Showing 48 results

Archival description
Welsh poetry -- 20th century
Print preview View:

Papurau llenyddol

Mae'r uned yn cynnwys llawysgrifau a theipysgrifau, [?1915]-[?1999], o farddoniaeth Mathonwy Hughes, cyfrolau cyhoeddedig, erthyglau, ysgrifau, a'i nofel anghyhoeddedig Y Pris, yn ogystal â chopïau o'i waith fel beirniad, beirniadaethau a dderbyniodd ef ar ei waith, a deunydd a baratowyd ar gyfer ymrysonau barddol.

Llawysgrifau Llinos Wyre

  • GB 0210 MSLLINOSWYR
  • Fonds
  • [1894]-1931

Llawysgrifau William H. Griffiths (Llinos Wyre), [1894]-1931, yn cynnwys tair cyfrol o dorion o'r wasg (NLW MSS 8298D, 8300-1B) ac un casgliad llawysgrif (NLW MS 8299E) o'i gerddi ac alawon. = Manuscripts of William H. Griffiths (Llinos Wyre), [1894]-1931, consisting of three volumes of press cuttings (NLW MSS 8298D, 8300-1B) and a volume of manuscript transcripts (NLW MS 8299E) of his poems and melodies.

Llinos Wyre, 1851-1931

Papurau'r Gymdeithas Gerdd Dafod

  • GB 0210 GERFOD
  • Fonds
  • 1976-1987

Rhestri, gohebiaeth etc.; yn ymwneud ag aelodaeth, 1976-1979,1983-1987; gohebiaeth yn ymwneud â Barddas a chyhoeddiadau Barddas,1976-1986; gohebiaeth gyffredinol,1976-1978; a chylchlythyrau, adroddiadau a ffurflenni glân 1976-1978 = Lists, correspondence, etc., relating to membership, 1976-1979, 1983-1987; correspondence relating to Barddas and Barddas publications, 1976-1986; general correspondence, 1976-1978; and circulars, reports and unused forms, 1976-1978.

Cymdeithas Cerdd Dafod.

Papurau W. Berllanydd Owen

  • GB 0210 BERWEN
  • Fonds
  • 1929-1984

Papurau Berllanydd, [1929]-1984, yn cynnwys dyddiaduron, 1929-1933,1935-1970, 1982-1984, papurau personol yn cynnwys copïau o'i ewyllys,1981,nodiadau ar gyfer pregethau, anerchiadau crefyddol a gwaith bugeiliol, barddoniaeth a deunydd eisteddfodol, torion papur newydd a deunydd printiedig. = Papers of Berllanydd, [1929]-1984, comprising diaries, 1929-1933, 1935-1970, 1982-1984, personal papers including copies of his will, 1981, notes for sermons, religious addresses and pastoral work, poetry and eisteddfod material, newspaper cuttings and printed material.

Owen, W. Berllanydd (William Berllanydd), 1899-1984.

Cerddi Iwan Llwyd

  • NLW ex 2073
  • File
  • 2000

Allbrintiau o bedair ar ddeg o gerddi a gyfansoddwyd gan Iwan Llwyd ar gyfer arddangosfa, 8 Ebrill-30 Medi 2000, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i ddathlu chwecanmlwyddiant dechrau gwrthryfel Owain Glyn Dŵr. Fe'u cyhoeddwyd yn Owain Glyn Dŵr 1400-2000 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 2000). Ceir hefyd gywydd 'Teulu Owain Glyndŵr' nas cynhwyswyd yn y gyfrol.

Llwyd, Iwan, 1957-

Papurau Llywelyn Phillips

  • GB 0210 LLYIPS
  • Fonds
  • 1864-1982 (crynhowyd 1933-1982)

Papurau Llywelyn Phillips,1864-1982, yn cynnwys gohebiaeth, 1937-1981; erthyglau, darlithoedd, anerchiadau a chyfansoddiadau llenyddol,1933-1980; papurau amrywiol yn ymwneud â'i yrfa, pynciau amaethyddol, bywyd a llenyddiaeth Cymru, 1864-1952; llyfrau lloffion o dorion,1949-1956; cerddi, gan gynnwys y rhai a gyflwynodd i eisteddfodau a chyfansoddiadau ar gyfer achlysuron arbennig, 1957-1981; erthyglau amrywiol a sgriptiau radio,1940-1981; teyrngedau i Llywelyn Phillips,1864-1982; a gweithiau printiedig,1954-1981 = Papers of Llywelyn Phillips, 1864-1982, including correspondence, 1937-1981; articles, lectures, addresses and literary compositions, 1933-1980; miscellaneous papers relating to his career, agricultural matters, Welsh life and literature, 1864-1952; scrap books of cuttings, 1949-1956; poems, including those submitted for eisteddfodau and compositions for special occasions, 1957-1981; miscellaneous articles and radio scripts, 1940-1981; tributes to Llywelyn Phillips, 1981-1982; and printed works, 1954-1981.

Phillips, Llywelyn, d. 1981.

Tro'r Haul Arno

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd Tro'r Haul Arno (1982), gan gynnwys rhagair i'r gyfrol gan yr aelod seneddol Dafydd Elis Thomas a llythyr oddi wrth yr Athro John Rowlands ynghylch cyhoeddi ail-argraffiad o'r gyfrol.

Barddoniaeth

Llawysgrifau a theipysgrifau, 1911-[1982], o gerddi a ymddengys i gyd i fod yn waith Iorwerth Peate, yn eu plith pryddestau ar gyfer eisteddfodau, a theipysgrif Cerddi diweddar (Dinbych, 1982). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys cyfieithiadau Saesneg o gerddi Iorwerth Peate gan Leonard Owen.

Owen, Leonard

Results 41 to 48 of 48