Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1855, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno, yn bennaf yn Saesneg (ff. 3-29), yn nodi manylion pregethau a darlithoedd, gwaith ysgrifennu a golygu ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1855, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries, mostly in English (ff. 3-29), recording sermons preached, other engagements, writing and editing work and names of correspondents.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr yn America, am 1858, gol. gan Iorthryn Gwynedd, o eiddo i Samuel Roberts, Scott County, Tennessee, yn cynnwys cofnodion cryno, yn bennaf yn Saesneg (tt. 9-61), yn nodi manylion pregethau, enwau gohebwyr, gwaith ysgrifennu, gwaith fferm a'r tywydd. = Dyddiadur yr Annibynwyr yn America, am 1858, ed. by Iorthryn Gwynedd, belonging to Samuel Roberts of Scott County, Tennessee, containing brief entries mostly in English (pp. 9-61) including sermons preached, names of correspondents, writing and farm work and the weather.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1872, gol. gan J. Thomas a W. Williams, o eiddo i Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Nghymraeg a Saesneg (tt. 12-63), yn nodi pregethau a darlithoedd, enwau gohebwyr a gwaith ysgrifennu. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1872, ed. by J. Thomas and W. Williams, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 12-63), including preaching engagements, names of correspondents and writing work.
Mae yna hefyd amryw gofnodion a chyfrifon (tt. i, 64, 66-68, 117-118, 121-122, 141, 143-150 a tu mewn i'r cloriau) a darnau o bapur scrap (3 ff.). = Also includes various memoranda and accounts (pp. i, 64, 66-68, 117-118, 121-122, 141, 143-150 and inside the covers) and loose scraps of paper (3 ff.).

Dyddiadur S.R.

Y Dyddiadur Methodistaidd am 1873, gol. gan Roger Edwards, o eiddo i Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Nghymraeg a Saesneg (tt. 5-57), yn nodi pregethau, enwau gohebwyr a gwaith ysgrifennu. = Y Dyddiadur Methodistaidd am 1873, ed. by Roger Edwards, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 5-57), including preaching engagements, names of correspondents and writing work.
Mae toriad papur newydd, 'A new submarine boat', dyddiedig 1 Chwefror 1899, wedi ei thipio mewn ar t. 146. = A newspaper cutting on 'A new submarine boat', dated 1 February 1899, has been tipped in on p. 146.

Papurau amrywiol S.R.

Papurau amrywiol, [c. 1807]-1884, wedi eu tynnu o ddyddiaduron S.R. (NLW 14035-60A) yn LlGC a'u trefnu, [c. 1940], yn fras yn bedwar grwp. = Miscellaneous papers, [c. 1807]-1884, removed from the diaries of S.R. (NLW 14035-60A) at NLW and arranged, [c. 1940], broadly into four groups.
Maent yn cynnwys papurau ariannol yn ymwneud a'i ymfudo i Tennessee, 1840, 1856-1870 (ff. 1-11); torion papur newydd, 1876-1884 (ff. 12-45); papurau ariannol yn dyddio o'i gyfnod yng Nghonwy, 1873-1883 (ff. 46-70); a darnau o farddoniaeth a rhyddiaith yn Saesneg, [c. 1807]-[1823] (ff. 75-79). = They include financial papers relating to of his emigration to Tennessee, 1840, 1856-1870 (ff. 1-11); newspaper cuttings, 1876-1884 (ff. 12-45); financial and other papers dating from his time in Conwy, 1873-1883 (ff. 46-70); and items of poetry and prose in English, [c. 1807]-[1823] (ff. 75-79).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Chwe llyfryn, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Six booklets, [1870s], containing sermon notes in the hand of Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Ceir hefyd 'Remembrances', [1856], ysgrif byr yn Saesneg gan Sarah M. Roberts, merch J.R. (7 ff.) = Also contains 'Remembrances', [1856], a short piece in English by Sarah M. Roberts, J.R.'s daughter (7 ff.).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Tri llyfryn ar ddeg, [1870au] (dyfrnod 1874 mewn dau lyfryn), yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Thirteen booklets, [1870s] (watermark 1874 in two booklets), containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Mae un llyfryn yn cynnwys dau doriad papur newydd, [1875]. = One booklet contains two newspaper cuttings, [1875].

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Chwe llyfryn, [1872x1883], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Six booklets, [1872x1883], containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Hefyd yn cynnwys y cloriau yn unig o 'Llyfr Casglu Golegdy Annibynol y Bala'. = Also contains the covers only of a collecting book for Bala Congregational College.

Llythyrau at S.R., &c.

Pedwar llythyr ar ddeg, 1801-1859, y rhan fwyaf at Samuel Roberts a'i dad, John Roberts, oddiwrth teulu a ffrindiau. Maent yn cynnwys llythyrau oddiwrth Gwallter Mechain, [1823] (ff. 1-2), James Griffiths, Treliwyd, [1821?], 1826 (ff. 5-7), J. W. H. Pritchard, Homerton, 1824 (ff. 8-11), a George Roberts, Ebensburg, 1801 (i'w dad), 1823 (ff. 14-17). = Fourteen letters, 1801-1859, mostly addressed to Samuel Roberts and John Roberts, senior, from family and friends. They include letters from Gwallter Mechain, [1823] (ff. 1-2), James Griffiths, Treliwyd, [1821?]-1826 (ff. 5-7), J. W. H. Pritchard, Homerton, 1824 (ff. 8-11), and George Roberts, Ebensburg, 1801 (to his father), 1823 (ff. 14-17).
Mae f. 13 yn cynnwys copi, 1825, o gerdd o'r enw 'The Cottage on the Hill' gan y Parch. James Troubridge, Cerne Abbas, Dorset. = On f. 13 is a copy, 1825, of a poem entitled 'The Cottage on the Hill' by the Rev. James Troubridge, Cerne Abbas, Dorset.

Roberts, John, 1767-1834

Llythyrau at David Jenkins,

  • NLW MS 16106C.
  • File
  • [1875]-1907.

Pum llythyr, [1875]-1907, at yr arweinydd a'r cerddor David Jenkins gan T. Watts-Dunton, John Ceiriog Hughes ('Ceiriog'), Lewis W. Lewis ('Llew Llwyfo'), John Roberts ('Ieuan Gwyllt'), ac E[dward] Stephen ('Tanymarian'). = Five letters, [1875]-1907, to the conductor and composer David Jenkins from T. Watts-Dunton, John Ceiriog Hughes ('Ceiriog'), Lewis W. Lewis ('Llew Llwyfo'), John Roberts ('Ieuan Gwyllt'), and E[dward] Stephen ('Tanymarian').
Mae'r llythyrau'n ymdrin â cherddoriaeth yn bennaf, a cheir cyfeiriadau at y gân 'Castiau Gwraig' (f. 6), sylwadau ar 'Anthemau' David Jenkins (f. 8), a geiriau'r ddeuawd 'Wrth fyned ar i lawr' gan 'Ceiriog' yn llaw'r awdur (ff. 3-5). = The letters mainly relate to music, and contain references to the song 'Castiau Gwraig' (f. 6), observations on 'Anthemau' by David Jenkins (f. 8), and the lyrics to the duet 'Wrth fyned ar i lawr' by 'Ceiriog' in the author's hand (ff. 3-5).

Barddoniaeth Gymraeg

  • NLW MS 16251B.
  • File
  • [1730x1790]

Cyfrol yn cynnwys barddoniaeth Gymraeg a chynghorion meddygol a ddangoswyd, yn ôl nodyn (f. 63 verso) gan John Jones (Jac Glanygors), i John Edwards (Siôn Ceiriog) yn Llundain, 11 Gorffennaf 1790. = A volume containing poetry in Welsh and medical recipes shown, according to a note (f. 63 verso) by John Jones (Jac Glanygors), to John Edwards (Siôn Ceiriog) in London, 11 July 1790.
Mae'r gyfrol yn cynnwys cywyddau ac englynion o'r 16 gan. hyd at 18 gan., gan gynnwys gweithiau Gruffydd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan, 'Syr' Dafydd Owain, Siôn Tudur, Simwnt Fychan, Thomas Prys o Blas Iolyn, William Phylip, ac Ellis Rowland o Harlech (ff. 1-41), ac englynion Saesneg (f. 1 verso); ceir rysáit llawfeddygol ar f. 7, cynghorion meddygol rhwng ff. 41 verso a 63 verso, a nodyn, 28 Gorffennaf 1790, gan David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) ar f. 64; fe nodir rhai o'r cerddi a'r ryseitiau ar dudalen gynnwys (f. 66 verso). = The volume comprises 'cywyddau' and 'englynion' from 16 cent. to 18 cent., including the works of Gruffydd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan, 'Syr' Dafydd Owain, Siôn Tudur, Simwnt Fychan, Thomas Prys of Plas Iolyn, William Phylip, and Ellis Rowland of Harlech (ff. 1-41), and English poetry written in the 'englyn' metre (f. 1 verso); a veterinary recipe is included on f. 7, medical recipes between ff. 41 verso and 63 verso, and a note, 28 July 1790, by David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) on f. 64; some of the poetic works and recipes are listed in a contents' page (f. 66 verso).

Llawlyfr cyfarwyddiadol i ganu Penillion

  • NLW MS 16595C
  • File
  • [?1890au]

Adysgrif, [?1890au], gan John Williams (Wyr yr Eos), o'r traethawd 'Llawlyfr Cyfarwyddiadau i ganu Penillion ac Awdlau gyda'r Tannau' a ysgrifennwyd yn y 1870au gan ei daid John Williams (Eos Môn). = A transcript, [?1890s], by John Williams (Wyr yr Eos), of an essay on penillion singing, 'Llawlyfr Cyfarwyddiadau i ganu Penillion ac Awdlau gyda'r Tannau', written in the 1870s by his grandfather John Williams (Eos Môn).
Cynhwysir hefyd lythyr, 22 Medi 1955, gan y rhoddwr, yn disgrifio hanes y llawysgrif (f. i). = Also included is a covering letter, 22 September 1955, from the donor, describing the history of the manuscript (f. i).

Wyr yr Eos, 1870-1929

Y gaeaf sydd unig

Drafft llawysgrif, [1981], o ran (rhan o bennod 4, rhan o 5, a rhan o 7) o nofel Y Gaeaf Sydd Unig gan Marion Eames (Llandysul, 1982). = A manuscript draft, [1981], of part (part of chapter 4, part of 5, and part of 7) of Marion Eames's novel Y Gaeaf Sydd Unig (Llandysul, 1982).

Seren gaeth

Teipysgrif gyda chywiriadau mewn llawysgrif (penodau 1-8 a dechrau 9) o'r nofel Seren Gaeth gan Marion Eames (Llandysul, 1985). = Typescript with manuscript corrections (chapters 1-8 and beginning of 9) of Marion Eames's novel Seren Gaeth (Llandysul, 1985).

Seren Gaeth

Drafft cynnar mewn llawysgrif o’r nofel Seren Gaeth (Llandysul, 1985). = An early manuscript draft of the novel Seren Gaeth (Llandysul, 1985).

Results 21 to 40 of 1033