Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1982]-2014 (Creation)
Level of description
Ffeil / File
Extent and medium
1 bocs bach (0.009 mᶟ)
Context area
Name of creator
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai y bu Menna Elfyn yn darlithio iddynt, yn eu cyfarwyddo, neu fel arall yn ymwneud â hwynt, gan gynnwys: cwestiynau a bras nodiadau yn ymwneud â chwrs 'Merched o Feirdd yng Nghymru, Ddoe a Heddiw', a gynhaliwyd, yn ôl tystiolaeth pennawd y papur arholiad y defnyddiwyd ar gyfer y nodiadau, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan; bras nodiadau (llaw a theipysgrif) a wnaed gan Menna Elfyn ar gyfer seminarau fel rhan o gwrs 'Barddoniaeth yr Wythdegau' y bu'n darlithio arno yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd yn ystod y 90au, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol ar y "bardd dawnus" (yng ngeiriau Menna Elfyn) Ennis Evans, a fu farw ym 1982 yn 29 oed, gan y bardd a'r llenor Einion Evans, tad Ennis, ysgrif gan Ennis Evans yn dwyn y teitl 'Pe Meddwn Ddawn ...' a dau nodyn ar y deunydd bywgraffyddol ac ar ysgrif Ennis Evans yn llaw Einion Evans; manylion ynghylch amserlenni cwrs Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, 1999-2010, a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn a'r bardd a'r llenor Nigel Jenkins, ynghyd â datganiad o'r wasg yn ymwneud â'r cwrs ac amrywiol ddeunydd perthnasol, megis trosolygon y cwrs, gohebiaeth, cofnodion cyfarfodydd ac adroddiadau; gweithlen a baratowyd ar gyfer gweithdy llenyddol a gynhaliwyd yn Unol Daleithiau America yn 2005; cofnodion arsylwi ansawdd a dull dysgu a darlithio Menna Elfyn (arsylwyd gan y bardd, dramodydd a darlithydd Dr Dic Edwards, a sefydlodd y cwrs Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, lle bu'n ddarlithydd hyd at 2019; deunydd yn ymwneud â chwrs Ysgrifennu Ymchwil a gynhaliwyd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, 2014; a bras nodiadau darlith/trafodaeth yn llaw Menna Elfyn.
Gweler hefyd dan bennawd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant o fewn yr archif hon.
Mae Menna Elfyn yn Athro Emerita mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
- English
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Rhan helaethaf y deunydd yn Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Am Ennis Evans, gweler Papurau Ennis Evans yn LlGC.
Ganed y bardd a'r llenor Einion Evans yn Mostyn, Sir y Fflint, yn fab i löwr. Bu'n gweithio fel glöwr ei hun am gyfnod, cyn dod yn llyfrgellydd. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1983 am ei awdl Yr Ynys, a gyfansoddwyd er cof am ei ferch, Ennis Evans (https://cy.wikipedia.org/wiki/Einion_Evans).
Note
Am Nigel Jenkins, gweler Nigel Jenkins Papers yn LlGC.
Ganed y bardd, llenor, golygydd, gohebydd, seicoddaearyddwr a'r darlledydd Eingl-Gymreig Nigel Jenkins yng Ngorseinon, Abertawe. Bu'n ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Abertawe ac yn Gyfarwyddwr y cwrs Ysgrifennu Creadigol yno; bu hefyd yn gyd-gyfarwyddwr (gyda Menna Elfyn) cwrs Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, 1999-2010 (https://en.wikipedia.org/wiki/Nigel_Jenkins).
Note
Am Dic Edwards, gweler, er enghraifft: https://en.wikipedia.org/wiki/Dic_Edwards).
Alternative identifier(s)
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Evans, Ennis, 1953-1982 (Subject)
- Evans, Einion, 1926-2009 (Subject)
- University College of Wales (Cardiff, Wales) (Subject)
- Jenkins, Nigel, 1949-2014 (Subject)
- Trinity College (Carmarthen, Wales) (Subject)
- University of Wales Trinity St David (Lampeter, Wales) (Subject)
- University College of Wales (Aberystwyth, Wales) (Subject)
- Edwards, Dic, 1948- (Subject)