Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cyhoeddiadau amrwyiol

Cyhoeddiadau o Lesotho ac am Lesotho, gan gynnwys pecynnau gwybodaeth a chanllawiau Dolen Cymru ar gyfer busnesau, eglwysi a thwristiaid, c.1980-c.1989; rhaglen Gŵyl Elái, gan gynnwys perfformiad gan Gôr Athrawon Maseru, 1988; a thaithlyfr i eglwys plwyf Welshampton, Swydd Amwythig, gan gynnwys bedd Jeremiah Libopuoa Moshoeshoe (bu f. 1863), [ar ôl 1999].

Cylchlythyrau a.y.b.

Cylchlythyrau yn ymwneud â Lesotho a deunydd printiedig arall, gan gynnwys pecyn Dolen Cymru yn cynnwys copïau o lythyrau King Moshoeshoe II at Nelson Mandela a F. W. de Klerk, ac o anerchiad gan General Lekhyana yn nodi diwedd apartheid yn Ne Affrica, Chw. 1990; Gŵyl Feithrin Mudiad Ysgolion Meithrin 1991 ar y thema 'Ffrindiau'; Dr Mosebi Damane, 'Moshoeshoe's application of international law and diplomacy in southern Africa' (19eg ddarlith goffa Moshoeshoe), 1992; llyfryn ar 'Morena Moshoeshoe I, mothehi oa sechaba sa Basotho = the founder of the Basotho nation', 1995; adroddiad blynyddol Uchel Gomisiwn Lesotho Llundain, 2007/08; a rhaglen ar gyfer dathliadau pen-blwydd 46 oed y Brenin Letsie III, 2009.

Cyhoeddiadau amrwyiol

Cyhoeddiadau, yn bennaf pamffledi ar gyfer cyrchfannau twristiaid Lesotho, hefyd cardiau post, buddsoddiad busnes ac ati.

'Canu Cynnar Waldo'

Llyfr nodiadau yn dwyn yr arysgrif 'Cerddi Cynnar Waldo' a dau nodyn arall (un dyddiedig 10 Mai 1979) yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, y gyfrol yn cynnwys copïau teg a drafft o Hiraeth (cyfres o dair soned), Yr Hen Le, Efe, Ei Hiraeth Ef ac Er Ei Fwyn (pedair cerdd ar yr un mesur sy'n rhan o un cyfanwaith) a Y Duw Unig (oedd ar un adeg yn rhan o bryddest neu gerdd hir o'r enw Unigrwydd (ceir y teitl hwn ar dudalen ar ei ben ei hun o fewn y gyfrol)) pob un o'r cerddi gan ac yn llaw Waldo Williams.

Linda

Copi o gywydd byr gan Waldo Williams er cof am ei wraig Linda (ganed Llewellyn). Ychydig wythnosau wedi ei marwolaeth anhymig ar y cyntaf o Fehefin 1943, anfonodd Waldo gopïau o'r gerdd wedi'i hargraffu ar gerdyn fechan at deulu a chyfeillion.

Cân Bom

Copi llawysgrif a llungopi o'r gerdd Cân Bom gan Waldo Williams, y copi llawysgrif yn ei law. Ar du ôl y copi llawysgrif, ceir copi o'r gerdd Almaenes gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd Cân Bom am y tro cyntaf yn rhifyn 3 Ebrill 1946 o'r Faner.

Yr Heniaith

Toriad papur newydd yn cynnwys copi o'r gerdd Yr Heniaith gan Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 20 Hydref 1948 o'r Faner.

High Above The Great West Road ....

Copi llawysgrif o gerdd gan ac yn llaw Waldo Williams yn cychwyn 'High above the Great West Road ...' a anfonodd Waldo fel rhodd Nadolig, 20 Rhagfyr 1948, at nai Maude Webb, prifathrawes Ysgol Gynradd Lyneham ger Chippenham, swydd Wiltshire, lle 'roedd Waldo'n dysgu ar y pryd; ynghyd â llungopi o'r gerdd. Darlunir y gerdd â phaentiad dyfrlliw gwreiddiol o Geffyl Gwyn Cherhill a Chofeb Lansdowne.

Tua'r Gogledd

Cerdd, yn ôl pob golwg gan Waldo Williams, mewn teipysgrif yn dwyn y teitl Tua'r Gogledd. Yn ôl nodyn ynghlwm wrth y gerdd, fe'i chyhoeddwyd yn rhifyn Awst 1950 o'r cyfnodolyn Taliesin.

Oes y Seintiau/Molawd Penfro

Copïau teipysgrif o dair cerdd gan Waldo Williams dan y teitl Oes y Seintiau, sef 'Cân I' a 'Chân II' ac 'Ymddiddan rhwng Dewi, Teilo a Cholman', ynghyd â sgôr gerddorol mewn llawysgrif ar gyfer deulais a phiano yn dwyn y teitl 'Molawd Penfro', y geiriau gan Waldo a'r gosodiad cerddorol gan Gerallt Evans. Lluniodd Waldo 'Cân I', 'Cân II' ac 'Ymddiddan rhwng Dewi, Teilo a Cholman' ar gyfer 'Molawd Penfro', sef pasiant adrannau ac aelwydydd yr Urdd Sir Benfro a oedd i'w pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abergwaun 1951.

Eirlysiau

Copi llawysgrif teg o'r gerdd Eirlysiau gan ac yn llaw Waldo Williams.

Mewn Dau Gae

Copi llawaysgrif o'r gerdd Mewn Dau Gae gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 13 Mehefin 1956 o'r Faner.

Results 81 to 100 of 1284