Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Barddoniaeth,

Awdl mewn cynghanedd gyflawn; 'Gorwelion'; casgliad o gerddi rhydd ar thema heb eu cyhoeddi; englyn: 'Trysor'; englyn beddargraff ysgafn; telyneg: 'Cysgod'; a cherdd mewn cynghanedd gyflawn: 'S4C'; stori mewn mydr ac odl: 'Y dewis'; deg pennill telyn yn ymwneud â'r tywydd; cerdd vers libre; 'Dychwelyd'; chwech o gerddi lloerig; a chywydd yn dechrau gyda'r gair: 'Unwaith'.

Barddoniaeth,

Awdl: 'Ffin'; pryddest neu ddilyniant o gerddi; 'Copaon'; englyn unodl union: 'Alllwedd'; englyn digri unodl union: 'Esgus'; telyneg: 'Hedfan'; Chwe cerdd ar gyfer canwr cyfoes; carol plygain; cywydd byr neu hir a thoddaid: 'Clawdd'; vers libre: 'Y farchnad'; cyfres o hyd at 8 o dribannau neu benillion telyn: 'Chwaraeon'; a soned: 'Ffynnon'.

Barddoniaeth,

Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: 'Lleisiau'; casgliad o gerddi digynghanedd: 'Terfysg'; englyn: 'Castell'; englyn ysgafn: neges i'w roi ar beiriant ateb y derbynnydd; cywydd deuddeg llinell: 'Cymerau'; telyneg: 'Un nos olau leuad'; sonedau: 'Cloddiau'; englynion cildwrn: cyfres o chwe englyn - chwe chyngor ar sut i fagu plant; baled: 'Coch Bach y Bala'; cerdd rydd addas i'w llefaru megis 'Cwm Tawelwch'; cerdd dychan: 'Bancwyr'; a chyfres o chwe limrig: 'Chwe dyfais fodern'.

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Y ddinas'; cerdd hir neu ddilyniant yn portreadu llencyndod; englynion : 'Clawdd Offa'; englynion digri : 'Yn eisiau - gwraig'; cywyddau : 'Parc yr Arfau'; telynegion : 'Y graith'; dychangerddi : 'Y dosbarth canol'; baledi : unrhyw ddigwyddiad cyfoes yng Nghymru; sonedau serch a thribannau crwydro Morgannwg.

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Gwythiennau'; casgliad o gerddi : 'Gwreichion'; englynion : 'Brawd'; englyion ysgafn : 'Barddas'; cywyddau gofyn : 'Sefydlu ysgol'; cywyddau coffa i John Gwilym Jones; hir a thoddeidiau : 'Bryniau'; cerddi rhydd heb fod dros 100 llinell : 'Y tir du'; dilyniant o dair telyneg : 'Creithiau'; cyfres o dribannau : 'Dyddiau'r wythnos' a baled : Trychineb Senghenydd 1913.

Bathodyn y Cymmrodorion

Llythyrau, 1978, ynglŷn â chyflwyniad bathodyn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion i Iorwerth Peate, ynghyd â phapurau perthnasol, yn cynnwys copïau teipysgrif o'i anerchiad.

Beibl Penrhiw

Beibl yn perthyn i John Williams (1808-1886), tad-cu D. J. Williams yn Llansawel, yn cynnwys cofnodion, 1808-1925, ar gyfer genedigaethau a marwolaethau, gan gynnwys ychwanegiadau diweddarach yn llaw D. J. Williams a Siân Williams.

'Beirdd a Barddoniaeth Morgannwg'

Llawysgrifau darlithoedd yn bennaf, yn ymwneud â beirdd a barddoniaeth Morgannwg, gan gynnwys 'Beirdd Morgannwg', 'Beirdd a Barddoniaeth Morgannwg', 'The Welsh Bards and the Homes of the Gentry in the Vale of Glamorgan', 'Y Beirdd Cymraeg ac Abaty Margam' (ynghyd â fersiwn Saesneg), a 'Cerddi i Biwritaniaid Gwent a Morgannwg'.

Beirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol,

Gwahoddiadau i feirniadu mewn cystadlaethau llenyddol, 1984-1990, gan gynnwys y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl a'r Cyffiniau 1985, ynghyd â chopi o'i feirniadaeth yng nghystadleuaeth yr ysgrif bortread yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983.

Beirniadaethau

Beirniadaethau eisteddfodol amrywiol, gan gynnwys copi llawysgrif o feirniadaeth G. J. Williams yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar, 1940; ynghyd â nodiadau beirniadaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961, a llythyr perthynol oddi wrth Meuryn (R. J. Rowlands), Mehefin 1961.

Rowlands, R. J. (Robert John), 1915-

Canlyniadau 221 i 240 o 3783