Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

'Welsh Folk Song', J. Lloyd Williams (xiii)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs mynegai coch gan Merêd ar ‘Welsh Folksongs in the J Lloyd Williams Collection’ wedi eu trefnu A-Z (ff. 1-52). Mae’n cynnwys gwybodaeth am enw’r alaw, a gyhoeddwyd y gwaith ai peidio, ble cyhoeddwyd, ffynhonnell, geiriau a nodiadau eraill.

Bu Merêd yn gwneud llawer o waith ymchwil ar archif J Lloyd Williams (1854-1945) sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol: https://archives.library.wales/index.php/dr-j-lloyd-williams-music-mss-and-papers-2

Welsh Nation

Copïau o'r 'Welsh Nation', wythnosol: vol. 47, no's 3-4, 6-8, 15-17, 23-24, 28, 34-39, 42-44, 46-50 (Oct. 1974-Sept. 1975), vol. 48, no's 1-13, 15-18, 20-33, 35-36, 41-42 (Sept. 1975-July 1976); misol: vol. 48, no's 48-50 (Oct.-Dec. 1976), Jan.-July, Sept., Dec. 1977, March-Dec. 1978, Jan.-June 1979, June 1980; a 'Cymru', Gaeaf 1996/7. Hefyd, copïau o'r 'Cardiff People's Paper: Cardiff's radical community paper', no. 43 [c.1977], a 'Deffro!, cylchlythyr Plaid Cymru yn y Brifddinas a'r Fro', [c.Mawrth] 1994, Hydref 2004, Ion. 2005.

Welsh Nation

Copïau o'r 'Welsh Nation', misol: Jan., March 1966-June 1968, Aug. 1968, Nov. 1968-March 1969, May-June, Aug., Oct.-Nov. 1969, Feb., Oct.-Nov. 1970, Jan.-March, June 1971; wythnosol: vol. 43, no's 1, 6-8, 10-11, 20, 24, 28 (Sept. 1971-April 1972), vol. 44, no's 8-9, 49 (Nov. 1972 a Sept. 1973), vol. 45, no's 1-16 (Sept. 1973-Feb. 1974), vol. 46, no's 17, 19, 21-22, 26, 31-32, 34, 36-40, 43-47, 49, 51 (Jan.-Sept. 1974) [mae'n debyg mai cyfrol 45 wedi troi i mewn i gyfrol 46 trwy ddamwain]. Hefyd, copi o 'Y Ddraig Goch', cyf. 35, rhif 3, Mawrth 1966, a'r 'Gwerinwr, cylchgrawn Cangen Llundain', Ebrill 1973.

Wil Ifan o Fôn

Llythyrau, cerddi, a thorion o erthyglau ganddo a gyhoeddwyd yn Y Clorianydd, 1932-1950, ynghyd ag atgynyrchiad o siart Wil Ifan o Fôn 'The Bardic Circle ... A Primary Attempt at Dissection' yn darlunio strwythur a hanes y cylch barddol.

Evans, William, 1875-1952

Woolworths; Londis; Marks & Spencer

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1984-1998, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o storfeydd cenedlaethol; nifer o Aelodau Senedd Cymraeg; nifer o aelodau Tŷ’r Arglwyddi; yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Wayne David; a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o gylchlythyr Cymdeithas yr Iaith (1994); datganiadau i’r wasg (1994); a nifer o bosteri ymgyrch.

Wrth y tân,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Wrth y Tân', trefniant Gilmor Griffiths o'r alaw Rwsieg ar gyfer lleisiau merched neu blant (? S.A.A.A.). Geiriau gan W. J. Bowyer.

'Y Bardd Celtaidd'

Papurau a gohebiaeth, 1991, yn ymwneud â thrydydd Fforwm ar deg y Ganolfan ‘Y Bardd Celtaidd’ fel un o weithgareddau gŵyl ‘Celtica 1991’, yn cynnwys rhaglen; slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; copi o’r llyfryn ‘Celtica 1991’; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Llinos Roberts-Young; Saunders Davies; Elin M. Jones; D. M. Lewis; Susan Jenkins; Hywel ap Robert; T. Arwyn Watkins; A. O. H. Jarman; Morfydd E. Owen; a Nerys Ann Jones.

Y Briallu,

Sgôr mewn llawysgrif o'r gân 'Y Briallu', Gilmor Griffiths a Rhydwen Williams (1916-1997) yn gweithio ar y cyd, ar gyfer cwmni teledu Granada. Geiriau gan Eifion Wyn.

Y Corn Gwlad

Un rhifyn yn unig a argraffwyd o'r cylchgrawn hwn sef Cylchgrawn Blynyddol Gorsedd y Beirdd a'r Eisteddfod wedi'i olygu gan John Eilian.

Y Cymro

Papurau, 1930-1934, gan gynnwys gohebiaeth rhwng Rowland Thomas, perchennog Hughes a'i Fab, a John Eilian.

Y Ddinas

Torion o erthyglau a gyfrannodd i'r golofn 'Sylwadau' yn Y Ddinas (cylchgrawn Cymry Llundain), 1953-1955, a llythyr ato oddi wrth Caradog Prichard, 1955, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad', Y Ddinas, Awst 1957, ynghyd ag erthyglau diweddarach a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan a Y Goleuad.

Prichard, Caradog, 1904-1980

Y Deffro,

Llungopi o sgôr mewn llawysgrif o 'Y Deffro' ar gyfer unsain, cyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries. Un ar gyfer llais gyda chyfeiliant, ac un ar gyfer y llais yn unig.

Y Faenol Bropor,

Gosodiad gan Glyn Hopkins o eiriau 'Ann Griffiths' gan D. G. Jones, i'r alaw 'Y Faenol Bropor' gan Gilmor Griffiths. Llungopi o'r sgôr, yn ogystal â geiriau i donig sol-ffa.

Canlyniadau 961 i 980 o 1033