Showing 7 results

Archival description
Cynan, 1895-1970 English
Print preview View:

Cymdeithas ddrama Is-Caron,

  • NLW MS 23290C.
  • File
  • 1945-1951 /

Minutes, 1945-50, of the Is-Caron drama society, Tregaron, co. Cardigan, kept by Marie James, Llangeitho; together with related accounts, 1951, and letters, 1945-50, including letters from James Kitchener Davies (3) 1946-9, Albert Evans-Jones ('Cynan') (1) 1945, John Gwilym Jones (3) 1945-7 and John Ellis Williams (1) 1950.

Marie James and others.

Dock Leaves: early support

Correspondence, 1950-1951, relating to Dock Leaves, mostly regarding attempts to secure financial support for the magazine, and including letters from Raymond Garlick and Cynan.

Garlick, Raymond

Gohebiaeth gyffredinol: 1959

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys, trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Alun Llywelyn-Williams, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Iorwerth Peate, Saunders Lewis, G. J. Williams, D. J. Williams, J. M. Edwards a Crwys. Yn ogystal â hyn ceir trafodaeth ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1960

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod cyfarfodydd cynnar yr Academi ac ethol ei swyddogion cyntaf; Yr Athro Griffith John Williams (Llywydd), Iorwerth Peate (Cadeirydd), Bobi Jones (Ysgrifennydd) a Gwilym R. Jones (Trysorydd), ynghyd â llungopïau o'r drafodaeth a fu yn y wasg a sylwadau ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' ac a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, John Gwilym Jones, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Saunders Lewis, J. M. Edwards, Thomas Parry, Gwenallt, Waldo Williams, Aneirin Talfan Davies, Pennar Davies, Euros Bowen, D. J. Williams, T. J. Morgan a D. Myrddin Lloyd.

Jones, Bobi, 1929-2017

Hugh Griffith

Deunydd yn ymwneud â'r actor Cymreig Hugh Griffith, sy'n cynnwys:
Cardiau post yn dangos Theatr Frenhinol Shakespeare a Theatr yr Alarch (Swan Theatre), Stratford-upon-Avon (di-ddyddiad).

Taflenni argraffiedig gyda manylion dadorchuddio cerflun er cof am Hugh Griffith gan y cerflunydd John Meirion Morris. Am yr achlysur hwn, gweler, er enghraifft: https://artuk.org/discover/artworks/hugh-griffith-19121980-277631 [1980].

Llungopi o 'Y Gigfran', drama radio a ddarlledwyd ar Radio Cymru, 15 Tachwedd 1946, sy'n seiliedig ar waith y llenor Edgar Allan Poe, yn arbennig felly ei gerdd 'The Raven', a atgynhyrchir yma ochr-yn-ochr â chyfieithiad y gerdd i'r Gymraeg; cymerir rhan cymeriad 'Llais 2' gan Hugh Griffith. Dyddir y deunydd gwreiddiol [1946].

Llungopi o erthygl yn y wasg gan Hugh Griffith yn dwyn y teitl 'Tro ym Mhen Llŷn' (dim dyddiad yn amlwg, ond mae cynnwys yr erthygl yn awgrymu dechrau'r Ail Ryfel Byd).

Llungopi o gyfieithiad i'r Saesneg [?gan ac] yn llaw y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis o bennill gyntaf yr emyn 'Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon, 'Rwyt ti'n llawer gwell ['mwy' yw'r testun cywir] na'r byd ...' (di-ddyddiad).

Llungopïau o ffotograffau yn dangos Hugh Griffith yn ei fynych rannau mewn ffilmiau (di-ddyddiad, ond awgrymir dyddiad yn ôl y ffilm).

Darlun cartŵn o Hugh Griffith yn rhan Falstaff (1964) (gweler https://collections.shakespeare.org.uk/search/museum/strst-sbt-2017-13-38). Dyddir y deunydd gwreiddiol [1964].

Llungopïau o lythyrau at Hugh Griffith, sydd bennaf yn trafod gwaith a llwyddiannau Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis (1950, 1959, 1960, 1975); y darlledwr a swyddog gweithredol y BBC Huw Wheldon (1954); yr actor a'r canwr Richard Harris (1962); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1962); y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans ([?1963]); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y dramodydd, awdur ac ysgolhaig John Gwilym Jones (1965); y bardd a'r dramodydd Christopher Fry (1975); a'r newyddiadurwr, awdur a gohebydd John Arlott (di-ddyddiad).
Ceir hefyd lythyr di-ddyddiad oddi wrth 'Charlotte' (enw'r derbynnydd yn annarllenadwy).

Llungopïau a chopïau o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans (1964); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1965); a'r awdur, cynhyrchydd drama ac ymgyrchydd iaith Norah Isaac (1940-1941, 1961 a di-ddyddiad), rhai o'r llythyrau wedi'u hanfon tra bod Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llungopïau a chopïau teipysgrif o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith at aelodau teuluol, gan gynnwys yr actores a'r athrawes Elen Roger Jones a'i gŵr Gwilym Roger Jones, sef chwaer a brawd-yng-nghyfraith Hugh Griffith, a'u merch Mary (neu Meri) Rhiannon (un llythyr yn anghyflawn) (1942-1945, 1957-1959 a di-ddyddiad); a'i fam Mary Griffith (di-ddyddiad). Anfonwyd nifer o'r llythyrau tra 'roedd Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llungopïau a chopïau yn bennaf o ohebiaeth, 1960-1961 a di-ddyddiad, rhwng Hugh Griffith a chynrychiolwyr o gwmni ffilmiau Metro-Goldwyn-Mayer (MGM) tra 'roedd Griffith yn chwarae, neu'n paratoi i chwarae, rhan 'Alexander Smith' yn y ffilm 'Mutiny on the Bounty' (1962), ynghyd â rhai amserlenni (call sheets) a rhan o'r sgript. Rhai o'r llythyrau oddi wrth Griffith wedi'u croesi allan a heb eu hanfon. Un llythyr yn Ffrangeg.

Letters to Goronwy Roberts

The file contains letters from Aneurin Bevan, 1957, Henry Brooke, 1957, Cynan, 1958, Gwilym Prys Davies (2), 1958, Nan Davies, 1958, David Eccles, 1958, Alun R. Edwards (2), 1957, Huw T. Edwards, 1957, Lady Megan Lloyd George, 1957, D. R. Grenfell, 1957, R. E. Griffith, 1957, James Griffiths (2), 1957, Gwilym R. Jones, 1957, T. W. Jones (Lord Maelor), 1958, D. Tecwyn Lloyd (2), 1957-1958, David Rees Williams (Lord Ogmore), 1957, Bob Owen, Croesor (2), 1958, Cliff Prothero, 1957, Robert Richards MP (2), 1957-1958, Hywel D. Roberts, 1958, Peter Thomas MP, 1958, T. H. Parry-Williams, 1957, Harold Wilson, 1957, and Tom Nefyn Williams, 1958.

Bevan, Aneurin, 1897-1960