Llythyr oddi wrth Margaret S. Cook, yn Aberdâr,
- 102.
- File
- 1927, Mawrth 22.
Part of Papurau Kate Roberts
Tystlythyr i Kate Roberts yn dweud ei bod yn athrawes Gymraeg tan gamp. Saesneg/English.
20 results with digital objects Show results with digital objects
Llythyr oddi wrth Margaret S. Cook, yn Aberdâr,
Part of Papurau Kate Roberts
Tystlythyr i Kate Roberts yn dweud ei bod yn athrawes Gymraeg tan gamp. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Aston, Parkinson & Gadd, ym Mae Colwyn,
Part of Papurau Kate Roberts
Amgau rhestr o freindaliadau rhwng 1945 a 1951 a dderbyniwyd gan KR a'r cyfrifon a baratowyd ganddynt ar gyfer 1951. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth R. W. Lloyd-morath, Casglwr Trethi, yn Y Rhyl,
Part of Papurau Kate Roberts
Nid yw cynnig Kate Roberts i dalu ei dyledion fesul 30 swllt yr wythnos yn ddigonol am fod y swm mor fawr. Rhaid awgrymu ffyrdd cyflymach o glirio'r ddyled. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth R. W. Lloyd-morath, Casglwr Trethi, yn Y Rhyl,
Part of Papurau Kate Roberts
Nid yw KR wedi gwneud gwell awgrymiadau ar sut i glirio ei dyled. Mae'n deall erbyn hyn fod arni £580 o dreth pellach yn dilyn marwolaeth ei gwr. Ni all y sefyllfa bresennol barhau felly. Rhaid iddi anfon hanner y tâl y mae i'w dderbyn gan y BBC ddiwedd y mis. Rhaid clirio'r ddyled yn llawn erbyn 24 Medi fan bellaf. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth David Thomas, ym Mangor,
Part of Papurau Kate Roberts
Anfon torion o ysgrifau KR a oedd ganddo yn y ty ati. Ni chafodd ardaloedd y chwareli erioed ddisgrifiad mor fyw o fywyd eu gwerin. Hanes ei theulu a'i bywyd yn Rhosgadfan sydd fwyaf diddorol, er bod hanes Ysgol Caernarfon a Choleg Bangor yn ddifyr hefyd. Mae'n gweithio ar fywyd a gwaith [R.] Silyn [Roberts] ar y pryd.
Llythyr oddi wrth Caradog [Prichard], Llundain NW8,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch i KR am ddarllen pennod o'i waith. Wedi ei llythyr addfwyn mae'n barod i fynd ymlaen i ysgrifennu mwy. "Y syniad y tu ôl iddi yw myfyrdod brodor wedi dychwelyd i'w fro ac yn ail-fyw ei blentyndod mewn un daith o ychydig oriau ar noson ola leuad yn yr hen fro". Mae teipio'n flinder iddo. Hoffai anfon y gwaith ati mewn llawysgrifen fesul dwy bennod ar y tro. Nid yw o bwys ganddo os cyhoeddir hi ai peidio, ond mae'n benderfynol o'i gorffen. Mae'n falch i KR weld ei fam yn ei dyddiau olaf. Penderfynodd mai lol a ffug fyddai blodau ar y bedd, ond cafodd lythyr yn ei swyddfa oddi wrth hen wraig o Fethesda yn dilyn yr angladd mewn llaw grynedig. Dywedai mai hi oedd morwyn briodas ei fam. Yr oedd yn un o'r llythyrau prydferthaf a gafodd erioed. Amgaeodd lun ohono ef a'i ddau frawd. Yr oeddent wedi cyfnewid llun eu plant. Amgaeodd hefyd rodd o chweugain iddo. Atebodd gan ddweud mai syniad prydferth fyddai iddi roi tusw o flodau ar fedd ei fam a dychwelodd yr arian iddi.
Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,
Part of Papurau Kate Roberts
Byddai'n well ganddo beidio ag adolygu drama Thomas Parry [Llywelyn Fawr]. Fe'i darllenodd hi ddwywaith ond gan fod ganddo yntau ddrama ar yr un thema byddai'n fwy moesgar iddo dewi. Da ganddo glywed bod gan KR ddrama radio wedi ei gorffen. Methu â deall pam na chred KR y byddai ef yn ei hoffi. Gobeithia ei chlywed cyn bo hir.
Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,
Part of Papurau Kate Roberts
Clywodd ddrama radio KR "Cynddrws" dan amgylchiadau tra rhyfedd. [Rhaglen Cymru, nos Fawrth, 25 Mai 1954, 7-7.45 pm]. Dihangodd o "At Home" gwraig y prifathro am ddau funud i saith, gyrru ei gar rownd y gornel i lecyn tawel ar ymyl cae lle y canai'r gog a gwrando'r ddrama ar radio'r car. Hoffodd y ddrama a'i syniad o burdan, drama yn llawn dwyster a myfyrdod a phrofiad ynddi, ei harddull yn gain a'i chymeriadau (heblaw Goronwy Owen) yn fyw ac yn wir. Aeddfedrwydd oedd rhinwedd y ddrama. Cafwyd tri chwarter awr o wrando tawel - drama radio iawn. Drama i glust gyfrin atgof a myfyrdod, a barddoniaeth.
Llythyr oddi wrth [D.] Gwenallt [Jones], ym Mhenparcau,
Part of Papurau Kate Roberts
Anfon copi o'i ddarlith [Y Storm - Darlith Goffa Islwyn 1953]. Mwynhaodd ei drama radio dro'n ôl. Daeth Ystalyfera i'w gof. Da oedd cael rhywbeth sylweddol ar y radio.
Llythyr oddi wrth Aston, Parkinson & Gadd, ym Mae Colwyn,
Part of Papurau Kate Roberts
Cyngor ynglyn â'i thaliadau treth incwm 1952-4. Anodd ganddynt gael rhagor o ryddhad rhag talu trethi iddi. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Aston, Parkinson & Gadd, ym Mae Colwyn,
Part of Papurau Kate Roberts
Cynnwys mantolen am ei henillion o ysgrifennu dros y tair blynedd flaenorol. Gofyn iddi gytuno â'r ffigyrau cyn iddynt eu hanfon at y Swyddfa Dreth Incwm. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth W. J. Gruffydd, yng Nghaerdydd,
Part of Papurau Kate Roberts
Cefnogi cais KR am swydd Arolygwr Cynorthwyol gyda'r Bwrdd Addysg. Pwysleisir ei gwethgarwch llenyddol. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Rhys Hopkin Morris, yn Ty'r Cyffredin, Llundain,
Part of Papurau Kate Roberts
Amgau ateb Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys. Os oes unrhyw fater pellach bydd yn falch o'i chynorthwyo eto.
Llythyr oddi wrth Henry Brooke (at Rhys Hopkin Morris), Y Trysorlys, Llundain,
Part of Papurau Kate Roberts
Ateb ymholiad ynglyn â dyledion treth incwm Kate Roberts. Mae'r swyddfa yn fodlon iddi dalu fesul tipyn ond bod 30 swllt yr wythnos yn rhy isel. Bydd yn rhaid iddi dalu hynny a hanner pob ffi a gaiff oddi wrth y BBC a chyhoeddwyr. Ynglyn â'r dreth sy'n ddyledus yn dilyn marwolaeth Morris Williams fe ganfuwyd bod gormod o amser wedi mynd heibio ers hynny bellach ac na allant hawlio'r £524-17s-2c. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch i KR am ei llythyr a'r Faner. Nid fel drama radio y meddyliodd gyntaf am Siwan ond ar gyfer llwyfan Garthewin. Wedyn daeth y BBC a gofyn am ddrama Gwyl Ddewi. Bydd erthygl KR yn Y Faner yn hwb nid yn unig i Saunders Lewis ond i actorion Garthewin. [" 'Siwan' yng Ngwyl Ddrama Garthewin - Drama fythgofiadwy Saunders Lewis", Y Faner 25/8/1954, t 1]. Torrodd ei gar a hynny a'i rhwystrodd rhag dod i'r perfformiad. Mi weithiodd yn galed iawn ar y ddrama, yn enwedig Act III. Tipyn o tour de force oedd mentro act olaf heb ddim i ddigwydd ynddi o gwbl ond dau'n siarad ac yna mymryn o basiantri rhoi'r goron ar ei phen i gloi.
Llythyr oddi wrth Treth Incwm, yn Y Rhyl,
Part of Papurau Kate Roberts
Tair derbynneb am daliadau treth, 1948-51. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Aston, Parkinson & Gadd, ym Mae Colwyn,
Part of Papurau Kate Roberts
Dychwelyd rhestrau o daliadau breindal am y tair blynedd flaenorol. Gofyn iddi gadarnhau'r ffigyrau cyn eu hanfon at swyddfa'r Dreth Incwm. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth R. W. Lloyd-morath, Casglwr Trethi, yn Y Rhyl,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am £30 tuag at ei dyled. Mae'n amgau derbynneb a chyfrif sy'n dangos maint y ddyled sydd heb ei chlirio. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Treth Incwm, yn Y Rhyl,
Part of Papurau Kate Roberts
Cais am daliad o £16-4s sy'n ddyledus gan Kate Roberts. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Treth Incwm, yn Y Rhyl,
Part of Papurau Kate Roberts
Derbynneb am £18. Saesneg/English.