Print preview Close

Showing 164 results

Archival description
Archif Plaid Cymru, File Welsh
Print preview View:

Elpast Ltd. ac HH Associates, 'argraffwyr' taflenni Plaid Llafur

Papurau yn ymwneud â datganiad ffug ar waelod rhai taflenni Plaid Llafur wedi'u hargraffu gan "Elpast Ltd. trading as HH Associates" yn Uned B1, Stad Ddiwydiannol Lôn Coedcae, Talbot Green. Roedd yr uned yn wag ers dros flwyddyn, a ddim e erioed wedi bod yn argraffwr. Mae'r papurau yn gynnwys gohebiaeth; datganiad statudol Tŷ'r Cwmnïau Encore Print Ltd, gan gynnwys newid o enw i HH Associates, Chw. 1996; cyfrifon Tŷ'r Cwmnïau HH Associates, Ion. 1997-Mawrth 1998; a thystysgrif Tŷ'r Cwmnïau ymgorffori Elpast fel cwmni cyfyngedig preifat, Medi 1998.

Llofnodion a llawysgrifau

Casgliad o lofnodion bras casglwyd gan Nans Jones, 'yr wyf yn ceisio gwneud "traycloth" gydag enwau aelodau'r Blaid arno i'w rafflo yn yr Ysgol Haf', gan gynnwys Trefor Beasley, W. Ambrose Bebb, J. Kitchener Davies, Gwynfor Evans, Gwenan Jones, J. E. Jones, Nans Jones, Saunders Lewis, Kate Roberts, O. M. Roberts, Lewis Valentine a D. J. Williams, [pre-1952]. Hefyd saith darn o ryddiaith neu farddoniaeth mewn llawysgrif wedi'u llofnodi, sef 'Adnabod Duw' gan D. Tecwyn Evans, 'I Gymru hon' gan Gwenan Jones, 'Cân y Cwteri' gan Wil Ifan, 'Y llwybr arian' gan E. Tegla Davies, 'Afradlondeb' gan Davies Aberpennar, 'Y Graith (Pen. XVIII)' gan Elena Puw Morgan, a 'Ffair Wragedd' gan T. Hudson-Williams, [c.1954].

Llythyrau i Nans Jones

Llythyr a chardiau post i Nans Jones, gan gynnwys oddi wrth Kate Roberts yn gofyn am gyfeiriad newydd Noëlle Davies, 1959; D. J. Williams ar farwolaeth ei wraig, 1965; Gwynfor Evans, 1967, a Cyril a Pegi, 1968, ar ei hymddeoliad; Cassie Davies yn trefnu cwrdd yng Nghapel Heol y Crwys yn y gwasanaeth i ddiolch am J. E., 1970; Gwenan Jones o Aberystwyth, 1970; Dilys o Fangor [Dilys Jones?], 1970; cerdyn Nadolig oddi wrth Eamon de Valera, 1971; Noëlle Davies o Co. Wicklow, 1972; Enid ar farwolaeth ei chwaer Pegi, 1976; cerdyn Nadolig oddi wrth Gwynfor Evans a Rhiannon, [d.d.]; Alun o Gaerfyrddin [D. Alun Lloyd?], [dim blwyddyn].

Results 121 to 140 of 164