Dangos 31 canlyniad

Disgrifiad archifol
Parry, Thomas, 1904-1985 ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau Rhufain,

Llythyrau a anfonwyd ato tra oedd yn astudio yn yr Eidal gan gynnwys llythyrau o Rufain, rhai oddi wrth ei Dad, ynghyd â llythyrau llawer mwy diweddar. Ymhlith y gohebwyr mae R. O. F. Wynne, Claude [Gildas Jaffrennou] (6), Emyr Wyn Jones, G. J. Williams (2), H. I. Bell, Bobi Jones (2), Meredydd Evans (3), Alun Llywelyn-Williams, Henry E. G. Rope (2), Gwyn [Erfyl] (2), [O.] Llew Owain, T[homas] Parry (2), I[orwerth] P[eate], Meuryn, [J]. Gwyn [Griffiths] (3), Kate Roberts, Aneirin Talfan Davies, W. J. Gruffydd, T. Gwynfor Griffiths, Brenda Chamberlain, Islwyn [Ffowc Elis] (2), Raymond Garlick, a Caradog Prichard.

Wynne, R. O. F. (Robert Oliver Francis), 1901-1993

Llythyrau, 1970-1975,

Ymhlith y gohebwyr mae Gwilym Prys Davies, Eirene White, Dr Emyr Wyn Jones, Iorwerth [Peate] (3), Llywelyn ap Gwynn, Rhys Davies, [R.] Geraint Gruffydd (2), Bobi Jones, Aneirin Talfan Davies, R. S. Thomas, T[homas] P[arry] (2), Glyn [Tegai Hughes], Kitty Idwal Jones, Idris [Foster] (3), Bedwyr Lewis Jones, Alun Talfan Davies, A. J. Sylvester (2), Mathonwy Hughes, Arthur [ap Gwynn] a Raymond Edwards.

Prys-Davies, Gwilym Prys Davies, Baron, 1923-2017

Llythyrau, 1976-1979,

Ymhlith y gohebwyr, 1976-1979, mae Melvyn Rosser, George Thomas, [D.] Ellis [Evans], Edmund-Davies, John Grigg, Elwyn Davies, Kate Roberts (3), Ieuan Gwynedd Jones, Glyn Jones, Emrys [Bowen], Bryn [Roberts], Alun Creunant Davies, Tom Owen, R. Brinley Jones, Alun Talfan Davies, [R.] Bryn [Williams] a Tom [Parry]. Mae rhai o'r llythyrau yn ei longyfarch wedi iddo gael ei anrhydeddu â'r CBE yn 1977, a gradd DLitt gan Goleg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1978.

Rosser, Melvyn, Sir, 1926-2001.

Llythyrau, 1980-1984,

Ymhlith y gohebwyr, 1980-1984, mae [J.] Gwynn [Williams], R. Geraint Gruffydd (6), Elwyn Davies (2), Kate Roberts (2), Ifor ap Gwilym (2), John Grigg (2), Bobi Jones, Jennie Eirian [Davies] (2), Tom [Parry], Owen [Edwards], Glanmor [Williams], Keith Joseph, Gwilym [Prys Davies], Caerwyn [Williams], John Morris, Ken [Morgan], [D.] Ellis [Evans], A. J. [Sylvester] (5, yr ail un i R. Geraint Gruffydd), Derwyn [Jones] a T. Alwyn Benjamin.

Williams, J. Gwynn

Nodiadau ar hanes Bedyddwyr Clarbeston a Maenclochog,

  • NLW MS 16672D.
  • ffeil
  • 1958 /

Nodiadau, [1958], gan Dr Thomas James Jenkin ar lyfr R. D. Hughes, Hanes Eglwys y Bedyddwyr, Carmel, Penfro, a'i Chefndir (Llandysul, [1935]), yn bennaf mewn perthynas â chapeli Carmel, Clarbeston, a Horeb, Maenclochog, a'u haelodau. = Notes, [1958], by Dr Thomas James Jenkin on R. D. Hughes, Hanes Eglwys y Bedyddwyr, Carmel, Penfro, a'i Chefndir (Llandysul, [1935]), mainly relating to the Baptist chapels of Carmel, Clarbeston, and Horeb, Maenclochog, and their members.
Mae'r llawysgrif hefyd yn cynnwys cyflythyr oddi wrth y rhoddwr, 3 Gorffennaf 1958 (f. ii), yn ogystal â llythyr ganddo, 31 Rhagfyr 1958, at B. G. Owens gyda nodiadau ar deulu Dr Jenkin mewn perthynas â'r llyfr Dringo'r mynydd... Hermon, Llanfyrnach, 1808-1958, gol. gan W. J. Gruffydd (Llandysul, [1958]) (f. i). = Also included is a covering letter from the donor, 3 July 1958 (f. ii), and also a letter from him, 31 December 1958, to B. G. Owens, containing notes on Dr Jenkin's family in relation to the book Dringo'r mynydd... Hermon, Llanfyrnach, 1808-1958, ed. by W. J. Gruffydd (Llandysul, [1958]) (f. i).

Jenkin, T. J. (Thomas James), 1885-1965.

R. Williams Parry

Cerddi gan R. Williams Parry, 1937, a llythyrau oddi wrth J. O. Williams, 1967, a Thomas Parry, 1971, a drafft o erthygl Prys Morgan yn ymwneud â'r cerddi a gyhoeddwyd dan y teitl 'Manylder Cyfewin R. Williams Parry', Y Genhinen 22 (1972), tt. 31-33.

Parry, Robert Williams

Storïau'r Tir Du

Drafftiau llawysgrif o'r storïau a gyhoeddwyd yn Storïau'r Tir Du yn 1949: 'Y gorlan glyd', 1948; 'Colbo Jones yn ymuno â'r fyddin', 1941, gyda llythyr oddi wrth Tom Parry, 1941, yn ei gwrthod am ei bod yn rhy hir, a llythyr oddi wrth T. Rowland Hughes, 1941, yn ei gwrthod am yr un rheswm; 'Y Capten a'r Genhadaeth Dramor' (teipysgrif), 1943; a 'Ceinwen', 1949. Ceir 'Meca'r Genedl' mewn rhifyn o'r Fflam, Nadolig 1946, wedi'i diwygio; ynghyd ag adolygiadau o'r gyfrol, 1950.

Hughes, Thomas Rowland

Swyddi Iorwerth Peate

Llythyrau yn bennaf, 1947-1948, yn ymwneud â chais Iorwerth Peate am swydd Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â sylwadau yn y wasg ynglŷn â'r hysbyseb am y swydd a'r apwyntiad, ffurflen gais Iorwerth Peate a llyfryddiaeth o'i gyhoeddiadau. Yn ogystal ceir papurau, 1948, yn trafod cynllun i wahanu'r amgueddfa werin oddi wrth yr Amgueddfa Genedlaethol, a phenodiad Iorwerth Peate yn Geidwad Amgueddfa Werin Cymru; a gweinyddiaeth yr Amgueddfa Werin, 1952-1953. Ceir llythyrau gan Cyril Fox (13); Idris Bell; Thomas Jones; T. K. Penniman; Goronwy O. Roberts (6); Thomas Parry (2); Stephen J. Williams; Huw T. Edwards (3); William Rees; a D. Jacob Davies. -- Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau yn ymwneud â chynllun pensiwn a chyflog Iorwerth Peate, 1930, 1934 a 1941-1943; llythyrau, 1932-1933 a 1937, yn ymdrin â safiad gwleidyddol Iorwerth Peate, yn eu plith sylwadau Cyril Fox ar ei gyfweliad ar gyfer swydd Cyfarwyddwr yn yr Amgueddfa Genedlaethol; a thorion o'r wasg, 1937, yn trafod helynt Eisteddfod Machynlleth pan ymddiswyddodd Iorwerth Peate ynghyd â rhai o'r beirniaid eraill.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879

T. Gwynn Jones

27 o lythyrau yn ymwneud â rhifyn coffa T. Gwynn Jones o'r Llenor, yn cynnwys llythyrau oddi wrth T. H. Parry Williams, E. Morgan Humphreys, Dewi Morgan, David James Jones (Gwenallt), Richard Aaron, J. M. Edwards, J. Lloyd-Jones, John Tudor Jones (John Eilian), Sir Thomas Parry, W. J. Gruffydd, D. Rees Griffiths (Amanwy), E. Tegla Davies, Gwilym R. Jones, Dafydd Jenkins, Geraint Bowen, Idris Bell, 1949.

Parry-Williams, T. H. (Thomas Herbert), Sir, 1887-1975

W. J. Gruffydd

Gohebiaeth, 1928-1952, rhwng Iorwerth Peate a W. J. Gruffydd. Yn eu plith ceir llythyrau gan Jim Griffiths, William George, a H. J. Fleure; llawysgrif o ddarllediad W. J. Gruffydd, 'Yeoman's English' (1935); torion yn ymwneud ag erthygl W. J. Gruffydd 'The case against a National Council of Education for Wales', 1935; a llythyrau yn trafod achos Iorwerth Peate yn wrthwynebydd cydwybodol. -- Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1942-1943 a 1945, yn ymwneud ag ymgyrch etholiadol W. J. Gruffydd ar gyfer sedd Prifysgol Cymru yn y senedd, gan gynnwys llythyrau gan E. G. Bowen; David Davies (2); D. J. Llewelfryn Davies (4); E. Tegla Davies; Clement Davies; Leonard Twiston-Davies; D. Owen Evans; D. Tecwyn Evans (2); David Lloyd George (telegram); William Thomas Havard; Ernest Hughes; R. T. Jenkins (2); W. Goscombe John; E. K. Jones (4); Tom Jones (2); Thomas Artemus Jones; John Edward Lloyd; J. Dyfnallt Owen; Thomas Parry; Percy E. Watkins; J. Lloyd Williams; a Stephen J. Williams. Ceir hefyd ddatganiadau wedi'u harwyddo yn cefnogi ymgeisyddiaeth W. J. Gruffydd; anerchiadau etholiadol; a deunydd amrywiol, yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Lleol Caerdydd i gefnogi W. J. Gruffydd, a thaflenni printiedig.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Canlyniadau 21 i 31 o 31