Dangos 59614 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Edinburgh,

Trefniant a gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y doethion' gan I. D. Hooson, i'r alaw Edinburgh'.

Llety'r bugail,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Coeden Afalau', gan T. Rowland Hughes, i'r alaw 'Llety'r Bugail' gan Eleri Owen.

Mantell Siani,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Cantre'r Gwaelod' gan R. Williams Parry, i'r gainc 'Mantell Siani'.

Plas Crug,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Awn hyd Fethlem' gan James Nicholas, i'r gainc 'Plas Crug'.

Plygiad y bedol fach,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y cychod gwyn' gan Dic Goodman, i drefniant Catherine Watkin o'r gainc 'Plygiad y bedol fach'.

Y Waedd,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Clychau'r gog' gan R. Williams Parry, i'r alaw 'Y Waedd' gan Haydn Morris.

Llyfrau sgrap Nans Jones

Tri llyfr sgrap Nans Jones: (i) papurau cymysg, 1982-2005, yn cynnwys englyn 'i Nans Jones ar ymddeol o'i swydd, Plaid Cymru', gan Ithel Davies, d.d.; (ii) papurau cymysg, 2000-2001; (iii) etholiad cyffredinol San Steffan, 2001; a (iv) torion rhydd, 1955-2007. (Grŵp Nans Jones, 2014).

Cerddi'r Parchedig John Roberts, [Llanfwrog]

Tri llyfryn teipysgrif a gyflwynwyd i Emlyn Evans a’i wraig Eileen gan eu cyn-weinidog y Parchedig John Roberts, Caernarfon, gyda'r teitlau ‘Ebyrth gorfoledd’, ‘Ambell gyffro’ yn cynnwys emynau a cherddi ganddo, a ‘Bardd yr Haf’ yn cynnwys cerddi coffa i'r bardd R. Williams Parry.

Carolau,

Llawysgrif, llungopïau a brasluniau o sgôr garolau, wedi'u cyfansoddi neu trefni gan Gilmor Griffiths. Y rhan fwyaf yn cynnwys alaw a chyfeiliant.

Fe anwyd mab ym Methlem,

Sgôr mewn llawysgrif o'r carol 'Fe anwyd mab ym Methlem', gan Gilmor Griffiths, geiriau Cymraeg gan Mairlyn Lewis, geiriau Saesneg gan Morien [Phillips]. Copi sol-ffa, sgôr mewn dau gywair gwahanol.

Ganwyd Crist i'r byd,

Llyfr brasluniau, lawysgrifau a llungopïau o sgorau wahanol drefniadau o 'Ganwyd Christ i'r byd' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan James Arnold Jones.

Mary Carol,

Sgôr mewn llawysgrif gyda chopïau a brasluniau o 'Mary Carol', geiriau a cherddoriaeth gan Gilmor Griffiths.

Ymlaen asyn bychan,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopi o 'Ymlaen asyn bychan' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Côr pedwar llais.

Canlyniadau 661 i 680 o 59614