Showing 197 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn
Print preview View:

Cyfieithiadau o libretti operâu

Deunydd yn ymwneud â chyfieithiadau i'r Gymraeg gan Menna Elfyn o libretti operâu, sef Otello, Don Carlo, Il Trovatore ac Aida gan Verdi ac I Capuleti e i Montecchi gan Bellini, gan gynnwys libretti, sgoriau cerddorol a gohebiaeth.

Cylch y Cyfaredd

Sgôr gerddorol a libretto dwyieithog Cylch y Cyfaredd, y geiriau gan Menna Elfyn a'r gerddoriaeth gan Richard Lind.

Cywaith gyda Howard Bowcott

Deunydd yn ymwneud â phrosiectau ar y cyd ar gyfer celf gyhoeddus rhwng Menna Elfyn (geiriau) a'r cerflunydd Howard Bowcott (gweithiau celf), gan gynnwys brasluniau, drafftiau a nodiadau a gohebiaeth rhwng Menna Elfyn a Howard Bowcott.

Dadlau Rhin

Deunydd yn ymwneud â Dadlau Rhin, drama a gomisiynwyd ar gyfer Cwmni Theatr Hwyl a Fflag, Mawrth 1993, gan gynnwys crynodeb o'r naratif a chopïau drafft a theg o'r sgript.

Darlithoedd ac anerchiadau

Deunydd yn ymwneud â darlithoedd ac anerchiadau a draddodwyd gan Menna Elfyn yng Nghymru, Prydain a thu hwnt mewn gŵyliau, prifysgoliaon, cymdeithasau ac achlysuron eraill ar destunau megis llenyddiaeth, menywod a Chymru a'r iaith Gymraeg, gan gynnwys copïau sgriptiau drafft a theg, nodiadau, gohebiaeth a thorion o'r wasg.

Darlithoedd, cyrsiau academaidd a gweithdai

Deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai y bu Menna Elfyn yn darlithio iddynt, yn eu cyfarwyddo, neu fel arall yn ymwneud â hwynt, gan gynnwys: cwestiynau a bras nodiadau yn ymwneud â chwrs 'Merched o Feirdd yng Nghymru, Ddoe a Heddiw', a gynhaliwyd, yn ôl tystiolaeth pennawd y papur arholiad y defnyddiwyd ar gyfer y nodiadau, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan; bras nodiadau (llaw a theipysgrif) a wnaed gan Menna Elfyn ar gyfer seminarau fel rhan o gwrs 'Barddoniaeth yr Wythdegau' y bu'n darlithio arno yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd yn ystod y 90au, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol ar y "bardd dawnus" (yng ngeiriau Menna Elfyn) Ennis Evans, a fu farw ym 1982 yn 29 oed, gan y bardd a'r llenor Einion Evans, tad Ennis, ysgrif gan Ennis Evans yn dwyn y teitl 'Pe Meddwn Ddawn ...' a dau nodyn ar y deunydd bywgraffyddol ac ar ysgrif Ennis Evans yn llaw Einion Evans; manylion ynghylch amserlenni cwrs Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, 1999-2010, a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn a'r bardd a'r llenor Nigel Jenkins, ynghyd â datganiad o'r wasg yn ymwneud â'r cwrs ac amrywiol ddeunydd perthnasol, megis trosolygon y cwrs, gohebiaeth, cofnodion cyfarfodydd ac adroddiadau; gweithlen a baratowyd ar gyfer gweithdy llenyddol a gynhaliwyd yn Unol Daleithiau America yn 2005; cofnodion arsylwi ansawdd a dull dysgu a darlithio Menna Elfyn (arsylwyd gan y bardd, dramodydd a darlithydd Dr Dic Edwards, a sefydlodd y cwrs Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, lle bu'n ddarlithydd hyd at 2019; deunydd yn ymwneud â chwrs Ysgrifennu Ymchwil a gynhaliwyd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, 2014; a bras nodiadau darlith/trafodaeth yn llaw Menna Elfyn.
Gweler hefyd dan bennawd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant o fewn yr archif hon.
Mae Menna Elfyn yn Athro Emerita mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan.

Darllediad teledu: Rhyw Ddydd

Cyfres o gerddi gan Menna Elfyn a berfformwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr-Pont-Steffan, 1984, ac yn ddiweddarach a ddarlledwyd ar gyfer S4C.

Darllediadau cyfryngol

Deunydd yn ymwneud â darllediadau cyfryngol gan neu'n ymwneud â Menna Elfyn, gan gynnwys drafft llawysgrif o anerchiad gan Menna Elfyn ar gyfer darllediad ar Radio [Cymru], Sul y Blodau 1985; llythyr, 1995, at Wasg Gomer ynghylch hawlfraint ar rai o gerddi Menna Elfyn a ddarlledwyd mewn cyfres o raglenni radio yn Nenmarc; copi teipysgrif o ysgrif gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl 'Under the Influence', a ddarlledwyd ar Radio 3, Tachwedd 2008; sgript ddrama radio o'r enw 'Dim Byd O Werth' a sgrifenwyd gan Menna Elfyn ac a ddarlledwyd gyntaf ar Radio Cymru ar 22ain Mawrth 2009; sgript ddrama radio o'r enw 'Colli Nabod' a sgrifenwyd gan Menna Elfyn ac a ddarlledwyd gyntaf ar Radio Cymru ar 22 Ebrill 2012; a dogfennau a gohebiaeth ynghylch darlledu rhai o gerddi Menna Elfyn mewn cyfres o raglenni radio a theledu yng Nghatalwnia [2014].

Am Ar Dir y Tirion (1993), drama deledu a ymddangosodd yn wreiddiol fel y ddrama lwyfan Trefn Teyrnas Wâr (1990), gweler dan Gweithiau llwyfan a dan y pennawd Drama deledu: Ar Dir y Tirion o fewn yr archif hon.

Dedfryd a charchar

Deunydd yn ymwneud â gweithredoedd ymgyrchol Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James fel aelodau o Gymdeithas yr Iaith, gan gynnwys gohebiaeth sylweddol a anfonwyd at Wynfford James a Rhodri Williams yng ngharchar Abertawe yn dilyn eu rhan yn achos difrodi mast Blaenplwyf ym 1978 a dyddiadur carchar a gadwyd gan Menna Elfyn yn ystod ei chyfnod yng Ngharchar Pucklechurch ym 1971.

Dedfryd a charchar

Deunydd yn ymwneud â gweithredoedd ymgyrchol Menna Elfyn fel aelod o Gymdeithas yr Iaith, gan gynnwys adroddiad, 1969, gan Menna Elfyn o brotest gan Gymdeithas yr Iaith yn Llundain a'u harestiad wedi hynny; llythyr, 1971, oddi wrth Menna Elfyn at Ustus Talbot yn gwrthwynebu cynnal achosion llys yng Nghymru trwy gyfrwng y Saesneg, ynghyd ag agwedd y llys tuag at y diffinyddion; dyddiadur, 1971, a gadwyd gan Menna Elfyn tra'n garcharor yng Ngharchar Pucklechurch, dwy dudalen ohono wedi'u hysgrifennu ar gefn llythyr at Menna Elfyn gan ei thad yn ystod cyfnod ei charchariad; llythyr ymddiswyddiad, 1977, at Senedd Cymdeithas yr Iaith oddi wrth un o'u cyd-aelodau; llythyr, 1986, at Menna Elfyn oddi wrth Lys Ynadon Pebidiog, Hwlffordd; adroddiad, 1990, gan aelod o heddlu Dyfed-Powys ynglŷn â difrod troseddol gan aelodau Cymdeithas yr Iaith; llythyr, 1993, at Menna Elfyn oddi wrth Lys Ynadon Caerdydd ynghylch cyhuddiad o ddifrod troseddol gan aelodau Cymdeithas yr Iaith; toriad papur newydd ynghylch difrod troseddol gan aelodau Cymdeithas yr Iaith; datganiad, 1993, gan Menna Elfyn i Lys Ynadon Aberteifi wedi iddi wrthod talu dirwy yn dilyn gweithred o ddifrod troseddol; a chyfieithiad gan Gillian Clarke o gerdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl No. 257863 H.M.P.

Deunydd amrywiol

Deunydd cyffredinol yn ymwneud â chyfieithu, gan gynnwys hanes sefydlu canolfan gyfieithu yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, datganiad am y llenor Basgaidd Eli Tolaretxipi, cerddi yn yr iaith Arabeg a chyfieithiadau i'r Saesneg o hen benillion Cymraeg.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol, y rhan helaethaf ohono yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn, gan gynnwys erthyglau gan y beirdd Tony Conran a Nigel Jenkins, teyrngedau i Nigel Jenkins gan Menna Elfyn, Stevie Davies a Peter Finch a rhaglen ar gyfer digwyddiad i goffau Tony Conran; cyfeweliad rhwng Iwan Llwyd, Menna Elfyn a Nigel Jenkins; tri darn o'r nofel Martha, Jac a Sianco (2004) gan Caryl Lewis yn llawysgrif yr awdur; gwahoddiad i ddigwyddiad yng nghartref yr arlunydd Mary Lloyd Jones; deunydd PEN Cymru; datganiadau i'r wasg; torion a llungopïau o ddeunydd print; a thorion papur newydd, gan gynnwys rhaghysbyseb o berfformiad cerddorol gan Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn, yn Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin, 2007.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn, gan gynnwys: taflen yn hysbysebu cyhoeddiad Eucalyptus (Gwasg Gomer, 1995), sef detholiad o gerddi gan Menna Elfyn; taflen yn hysbysebu gwasanaethau Menna Elfyn fel Awdur Preswyl wedi'i lleoli yn Llyfrgell Dinbych (gweler dan bennawd Awdur preswyl o fewn yr archif hon); nodiadau yn llaw Menna Elfyn ac mewn teipysgrif yn ymwneud â'r bardd a'r imiwnolegydd Miroslav Holub a'r bardd a'r dramodydd Seamus Heaney; llungopi o glawr Aderyn Bach Mewn Llaw (Gwasg Gomer, 1990), sef detholiad o gerddi gan Menna Elfyn; poster ar gyfer noson yng nghwmni beirdd ac awduron Cymreig a gynhaliwyd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin (dim blwyddyn wedi'i nodi); gwahoddiad argraffiedig i Menna Elfyn fynychu digwyddiad fel rhan o Ffair Lyfrau Göteborg (Gothenburg), Sweden, Medi 2003; bwydlen argraffiedig fel rhan o ddigwyddiad goffa Catrin Glyndŵr a hybwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru (dim dyddiad); cytundeb argraffiedig, Gorffennaf 2010, rhwng y cyhoeddwyr Solum Forlag, Oslo, Norwy a Menna Elfyn ynghylch cyfieithu a chyhoeddi Cell Angel, detholiad o gerddi gan Menna Elfyn (Bloodaxe Books, 1996); poster yn hysbysebu darlleniadau gan Menna Elfyn o'r gyfrol farddoniaeth O'r Iawn Ryw, a olygwyd gan Menna Elfyn (Honno, 1992); a llungopïau a gymerwyd o weithiau argraffiedig yn ymwneud â menywod ac â llenyddiaeth.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn gyda'r cyfryngau, gan gynnwys cytundeb printiedig oddi wrth y BBC, llythyrau oddi wrth gwmni cyfryngau digidol Fidgety Lizard a Phrifysgol Copenhagen, slip cyfarchion Ffilmiau Bryngwyn a bras nodiadau.

Deunydd amrywiol

Deunydd yn ymwneud â gyrfa Menna Elfyn o fewn Coleg Prifysgol Cymru, gan gynnwys llythyr, 1984, at Menna Elfyn yn ei hysbysu na fu'n llwyddiannus yn ei chais am y Gymrodoriaeth Breswyl i Lenor yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan am y cyfnod 1984-85; datganiad yn y cylchgrawn Llais Llyfrau, Gaeaf 1984, fod Menna Elfyn wedi ennill Cymrodoriaeth Awdur Cymraeg Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan (gyda Gillian Clarke yn cael ei phenodi fel Cymrawd Awdur Saesneg); llythyrau yn cymeradwyo cais Menna Elfyn am swydd darlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Drindod, Caerfyrddin (1983), ei chais ar gyfer Ysgoloriaeth Deithio i'r Unol Daleithiau (1986) a'i chais ar gyfer swydd Cydlynydd Prosiect Addysgol Cenedlaethol yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan; nodiadau ar y testun 'Hyfforddiant Mewn Swydd'; ac ebyst calonogol at Menna Elfyn oddi wrth rai o'i myfyrwyr.

Results 41 to 60 of 197