Erthyglau a gyhoeddwyd mewn papurau eraill: ‘The dying establishment’, Western Mail, 23 Medi 1964; 'Dydd Gŵyl Dewi. Rhown ei draed ar y tir efo Deiniol', Holyhead and Anglesey Mail, 1966; cyfres o dair erthygl a gyhoeddwyd yn Yr Herald Cymraeg a’r Genedl, 1968, sef sgyrsiau a draddodwyd ar raglen Heddiw (BBC); a ‘Gwaed ei fron gyda’i frenin’, Herald Môn, 1968.
Rhaglenni cyngherddau yn deillio o gyfnod Elinor Bennett yn yr Academi Gerdd yn Llundain, 1965-1968; rhaglen cyngerdd mawreddog, 1967, a gynhaliwyd i agor Cronfa Eisteddfod [Yr Urdd] yn Aberystwyth yn 1969; rhaglen Cerddorfa Genedlaethol Cymru, 1967; adolygiad o’i pherfformiad o ‘Fantasy’ gan Alun Hoddinott; a chyngerdd i Gymdeithas Gymreig Sydney, 1985.
Llyfr cofnodion Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru-Cangen Colegau Caerdydd a’r Cylch, 1965-66. R. Elwyn Hughes oedd Ysgrifennydd Mygedol y gangen, ynghyd â rhestr aelodaeth UCAC, 1967.
Llythyrau, 1968-1979, yn ymwneud â pharatoi'r gyfrol Erthyglau ac ysgrifau llenyddol Kate Roberts (Abertawe, 1978) a olygwyd gan Dr David Jenkins, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Kate Roberts ac Alan Llwyd, Pennaeth yr Adran Gymraeg, Gwasg Christopher Davies, Abertawe.
Sgriptiau gan gynnwys ’Does unman yn debyg’, 1969; ’ Nos fory. Ystradmynach’ a'r trosiad 'Tomorrow night Ystradmynach', 1972; ‘Priodas dda’, 1973; ‘Angladd i bawb’, 1973; a drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974; ‘Pen y daith’, 1976, i ddathlu pedwar canmlwyddiant Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth i Fechgyn, ynghyd â rhaglen; a ‘Nid heb anrhydedd’ a ‘Not without honour’, 1976.