Dangos 45762 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

36 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Y Gyngres Geltaidd, Aberystwyth

Ffotograff o'r Côr Telynau mewn cyngerdd a gynhaliwyd yn Neuadd y Brenin, Aberysrwyth, 10 Awst 1960, yn cynnwys chwech o delynorion, ynghyd â thoriad o'r Cymro. Nodwyd enwau'r telynorion ar gefn y ffotograff.

D. J. Williams/Emynau ac emynwyr

Llyfr nodiadau yn cynnwys ysgrif ddrafft gan ac yn llaw Waldo Williams ar y bardd a'r llenor D. J. Williams; a thrawsgrifiadau o emynau a nodiadau ar emynwyr o'r ddeunawfed ganrif yn llaw Waldo Williams. Ceir nodyn yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, ar glawr y gyfrol.

Nodiadau llenyddol

Llyfr nodiadau [yn llaw Dilys Williams] yn cynnwys bras nodiadau yn ymwneud yn bennaf â llenyddiaeth Gymraeg.

Ysgol y Delyn

Papurau'n ymwneud ag Ysgol y Delyn yn Pantybeiliau, Gilwern, Y Fenni, cartref y delynores Ann Griffiths a'i gŵr Dr Lloyd Davies, y trefnyddion, yn cynnwys ffotograffau o’r telynorion; ffotograff o Elinor Bennett yn cael gwers gydag Elis[z]abeth Fontan-Binoche [o'r Conservatoire, Paris]; ffotograff o'r ddwy chwaer Mari ac Ann Griffiths; adroddiad o'r Cymro, Gorffennaf 1961 a phenillion ‘Topicals’ gan Elinor Bennett am y profiad. [Mae cyfeiriad ‘Erw’r Llan, Llanbadarn Road’ wedi’i argraffu ar y papur ysgrifennu’]; ynghyd â rhaglen Ysgol y Delyn a gynhaliwyd ym Mangor yn 1971.

Darlithiau

Ymhlith y darlithiau mae darlith (Saesneg) ar Betsi Cadwaladr, 'Dramâu Huw Lloyd Edwards a'i ddatblygiad fel dramodydd' a 'Pedr Fardd'.

Ffotograffau

Ymhlith y ffotograffau mae un o David Lloyd wedi’i lofnodi ganddo yn 1963, T. Glynne Davies ac Alan Llwyd yn Eisteddfod Genedlaethol [Machynlleth 1981] a gyda Mary Hopkin ac eraill yng ngwesty’r Savoy, [Llundain].

Pregethau

Pregethau a draddodwyd ganddo, [1964]-[1997]. Cofnodir enw'r eglwys ar y bregeth, yn arbennig Eglwys Shiloh, Llanbedr Pont Steffan.

Y Colegiwm Cymraeg

Papurau, [1964]-[1986], yn ymwneud â Chymdeithas Staff Academaidd Cymraeg Prifysgol Cymru (Y Colegiwm Cymraeg).

Cyngherddau amrywiol

Rhaglenni cyngherddau amrywiol iawn, 1964-2010, gan gynnwys cyngerdd yn Gruppe, Yr Almaen, 1964; Côr Poliffonig Caerdydd, 1970; Gŵyl Werin Corwen, 1972; a Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn, 1982.

Erthyglau eraill

Erthyglau a gyhoeddwyd mewn papurau eraill: ‘The dying establishment’, Western Mail, 23 Medi 1964; 'Dydd Gŵyl Dewi. Rhown ei draed ar y tir efo Deiniol', Holyhead and Anglesey Mail, 1966; cyfres o dair erthygl a gyhoeddwyd yn Yr Herald Cymraeg a’r Genedl, 1968, sef sgyrsiau a draddodwyd ar raglen Heddiw (BBC); a ‘Gwaed ei fron gyda’i frenin’, Herald Môn, 1968.

Erthyglau

Drafftiau o erthyglau ar gyfer cylchgronau, dyddiadur, 31 Rhagfyr 1965-7 Mawrth 1966, mewn teipysgrif, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans, 1979.

Effemera

Cardiau aelodaeth Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones a chopi araith gyntaf Gwynfor Evans yn y Senedd ar 26 Gorffennaf 1966.

Llythyrau 1964-1983

Llythyrau, 1964-1983, oddi wrth lenorion blaenllaw, gan gynnwys grŵp o lythyrau oddi wrth Kate Roberts, 1964-1981.

Roberts, Kate, 1891-1985

Canlyniadau 161 i 180 o 45762