Golygwyd gan 'Gruff Ankst', Porthmadog [1990?] . Label record annibynnol o Gymru oedd Ankst a ffurfiwyd ym 1988 ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan Alun Llwyd, Gruffudd Jones ac Emyr Glyn Williams.
"Croeso i fyd Lola. Abertawe, Haf 1982". Un o’r ffansyns cyntaf rheolaidd yn y Gymraeg oedd ‘Amser Siocled’ dan olygyddiaeth Geraint Williams, cyn lowr o Ystadgynlais. Bu Geraint Williams yn gysylltiedig a grwpiau fel Crys a Trobwll yn y dyddiau cynnar a fe gyhoeddodd gaset amlgyfrannog o’r enw “Pwy Fydd Yma Mewn Can Mlynedd’ ar ei label ‘Lola’. Mae'r rhifyn yma yn cynnwys darn ar sut i wneud caset, rhestr recordiau Gary Melville, a chyfweliad gyda'r Celfi Cam.
Alun Llwyd, Cell Wrecsam. Ffair recordiau Byffalo Cymru, 1987. Roedd 'Galwad ar holl filwyr Byffalo Cymru' yn record a rhyddhawyd gan Label: Recordiau Anhrefn (ANHREFN 006 Vinyl, 7", 33 ⅓ RPM) yn 1986 er budd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r mudiad Gwrth Apartheid.
Cyhoeddwyd / ysgrifennu gan Gorwel Roberts o Benrhyndeudraeth (aelod o fand Bob Delyn a'r Ebillion) a daeth allan adeg Eisteddfod Porthmadog yn 1987. Cynnwys cyfweliad gyda Pat a Dave Datblygu, Dic Ben o 'Elfis Presli' ac erthygl yn erbyn creulondeb i anifeiliaid.
Poster gwyn a choch ar gyfer Dawns yn neuadd Blaen Dyffryn, Llandysul, 20 Medi [1985] gyda Derec Brown a'r Racaracwyr, Maraca, Blaenau 'Y' , a Disco. Trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Ffermwyr Ifainc Pontsian.
Cerddi yn ei law, cyhoeddwyd llawer ohonynt yn Ffynhonnau uchel (2012), ynghyd â 'High Springs' sef cyfieithiad o'r gerdd sy'n dwyn yr un teitl â'r gyfrol a chopi o'r gyfrol hefyd,
Adysgrifau o gywyddau, limrigau, englynion, sonedau ac adroddiadau Adar Tydfor gan Ann Tydfor, teipysgrif wedi'i chywiro, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'r gyfrol oddi wrth Wasg Gomer yn 1993.
Copi o'r Times of Mesopotamia, 5 Mehefin 1927, a olygwyd ganddo, adysgrifau, 2018, o lythyrau oddi wrtho at Caradog Prichard, 1928, ac allbrintiau, 2017, o archif hanesyddol y Daily Mail o erthyglau a gyfrannodd i’r papur hwnnw, 1928-1929.
Toriad o gylchgrawn Coleg y Santes Catrin, [Caergrawnt], yn nodi iddo ennill gradd dosbarth cyntaf (rhagarweiniol) mewn Gwyddoniaeth Naturiol yn 1948, llyfryddiaeth, 1983-1988, copi o Llyfrau gwyddonol Cymraeg (Rhan II) - llyfrau cyn 1940 yu bu'n cynorthwyo ei llunio yn cynnwys ychwanegiadau llawysgrif a thoriad o'r [Dinesydd] am gyflwyno'r fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005.
Tystysgrif priodas ei rhieni Hugh Davies Jones a Laura Owen a briodwyd yng Nghapel Salem, Llanbedr, 10 Mehefin 1912 a llungopi o deyrnged i'w thad 'Y diweddar Barch. H. D. Jones' a gyhoeddwyd yn Yr Hauwr [misolyn Undeb Bedyddwyr Cymru at wasanaeth Yr Ysgol Sul] yn [1924].
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1992-1996, rhwng Cymdeithas yr Iaith a sawl banc a chymdeithas adeiladu genedlaethol yn trafod polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nifer o ddatganiadau i’r wasg (1995-1996).
Bu Emlyn Evans yn ysgrifennydd Eglwys Jewin. Ceir adroddiadau'r eglwys, 1955-1979, rhestri testunau a rhaglenni eisteddfodau'r plant, 1949-1961, a rhaglenni cyngherddau mawreddog, 1952-1957.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1992-1999, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith, a banciau a chymdeithasau adeiladu genedlaethol; y Gymdeithas Tai Cymuned Caerdydd; a nifer o gyfreithwyr yng Nghaerdydd, yn trafod polisi iaith Gymraeg. Yn ychwanegol, mae’r ffeil yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1995-1996); a dau ffotograff.