythyr, [1942], oddi wrth Waldo Williams at ei chwaer Dilys Williams. Crybwyllir yn y llythyr fod Waldo newydd gwblhau ei ddatganiad o wrthwynebiaeth cydwybodol i'r rhyfel ar gyfer ei achos yn y tribiwnlys ar 12 Chwefror 1942, a sonnir hefyd am bryderon Waldo ar ran ei wraig Linda (née Llewellyn), oedd yn poeni y byddai Waldo'n colli ei swydd (fel prifathro Ysgol Casmael, Sir Benfro) o ganlyniad i'w ddaliadau heddychol.
Dwy ddalen llungopi ac un ddalen wreiddiol o lythyr, 1958, oddi wrth Waldo Williams at Y Faner, yn cynnig dadansoddiad eglurhaol o'i gerdd Mewn Dau Gae, a gyhoeddwyd yn rhifyn 13 Mehefin 1956 o'r wythnosolyn hwnnw.
Llungopi o lythyr, 24 Hydref 1962, oddi wrth y Parchedig Robert Parri Roberts at 'Mr Hughes' - o bosib John Hughes, Llangernyw (gweler Llythyr at Mr a Mrs John Hughes, Llangernyw dan bennawd Angharad Williams (née Jones)). Yng nghymal clo'r llythyr sonia Robert Parri Roberts am Waldo Williams fel ei "[g]yfaill pur - y Bardd mawr, Waldo Williams". Ar waelod y ddalen flaen ceir arysgrif o bosib yn llaw David Williams, nai Waldo (gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).
Ymhlith y llythyrau mae un oddi wrth T. E. Nicholas a soned 'Syrcas Caernarfon 1969' ganddo mewn teipysgrif gyda nodyn yn ei law: 'Fy soned olaf, ar ben fy mhlwydd yn 89 Hyd 6/68'
Llythyrau a cherddi i Yr Efrydydd, [1917]-[1946], oddi wrth T. Gwynn Jones at y golygydd E. Tegla Davies. = Letters and poems, [1917]-[1946], from T. Gwynn Jones to E. Tegla Davies, editor of Yr Efrydydd.
Cerdyn post, marc post 22 Gorffennaf 1966, a llungopïau o lythyrau, 5 Gorffennaf 1961, 5 September 1965, 5 Awst 1966, 23 January 1967, 15 February 1967, 17 September 1967, a anfonwyd at Waldo Williams gan Gwilym James, Is-Ganghellor Prifysgol Southampton, darlithydd gwâdd a chyfaill prifysgol Waldo.
Llythyrau oddi wrth Martin Cleary, 1991, yn trafod ymchwilio ac ysgrifennu’r gwaith arfaethedig ‘Welsh Recusants and Catholics 1559-1791: A Directory’, yn cynnwys nodiadau ar strwythur y gwaith; rhaglen cynhadledd ‘Catholic Family History in Wales’ (Hydref 1991); a rhaglen cynhadledd y ‘Catholic Record Society’ (Gorffennaf 1991).
Llythyrau a phapurau eraill yn ymwneud â sefydlu a gweithgareddau cynnar Dolen Cymru, gan gynnwys cyfarfodydd dechreuol a dewis Lesotho fel y wlad bartner, a chynnwys gohebiaeth rhwng aelodau a chyda Sefydliad Iechyd y Byd, y Cyngor Prydeinig, Uchel Gomisiwn Lesotho a'r Elusen Comisiynwyr, drafftiau, datganiadau i'r wasg ac ati.
Llythyrau a phapurau eraill, gan gynnwys datganiad ymddiriedaeth, 1985; apêl am flancedi ar gyfer Lesotho, 1986; rhestr o gysylltiadau ysgol, 1987; cynnig i gysylltu dinasoedd Caerdydd a Maseru, 1989; a chynnwys gohebiaeth rhwng aelodau a chydag Uchel Gomisiwn Lesotho, y Cyngor Prydeinig a'r Comisiynwyr Elusennau.
Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd (1); E. Morgan Humphreys (1); Rhiannon Davies Jones (1); John Lloyd, ei dad (1); Thomas Parry (2); Iorwerth Peate (2); Goronwy Roberts (1); David Thomas (Lleufer); a G. J. Williams (1).