Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cymdeithas yr Iaith : : Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau,

  • NLW ex 2501.
  • file
  • 2007.

Papur a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug, Awst 2007, yn dwyn y teitl 'Ardal yr Wyddgrug. Gwers i Gymru gyfan. Astudiaeth achos o ddatblygiadau tai anaddas', ynghyd â thaflen yn hysbysebu protest 'Coleg Cymraeg NAWR' ar y maes.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Traethodau gan D. T. Evans, Llandysul,

  • NLW Misc. Records 538-539.
  • file
  • 1921-1923.

Two essays submitted by D. T. Evans, Cross Lane, Croes-lan Llandysul for local eisteddfodau, namely 'Tai Dadfeiliedig Plwyfi Bangor, Llanfair, a Llandysul hyd ochr orllewinol Afon Cerdin' (1921), and 'Diffygion Amaethyddiaeth Sir Aberteifi' (1923). = Dau draethawd a gyflwynwyd gan y diweddar Mr. D. T. Evans, Cross Lane, Croes-lan Llandysul, mewn eisteddfodau lleol, sef 'Tai Dadfeiliedig Plwyfi Bangor, Llanfair, a Llandysul hyd ochr orllewinol Afon Cerdin' (1921), a 'Diffygion Amaethyddiaeth Sir Aberteifi' (1923).

Traethawd 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' gan J. Lloyd Williams,

  • NLW Misc. Records 504.
  • file
  • [1920x1945].

Copïau teipysgrif (3) o draethawd (54 tt.) gan y diweddar Athro J. Lloyd Williams ar 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' yn ymwneud â'r dystiolaeth o weithgareddau cerddorol ymysg y Brythoniaid a'r Cymry o gyfnod y Derwyddon hyd at ddiwedd y ddegfed ganrif. = 'Three copies (duplicated typescript) of an essay (54pp.) in Welsh by the late Professor J. Lloyd Williams on 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' in which he examines the evidence relating to musical activities amongst the Britons and Welsh from Druidic times to the late tenth century.

Hen Ysgol Ramadeg Edward Richard, Ystrad Meurig,

  • NLW ex 2424.
  • file
  • 1994-2005.

Tair ffeil yn cynnwys papurau'n ymwneud â Hen Ysgol Ramadeg Edward Richard (1714-1777), Ystrad Meurig, a hanes yr ymgyrch i ddiogelu’r adeilad er budd y gymuned leol, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd Cyfeillion yr Hen Ysgol, 1997, llythyrau oddi wrth CADW a Thomas Lloyd, a thorion o'r wasg = Three files containing papers relating to the Edward Richard (1714-1777) Old Grammar School, Ystrad Meurig, and the campaign to ensure that the building was to be used for the benefit of the local community, including minutes of Friends of the school meetings, 1997, letters from CADW and Thomas Lloyd, and press cuttings.

Lloyd, Thomas.

Llythyrau ymfudwyr i Ogledd America,

  • NLW MS 24032E.
  • file
  • 1818-1845

Tri llythyr, 1818-1845, oddi wrth ymfudwyr Cymreig i Ogledd America. = Three letters, 1818-1845, from Welsh emigrants to North America.
Maent yn cynnwys llythyr, yn y Gymraeg, 16 Mehefin 1818, oddi wrth wraig Thomas Morgan, yn ninas Efrog Newydd, at ei rhieni a'i theulu, yn adrodd hanes ei mordaith o Fryste, ei chyrhaeddiad yn Efrog Newydd, a'u bwriad i fynd ymlaen i Dyffryn Mawr, Pennsylvania (ff. 1-2 verso); llythyr, yn Saesneg, 26 Ionawr 1835, oddi wrth David Morgan [?mab Thomas Morgan], Beamsville, Upper Canada [sef Ontario, Canada], at ei daid a nain ym Merthyr Tydfil (ff. 3-4 verso); a llythyr, yn y Gymraeg a'r Saesneg, 8 Ebrill 1845, oddi wrth y Parch. Joseph H. Jones, Cleveland, sir Oswego, talaith Efrog Newydd, at ei fam, Elizabeth Jones, Troedrhiwdalar, plwyf Llanafan Fawr, sir Frycheiniog, ac at ei chymydog David Davies, Penycrug (ff. 5-6). = They comprise a letter, in Welsh, 16 June 1818, from the wife of Thomas Morgan, in New York, to her parents and family, recounting her voyage from Bristol, her arrival in New York City and their intention to go on to Dyffryn Mawr, Pennsylvania (ff. 1-2 verso); a letter, in English, 26 January 1835, from David Morgan [?son of Thomas Morgan], Beamsville, Upper Canada [now Ontario, Canada], to his grandparents in Merthyr Tydfil (ff. 3-4 verso); and a letter, in Welsh and English, 8 April 1845, from the Rev. Joseph H. Jones, Cleveland, Oswego County, New York, to his mother Elizabeth Jones, Troedrhiwdalar, parish of Llanafan Fawr, Breconshire, and her neighbour David Davies, Penycrug (ff. 5-6).

Gradd DLitt John Elwyn,

  • NLW ex 2578.
  • file
  • 1996.

Tystysgrif Doethur mewn Llên er anrhydedd a dderbyniodd yr artist John Elwyn gan Brifysgol Cymru mewn cynulliad o'r Brifysgol, 20 Ebrill 1996, ynghyd â chyfieithiad i'r Saesneg. = Certificate awarded to the artist John Elwyn as Honorary Doctor of Letters at a congregation of the University of Wales held on 20 April 1996, together with an English translation.

Results 241 to 246 of 246