Print preview Close

Showing 1 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Evans, W. R.
Print preview View:

Cerddi cynnar

Cerddi gan Menna Elfyn a gyfansoddwyd cyn ymddangosiad ei chyfrol gyntaf gyhoeddiedig Mwyara ym 1976, rhai o'r cerddi heb eu cwblhau nac (yn ddiweddarach) eu cyhoeddi. Mae'r deunydd yn cynnwys cerddi a ddyddiwyd Medi a Hydref 1967; cerdd fuddugol a gynigiwyd gan Menna Elfyn i Eisteddfod Pantyfedwen 1968(?); cerdd yn dwyn y teitl Y Daith, sy'n disgrifio digwyddiad ym mis Mawrth 1969 ac a arnodir gan Menna Elfyn 'Fy ngherdd gyntaf ... darn ar goll' (er noder cerdd Eisteddfod Pantyfedwen, lle cynigir ganddi'r dyddiad cynharach 1968); cerddi a gyfranwyd gan Menna Elfyn i golofn Bord y Beirdd ym mhapur newydd Y Cymro, 1970; dau gopi o gerdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl Sylwadau ar fywyd colegol (dim dyddiad, ond cymerir eu bod yn tarddu oddi ar gyfnod Menna Elfyn yn y Brifysgol); a beirniadaethau gan D. Jacob Davies, W. J. Gruffydd a W. R. Evans ar gerddi buddugol gan Menna Elfyn a gynigiwyd (dan ffugenw) ar gyfer yr Eisteddfod Ryngolegol yn Aberystwyth, 1973.

Cynhwysir yn yr adran hon ond y cerddi hynny sydd รข dyddiad wedi'i nodi arnynt. Cynhwysir y cerddi hynny a all ddyddio o'r cyfnod cynnar ond sydd heb ddyddiad amlwg dan Barddoniaeth amrywiol.