Showing 674 results

Archival description
Only top-level descriptions Welsh
Print preview View:

3 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau Adran Amaethyddol Gymraeg, Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru,

  • GB 0210 AMCYMGPC
  • fonds
  • 1927-1968 /

Papurau yn ymwneud ag Adran Amaethyddol Cymraeg Prifysgol Cymru, 1936-1967, yn cynnwys cyfrifon,1950-1962; rhestri aelodaeth, 1949-1963; cofnodion printiedig Urdd y Graddedigion, 1927-1951; a gohebiaeth yn ymwneud â thermau amaethyddol, 1944-1968 = Papers relating to the University of Wales Guild of Graduates, Adran Amaethyddol Cymraeg, 1936-1967, comprising accounts, 1950-1962; membership lists, 1949-1963; printed records of the Guild of Graduates, 1927-1951; and correspondence relating to farming terms, 1944-1968.

University of Wales. Guild of Graduates. Adran Amaethyddol Gymraeg.

Papurau ychwanegol Llyfni Huws,

  • NLW Misc. Records 454.
  • file
  • 1906-1958.

Ychydig eitemau pellach o blith papurau Llyfni Huws, diweddar ŵr y rhoddwr [gweler Adroddiad Blynyddol 1975-76, t. 41], sef, copiau o lythyrau cymeradwyaeth at Arglwyddes Llanofer ar ran Llyfni Huws, 1906; dyddiadur ei dad am y flwyddyn 1908; cyfrol o farddoniaeth o waith, ac yn llaw, Llyfni Huws, 1915-46; cyfrol o dorion papur newydd ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg o'r Darian, 1917-1918; cerdyn post yn dwyn englyn cyfarch gan Gwilym R. Jones, Dinbych, 1942; llythyr oddi wrth Bob Owen, Croesor, 1947; a llythyr oddi wrth Goronwy [O. Roberts, A.S.], 1958.

Dyddiadur milwr,

  • NLW ex 2684.
  • file
  • 1915, [2010] /

Dyddiadur John Davies yn cofnodi ei brofiadau fel milwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn gwasanaethu ym mhentref Reninghelst, Gwlad Belg, Gorffennaf-Rhagfyr 1915. Yr oedd yn wreiddiol o Drefach Felindre, Sir Gaerfyrddin. Darparwyd nodyn bywgraffyddol amdano gan y rhoddwr Mrs Eunice Davies. = Diary of John Davies recording his experiences as a soldier in World War One serving in the village of Reninghelst, Belgium, July-December 1915. He was originally from Drefach Felindre, Carmarthenshire. A biographical note has been included by the donor Mrs Eunice Davies.

Davies, John, 1892-1928.

Serch yw'r doctor

  • NLW ex 2453.
  • File
  • 1958

Nodiadau cefndirol yn Saesneg i gyd-fynd gyda'r perfformiad cyntaf o'r opera Serch yw'r doctor (y geiriau gan Saunders Lewis a'r gerddoriaeth gan Arwel Hughes) ar Wasanaeth Cartref y BBC, 24 Chwefror 1958, ynghyd ag 'Opera ddigri Gymraeg newydd', erthygl Leslie Wynne Evans, Coleg y Brifysgol, Caerdydd.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Papurau Cymdeithas Cymry Manceinion,

  • NLW ex 2508.
  • file
  • 1925-1991.

Dwy gyfrol yn perthyn i Gymdeithas Cymry Manceinion (Cymdeithas Genedlaethol Cymry Manceinion yn wreiddiol), sef llyfr cofnodion, 1954-1991, gan gynnwys rhaglenni'r tymor, a llyfr lloffion yn cynnwys erthyglau papurau newydd yn nodi gweithgareddau’r gymdeithas a'r eglwysi, 1925-1932. Dathlodd y gymdeithas ei chanmlwyddiant ym 1986. = Two volumes relating to Cymdeithas Cymry Manceinion (Manchester Welsh Society, originally known as Manchester Welsh National Society), being a minute book, 1954-1991 including programmes of events, and a scrap-book containing newspaper articles, 1925-1932, detailing the society’s activities and also the churches. The society celebrated its centenary in 1986.

Cymdeithas Cymry Manceinion.

Cymdeithas yr Iaith : : Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau,

  • NLW ex 2501.
  • file
  • 2007.

Papur a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug, Awst 2007, yn dwyn y teitl 'Ardal yr Wyddgrug. Gwers i Gymru gyfan. Astudiaeth achos o ddatblygiadau tai anaddas', ynghyd â thaflen yn hysbysebu protest 'Coleg Cymraeg NAWR' ar y maes.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Traethodau gan D. T. Evans, Llandysul,

  • NLW Misc. Records 538-539.
  • file
  • 1921-1923.

Two essays submitted by D. T. Evans, Cross Lane, Croes-lan Llandysul for local eisteddfodau, namely 'Tai Dadfeiliedig Plwyfi Bangor, Llanfair, a Llandysul hyd ochr orllewinol Afon Cerdin' (1921), and 'Diffygion Amaethyddiaeth Sir Aberteifi' (1923). = Dau draethawd a gyflwynwyd gan y diweddar Mr. D. T. Evans, Cross Lane, Croes-lan Llandysul, mewn eisteddfodau lleol, sef 'Tai Dadfeiliedig Plwyfi Bangor, Llanfair, a Llandysul hyd ochr orllewinol Afon Cerdin' (1921), a 'Diffygion Amaethyddiaeth Sir Aberteifi' (1923).

Traethawd 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' gan J. Lloyd Williams,

  • NLW Misc. Records 504.
  • file
  • [1920x1945].

Copïau teipysgrif (3) o draethawd (54 tt.) gan y diweddar Athro J. Lloyd Williams ar 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' yn ymwneud â'r dystiolaeth o weithgareddau cerddorol ymysg y Brythoniaid a'r Cymry o gyfnod y Derwyddon hyd at ddiwedd y ddegfed ganrif. = 'Three copies (duplicated typescript) of an essay (54pp.) in Welsh by the late Professor J. Lloyd Williams on 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' in which he examines the evidence relating to musical activities amongst the Britons and Welsh from Druidic times to the late tenth century.

Hen Ysgol Ramadeg Edward Richard, Ystrad Meurig,

  • NLW ex 2424.
  • file
  • 1994-2005.

Tair ffeil yn cynnwys papurau'n ymwneud â Hen Ysgol Ramadeg Edward Richard (1714-1777), Ystrad Meurig, a hanes yr ymgyrch i ddiogelu’r adeilad er budd y gymuned leol, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd Cyfeillion yr Hen Ysgol, 1997, llythyrau oddi wrth CADW a Thomas Lloyd, a thorion o'r wasg = Three files containing papers relating to the Edward Richard (1714-1777) Old Grammar School, Ystrad Meurig, and the campaign to ensure that the building was to be used for the benefit of the local community, including minutes of Friends of the school meetings, 1997, letters from CADW and Thomas Lloyd, and press cuttings.

Lloyd, Thomas.

Papurau Syr Alun Talfan Davies,

  • GB 0210 ALUIES
  • fonds
  • 1938-1999 /

Gohebiaeth a phapurau eraill yn ymwneud â Llyfrau'r Dryw/Cristopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf, Landybïe, 1938-1972, yn cynnwys llythyrau at, ac oddi wrth lawer o lenorion pennaf Cymru; gohebiaeth yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau a sefydliadau gan gynnwys y diwydiant cyhoeddi, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Blaid Ryddfrydol, y Swyddfa Gymreig, Prifysgol Cymru, y BBC a HTV, Urdd Gobaith Cymru, Cronfa Trychineb Aberfan a Banc Brenhinol Cymru, 1943-1999; papurau cyfreithiol, 1964-1972; memoranda a chylchlythyrau, 1941-1986; a ffeiliau amrywiol yn cynnwys papurau personol, darlithoedd, torion papur newydd, ffotograffau a deunydd printiedig,1938-1987 = Correspondence and other papers concerning Llyfrau'r Dryw/Christopher Davies (Publishers) Ltd, Llandybïe, 1938-1972, including letters to and from many significant Welsh literary figures; correspondence concerning a variety of subjects and institutions including the publishing industry, the National Eisteddfod, the Liberal Party, the Welsh Office, the University of Wales, the BBC and HTV, Urdd Gobaith Cymru, the Aberfan Disaster Fund and the Royal Bank of Wales, 1943-1999; legal papers, 1964-1972; memoranda and circulars, 1941-1986; and miscellaneous files including personal papers, lectures, newspaper cuttings, photographs and printed matter, 1938-1987.

Davies, Alun Talfan, 1913-2000.

Papurau Mathonwy Hughes

  • GB 0210 MATHES
  • Fonds
  • [?1847]-2019 (crynhowyd [1920au]-1999)

Mae'r fonds yn cynnwys ei lawysgrifau llenyddol; gohebiaeth bersonol, [?1903]-1992; papurau'n ymwneud â'i deulu, yn enwedig ei ewythr R. Silyn Roberts, [?1847]-[?1986]; papurau'n gysylltiedig â'i waith fel golygydd cynorthwyol Y Faner, 1949-1992; ynghyd â nodiadau a darlithoedd a baratowyd ganddo ar gyfer dosbarthiadau Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991.
Mae'r papurau ychwanegol (Rhodd Medi 2021), 1894-2019 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, barddoniaeth, ysgrifau, papurau'n ymwneud â'r Faner, ffotograffau a phapurau pobl eraill.

Hughes, Mathonwy, 1901-1999

Papurau Idwal Jones,

  • GB 0210 IDWNES
  • fonds
  • 1915-1957 /

Llythyrau, 1915-1936, yn bennaf at ei deulu tra bu'n gwasanaethu yn y fyddin, 1915-1919; teipysgrifau a llawysgrifau o'i ddramâu a sgriptiau radio, 1920-1936, a thorion papur newydd o adolygiadau, 1926-1940; barddoniaeth, caneuon, parodïau, rhyddiaith a deunydd arall, 1924-1932; copi teipysgrif o 'Ann y Wernolau',drama gan ei fam, Mrs Teifi Jones, 1921; a deunydd amrywiol a ychwanegwyd gan D. Gwenallt Jones tra bu'n ymchwilio ar gyfer Cofiant Idwal Jones, 1934-1957. = Letters, 1915-1936, mainly to his family whilst serving in the army, 1915-1919; typescripts and manuscripts of plays and radio scripts, 1920-1936, and newspaper cuttings of reviews, 1926-1940; poetry, songs, parodies, prose and other material, 1924-1932; a typescript copy of 'Ann y Wernolau', a play by his mother, Mrs Teifi Jones, 1921; and miscellaneous material added by D. Gwenallt Jones while researching <i>Cofiant Idwal Jones</i>, 1934-1957.

Derbyniwyd bocs ychwanegol o bapurau gan Mrs Eirain Rees (nee Jones), Medi 2008. Mae'r grŵp yn parhau heb ei gatalogio.

Jones, Idwal, 1895-1937

Papurau William a Myfi Wiliams,

  • GB 0210 WILMYIAMS
  • fonds
  • 1835-1973 /

Papurau'r Parch. William Williams a'i wraig Myfi Williams. Maent yn cynnwys dyddiaduron y Parch. William Williams,1936-1944,1971-1984; papurau, 1937-1942, yn dyddio o'i gyfnod yn yr ysgol a'r coleg; nodiadau darlithoedd; nodiadau ymchwil ar hanes Capel Maengwyn, Machynlleth, ac achos y Methodistiaid yn sir Drefaldwyn; pregethau etc.; a cherddi a storïau a gyfansoddwyd gan y Parch. William David Davies. Ceir hefyd pedwar llyfr nodiadau gan gynnwys drafftiau, 1973, o nofel arfaethedig gan y Parch. William Williams ar y Parch. John Elias (1774-1841). Mae papurau Myfi Williams yn cynnwys llyfrau nodiadau a ffeiliau o nodiadau ar hanes lleol; cyfansoddiadau a gyflwynwyd mewn gwahanol gystadlaethau eisteddfodol, 1958-1976; sgriptiau radio,1961-1967 etc. Ceir hefyd lythyrau a chardiau, c. 1961-1980, a anfonwyd at Gwilym a Myfi Williams = Papers of the Rev. William Williams and his wife Myfi Williams. They include the diaries of the Rev. William Williams, 1936-1944, 1971-1984; papers, 1937-1942, dating from his schooldays and college days; lecture notes; research notes on the history of Maengwyn chapel, Machynlleth, and the Methodist cause in Montgomeryshire; sermons etc.; and poems and stories written by Rev. William David Davies. There are also four notebooks including drafts, 1973, of an intended novel by Rev. William Williams on Rev. John Elias (1774-1841). The papers of Mrs Myfi Williams include notebooks and files of notes on local history; compositions submitted for various eisteddfod competitions, 1958-1976; radio scripts, 1961-1967 etc. There are also letters and cards. 1961-1908, addressed to Gwilym and Myfi Williams.

Williams, William, 1921-1985

Papurau Erfyl Fychan

  • GB 0210 ERFYCHAN
  • fonds
  • 1858-1996 (crynhowyd 1924-1996)

Papurau Erfyl Fychan, 1858-1996, gan gynnwys llythyrau a anfonwyd ato, rhai oddi wrth ei gyd-aelodau yn yr Orsedd, copi o'i draethawd MA, 1939, sgriptiau radio, llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru') a chyfrolau eraill yn cynnwys adysgrifau a ddaeth i'w feddiant, ynghyd â phapurau ei fab Geraint Vaughan-Jones.

Erfyl Fychan, 1899-1968

Papurau Eunice Bryn Williams,

  • GB 0210 EUNAMS
  • fonds
  • 1838-[1991] /

Papurau, 1838-[1991], yn bennaf papurau personol a theuluol Eunice Bryn Williams, 1838-[1991], yn cynnwys darnau cerddoriaeth yn llaw Eunice Bryn Williams, 1954-[1980au]; nodiadau darlithoedd ar gerddoriaeth, [1940au-1980au]; papurau'n ymwneud â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru, [1950au-1980au], ac eisteddfodau, yn arbennig Eisteddfod yr Urdd, [1930au-1980au]; rhaglenni cyngherddau o gerddoriaeth Cymreig, 1939-1961; a gohebiaeth deuluol,1888-1961. = Papers, 1838-[1991], mainly personal and family papers of Eunice Bryn Williams, 1838-[1991], including music pieces in the handwriting of Eunice Bryn Williams, 1954-[1980s]; lecture notes on music, [1940s-1980s]; papers relating to Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru and Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, [1950s-1980s], and to eisteddfodau, especially Eisteddfod yr Urdd, [1930s-1980s]; concert programmes of Welsh music, 1939-1961; and family correspondence, 1888-1961.

Williams, Eunice Bryn, 1919-1991.

Papurau Lewis Valentine,

  • GB 0210 VALENTINE
  • fonds
  • 1874-1983 (crynhowyd [20fed ganrif cynnar]-1983) /

Papurau'r Parch. Lewis Valentine, 1874-1983, yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1916-1983; llythyrau oddi wrth Saunders Lewis, [1926]-1983; llythyrau oddi wrth D. J. Williams, 1930-1969; llythyrau oddi wrth Kate Roberts, 1937-1976; llythyrau'n ymwneud â'r Ysgol Fomio a charchariad Lewis Valentine, 1936-1937; dyddiaduron rhyfel,1916-1919; anerchiadau gan Valentine ac eraill, 1930-1972; a phapurau amrywiol a gasglwyd gan Valentine, 1874-1980. = Papers of the Rev. Lewis Valentine, 1874-1983, comprising general correspondence, 1916-1983; letters from Saunders Lewis, [1926]-1983; letters from D. J. Williams, 1930-1969; letters from Kate Roberts, 1936-1976; letters relating to the Bombing School and Lewis Valentine's imprisonment, 1936-1937; war diaries, 1916-1919; addresses by Valentine and others, 1930-1972; and miscelleneous papers collected by Valentine, 1874-1980.

Valentine, Lewis.

Sgriptiau Gwynne D. Evans

  • GB 0210 GWYDEV
  • Fonds
  • 1917-1988

Sgriptiau dramâu Gwynne D. Evans, 1946-[1979], gan gynnwys rhai a ddanfonwyd i gystadleuthau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac a ddarlledwyd ar y radio ac ar y teledu; sgriptiau 'Pobol y Cwm'; ynghyd â phapurau’n ymwneud â’i waith fel cynhychydd Under Milk Wood a Dan y Wenallt.

Evans, Gwynne D. (Gwynne David), 1908-

Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent

  • GB 0210 CYMIAITHMORGWE
  • Fonds
  • 1984-2007

Papurau, 1984-2007, Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ranbarth Morgannwg Gwent, yn cynnwys gohebiaeth, datganiadau i’r wasg, nodiadau, a thorion o’r wasg, yn ymwneud â gweithredu polisi iaith Gymraeg fewn siopau, busnesau, a chwmniau preifat yn ardal Morgannwg Gwent. Mae rhan fwyaf o’r papurau yn deillio o Gell Caerdydd y Gymdeithas.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent

Papurau Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd

  • GB 0210 EGCDRA
  • Fonds
  • [?1929]-[2013] (gyda bylchau)

Sgriptiau dramâu amrywiol, [?1929]-[2013] (gyda bylchau), gan gynnwys dramâu gwreiddiol, addasiadau o ddramâu, a dramâu a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd

Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

  • GB 0210 NANTGWRTH
  • Fonds
  • [1974]-[2010]

Gohebiaeth a phapurau, 1891; 1972-2015, yn ymwneud â sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a datblygu gwasanaethau y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth yr Ymddiriedolwyr, cyfreithwyr, staff, fasnachwyr, dysgwyr, a sefydliadau cysylltiedig eraill, a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud â materion ariannol (1978-1994); cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a phwyllgorau amrywiol yn ymwneud â’r Nant (1980-1992; 1994-2003); cyflogaeth a gwirfoddoli (1980-1993; 1997-2013); marchnata a hysbysebu gweithgareddau, cyrsiau, a chyfleusterau y Ganolfan (1980-1992; 1997-2003); datblygu gwasanaethau y Ganolfan (1972-1997; 2002-2008); a phryniant a gwerthiant Plas Pistyll, ac ymgyfreitha cysylltiedig (1978-1995).

Nant Gwrtheyrn National Language Centre

Results 601 to 620 of 674