Thomas Owen Jones ('Gwynfor'), D. Clydach Thomas a'r Parch. W. E. Williams ar 'Cystadleuaeth chwarae drama'. Enillwyd y wobr gyntaf gan 'Cwmni Trecynon' a'r ail gan 'Cwmni Pontardulais' [rhif 75 yn y Rhestr Testunau]. Teipysgrif.
Bywyd cymdeithasol a cherddorol godreu'r Hiraethog, Cefn Brith, Pentrefoelas, Ysbyty Ifan. Y Faner, c. 1924-30. Beirniadaethau Eisteddfod Godre Hiraethog, 1922; Eisteddfod Gadeiriol Llansannan, 1926; Eisteddfod Pentrefoelas, d.d.
Mae'n amgau sgwrs ar Elis Gruffydd a ddarlledwyd beth amser ynghynt i'w gynnwys yn Y Llenor. ['Elis Gruffydd, Y Milwr o Galais', Y Llenor cyfrol XVI (1937), tt. 183-9]. Mae'n gobeithio ysgrifennu'n llawnach ryw ddydd am Elis Gruffydd a'i gronicl.
Mae'n anfon copi o The Diaries of Lady Charlotte Guest mewn pecyn ar wahân gan obeithio y caiff W. J. Gruffydd flas ar y gyfrol. Mae'n trafod y term 'pendefig' ac yn nodi enghreifftiau o lenyddiaeth yr Oesoedd Canol er mwyn ceisio dangos bod 'pendefig' yn deitl fel 'arglwydd' a 'thywysog'.
Cerrigellgwm, Ysbyty Ifan. Trafod cyfrol newydd a llenorion yn gyffredinol. Sôn am ymweliad i'r Carneddi ac afiechyd Evan Roberts [] Llandderfel. Ofni am nad atebodd Bob Owen ei lythyrau yn cynghori Carneddog i gyhoeddi darnau adrodd i blant.