Print preview Close

Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cyfarchiad priodasol,

  • NLW Facs 1076.
  • file
  • [2014] /

Llungopi o gyfarchiad Bryfdir i'r Parchedig E. Mornant Jones, gweinidog newydd Bethel, Nantymoel, ar achlysur ei briodas gyda Miss Lily Evans, Caerfyrddin, 15 Medi 1936, a hefyd copi o ffotograff o'r Parch. E. Mornant Jones.

Bryfdir, 1867-1947

Llythyrau at Jemeima Evans, Rhosllannerchrugog,

  • NLW MS 23792D.
  • file
  • 1948-1982 /

Un llythyr ar ddeg, 1948-1982, oddi wrth amryw ohebwyr at Jemeima Evans, ei merch Olwen Jones, a'i mab yng nghyfraith Edward Jones, oedd yn rhedeg siop yn gwerthu llyfrau a melysion ger yr Stiwt, Rhosllannerchrugog. Maent yn cynnwys chwech llythyr, 1948-1982, oddi wrth Kate Roberts (ff. 1-8), dau lythyr, 1973, 1981, oddi wrth Lewis Valentine (ff. 9-10), a thri llythyr, 1965-1969, oddi wrth D. J. Williams, Abergwaun (ff. 11-13). = Eleven letters, 1948-1982, addressed to Jemeima Evans, her daughter Olwen Jones, and her son-in-law Edward Jones, all of whom kept a shop selling books and sweets near the Institute, Rhosllannerchrugog. They comprise six letters, 1948-1982, from Kate Roberts (ff. 1-8), two letters, 1973, 1981, from Lewis Valentine (ff. 9-10) and three letters, 1965-1969, from D. J. Williams (ff. 11-13).
Mae Lewis Valentine yn ysgrifennu am ddirywiad yr iaith Gymraeg yn ardal Llanddulas, sir Ddinbych (f. 10). = Lewis Valentine writes on the decline of the Welsh language in Llanddulas, Denbighshire (f. 10).

Roberts, Kate, 1891-1985

Carol Nadolig Dickens,

  • NLW MS 16341C.
  • file
  • [1900x1940] /

Dau lyfr nodiadau masnachol, [1900x1940], yn cynnwys llawysgrif 'Carol Nadolig mewn rhyddiaeth [sic] sef Hanes Ysbryd Y Nadolig' gan William Davies. Ymddengys nas cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn o waith Charles Dickens, A Christmas Carol, (Llundain, 1843). = Two commercial notebooks, [1900x1940], containing the manuscript 'Carol Nadolig mewn rhyddiaeth [sic] sef Hanes Ysbryd Y Nadolig' by William Davies. It appears that this translation of Charles Dickens' work, A Christmas Carol (London, 1843), is unpublished.

Dickens, Charles, 1812-1870

Papurau'n ymwneud â J. Glyn Davies,

  • NLW ex 2614.
  • file
  • [1957]- 2006.

Papurau ymchwil, [1957]- 2006, a gasglwyd gan y rhoddwr Cledwyn Jones wrth baratoi ei gyfrol Mi wisga'i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870-1953: shantis, caneuon plant a cherddi Edern (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 2003), gan gynnwys llythyrau oddi wrth blant y bardd. = Research papers, [1957]- 2006, collected by the donor Cledwyn Jones whilst preparing his volume Mi wisga'i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870-1953: shantis, caneuon plant a cherddi Edern (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 2003), including letters from children of J. Glyn Davies.

Davies, J. Glyn (John Glyn), 1870-1953

Llythyrau : Rhyfel Byd Cyntaf,

  • NLW ex 2394.
  • file
  • 1917-1918.

Llythyrau, 1917-1918, oddi wrth Owen Thomas o'r Aifft a Phalesteina, ac oddi wrth ei frawd Tom o Ffrainc at eu brawd a'u chwaer ym Modorgan, Môn, pan oeddynt yn filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Papurau awduron amrywiol,

  • NLW ex 2500.
  • file
  • 1860-1969.

Papurau amrywiol gan gynnwys llyfr nodiadau yn cynnwys ymdriniaeth yn dwyn y teitl 'Cymeriad Hamlet' a chreder mai llaw Emrys ap Iwan ydyw; traethawd llawysgrif ar John Bunyan; anerchiad anghyflawn 'UCAC ac argyfwng yr iaith', yn llaw yr Athro Griffith John Williams (1892-1963); a phapurau amrywiol o’r 19 ganrif, gan gynnwys llythyr, 1864, yn llaw William Skene (1809-1892). = Miscellaneous papers including a notebook relating to the character of Hamlet believed to be in the hand of Emrys ap Iwan; a manuscript essay on John Bunyan; an incomplete address on UCAC, the Welsh teachers union, and the language crisis in the hand of Professor Griffith John Williams; and various papers from the 19 century, including a manuscript letter, 1864, by William Skene (1809-1892).

Emrys ap Iwan, 1848-1906

Results 241 to 246 of 246