Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Cyfrol o ddrafftiau rhai o weithiau Kate Roberts wedi eu hysgrifennu mewn hen lyfr archebion ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dinbych ...,

Cyfrol o ddrafftiau rhai o weithiau Kate Roberts wedi eu hysgrifennu mewn hen lyfr archebion ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, 1939. Ceir drafft cynnar o ddechrau Stryd y Glep (Dinbych, 1949); drama radio mewn pedair pennod yn dwyn y teitl "Modryb a Nith", a drafft o'r ddrama radio "Y Gwas" a ddarlledwyd yn 1961. Yng nghefn y gyfrol ceir nodiadau ar gyfer stori fer "Y Tri" a gyhoeddwyd yn Thomas Parry (gol), Y Ddolen (Lerpwl, 1946), tt. 88-91. 154 Tt.

Cyfrol O Nodiadau yn llaw Kate Roberts yn cynnwys syniadau ar gyfer y nofel Y Byw sy'n Cysgu (Dinbych, 1956) ...,

Cyfrol O Nodiadau yn llaw Kate Roberts yn cynnwys syniadau ar gyfer y nofel Y Byw sy'n Cysgu (Dinbych, 1956), ff. 1v-19, 84v-77v (tuag yn ôl); Tegwch y Bore a ymddangosodd yn Y Faner gyntaf, 1957-8, ff. 20-7; "Nodion ar gyfer Nofel newydd", ff. 28-33, sef nodiadau a ddefnyddiwyd ar gyfer y ddrama gyfres "Modryb a Nith", Rhaglen Cymru'r BBC, Mai 1959; "Nodiadau Drama" sef "Y Gwas", a ddarlledwyd ar Raglen Cymru y BBC, 10 Chwefror 1961, ff. 34-40; a dyfyniadau, teitlau llyfrau a rysetiau, ff. 91-87v (tuag yn ôl). 56 Tt.

Drama Radio "Y Cynddrws" gan Kate Roberts a ddarlledwyd ar Raglen Cymru y BBC, nos Fawrth, 25 Mai 1954. Am ...,

Drama Radio "Y Cynddrws" gan Kate Roberts a ddarlledwyd ar Raglen Cymru y BBC, nos Fawrth, 25 Mai 1954. Am ymateb Saunders Lewis i'r ddrama, gweler ei lythyr, 26 Mai 1954, rhif 1026 yn y casgliad hwn. 2636 Drafft llawysgrif mewn tair cyfrol, 49 tt.; 2637 Sgript deipiedig y BBC, 22 tt.; 2638 Fersiwn teipysgrif fyrrach a thra gwahanol i'r un a ddarlledwyd, 6 tt.

Results 101 to 120 of 2413