Showing 3783 results

Archival description
file Welsh
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Brawdoliaeth gyffredinol,

  • NLW ex 2638.
  • file
  • [?1897] /

Llyfr nodiadau, [?1897], yn cynnwys cerddi amrywiol, gan gynnwys enghraifft wych o gerdd hir yn nhraddodiad yr arwrgerdd yn dwyn y teitl 'Brawdoliaeth gyffredinol', o bosib gan William Davies, Bronheulwen, Llanidloes ['Brawdoliaeth gyffredinol' oedd testun yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897].

Davies, William.

British Association for the Advancement of Science

Papurau, 1974-1982, yn ymwneud â Phwyllgor Adran H (Anthropoleg) British Association for the Advancement of Science, yn cynnwys cofnodion, rhestri aelodau'r pwyllgor adrannol, a llythyrau gan yr Ysgrifennydd Gwyn I. Meirion-Jones (18). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys copïau teipysgrif o anerchiad llywyddol Iorwerth Peate, 'The study of folk life and its part in the defence of civilization', 1958.

Meirion-Jones, Gwyn I.

Bro a Bywyd D.J. Williams, (1983),

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi'i gyfrol yn y gyfres Bro a Bywyd yn 1983 gan gynnwys llythyrau, 1940-1967, oddi wrth D. J. Williams, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans yn diolch am y gyfrol ac adolygiadau hefyd. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â D. J. Williams, Y gaseg ddu a gweithiau eraill (1970), wedi'u casglu a'u golygu gyda rhagymadrodd gan J. Gwyn Griffiths.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970.

Bro a Bywyd,

Llythyrau, 1973-1989, yn ymwneud â ffotograffau ar gyfer y gyfrol Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones a gyhoeddwyd yn 1984, gan gynnwys rhai oddi wrth Kitty Idwal Jones, Geraint [Dyfnallt Owen], John Eilian, Derwyn [Jones] (2), Alun Talfan Davies a Wynford Vaughan-Thomas.

Jones, Kitty Idwal, 1898-1984

Bro a Bywyd,

Papurau, [1968]-[1997], yn ymwneud â pharatoi'r gyfrol gan gynnwys manylion am y ffotograffau a'r llyfryddiaeth a ddefnyddiwyd, ynghyd â gwybodaeth am ei yrfa a'i gyhoeddiadau, [1968], yn Saesneg.

Brwydr Prifysgol Bangor,

Gohebiaeth yn ymwneud â’r frwydr academaidd rhwng R. Williams Parry a Syr Ifor Williams ynglŷn â’i statws fel darlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd ag adysgrifau o ohebiaeth rhwng R. Williams Parry a D. Emrys Evans, Prifathro’r coleg, 1932-33, a chopi teipysgrif o erthygl Tom Parry, ‘Enaid digymar heb gefnydd’ a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Gorffennaf 1972.

Parry, Thomas, 1904-1985

Brwydr y bais,

Drama gerdd a luniwyd yn arbennig yn 2009 ar gyfer Cwmni Theatr Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd.

'Brynfab'

Mae'r ffeil yn cynnwys cerdd llawysgrif gan Brynfab ar achlysur dadlennu cofgolofn Ben Bowen, llythyr oddi wrth E. Williams, mab Brynfab, nodiadau ar waith Brynfab o dan y teitl 'Oriel y Beirdd' a thoriadau papur newydd.

Brynfab, 1848-1927

Bydd yn Wrol,

  • NLW ex 2827.
  • file
  • 1996 /

Sgript a sgript camera (ail ddrafft) y ffilm 'Bydd yn Wrol' gan John Owen, 1996, wedi ei chynhyrchu gan Terry Dyddgen-Jones, cynhyrchiad HTV ar gyfer S4C, ac a enwebwyd ar gyfer gwobr y ffilm deledu orau yng Ngŵyl Prix Europa TV Festival ym Merlin.

Owen, John, 1952-

Byw yn y Wladfa,

  • NLW ex 2567.
  • file
  • [2004]-[2008] /

Copi o sgwrs a luniwyd yn wreiddiol gan Glenys Jones ar achlysur dathlu canmlwyddiant sefydlu'r Wladfa yn 1965 ond a addaswyd ar ôl ei marwolaeth yn 2004. Ymfudodd i Lerpwl o Batagonia a bu'n siarad gyda gwahanol gymdeithasau yng Nglannau Mersi am ei hatgofion o'i mamwlad.

Jones, Glenys, d. 2004.

Bywyd du a gwyn

Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif a theipysgrif gyda chywiriadau yn llaw yr awdur, 1995-1997, o'r nofel Bywyd du a gwyn (Dinbych, 1997), ynghyd â llythyrau a nodiadau perthnasol, yn eu plith adroddiad am y gwaith.

Cadeiriau

Papurau, 1938-1939, yn ymwneud â chadeiriau, yn cynnwys teipysgrifau 'The chair', a'r ddarlith 'Some Welsh Light on the Evolution of the Chair'; llungopïau o enghreifftiau o gadair yn llawysgrif Peniarth 28; a theipysgrif o ddarn o lythyr gan yr Athro Ifor Williams yn trafod y pwnc.

Results 261 to 280 of 3783