Showing 155 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Series Welsh
Print preview View:

Cyhoeddiadau

Papurau yn ymwneud gyda chyhoeddiadau Alun Eirug Davies, 1934-[2017], ei ddiddordebau mewn hanes Ceredigion a’r diwydiant gwneud papur yng Nghymru, ynghyd ag astudiaethau o waith ei Dad.

Barddoniaeth

Cerddi, cyfieithiadau o ganeuon ac englynion beddau o'i waith, 1921-[1992].

Ffeiliau cyffredinol

Ffeiliau yn cynnwys deunydd cymysg a drefnwyd gan Ieuan Wyn Jones gan gynnwys deunydd ar Blaid Cymru, ymgyrchoedd etholiadau, Keith Best, datganoli, gwaith llywodraeth, clymbleidio, yr Undeb Ewropeaidd a Threth y Pen.

Ffeiliau pwnc

Papurau Ieuan Wyn Jones wedi trefnu fesul pwnc yn cynnwys deunydd ar fesydd yn cynnwys yr Undeb Ewropeaidd, Deddf yr iaith Gymraeg, Rhyfel Bosnia, rheoleiddio'r marchnad teclynnau clyw, a threfniadau Plaid Cymru.

Plas Pistyll

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1995, yn ymwneud â prynu, datblygu, a gwerthu Plas Pistyll, a’r achos enllib canlyniadol, yn cynnwys cynlluniau; cofnodion Bwrdd yr Ymddiriedolaeth; papurau ymgyfreitha a phapurau a gohebiaeth cyfreithwyr; manylion ariannol; ac adroddiadau.

Cyflogaeth a Gwirfoddoli

Gohebiaeth a phapurau, 1980-1993 a 1997-2013, yn ymwneud â chyflogaeth a gwirfoddoli yn Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys y Rhaglen Cymuned y Canolfan Gwaith; adroddiadau; gweithgareddau staff; hyfforddiant; swyddi; a pholisiau staff.

Gohebiaeth

Llythyrau, 1935-2012, oddi wrth wyddonwyr, gwleidyddion amlwg ac eraill yn ymwneud â'i ddiddordebau ymchwil.

Llywodraeth Cymru'n Un

Papurau yn ymwneud a chlymblaid Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru yn Llywodraeth Cynulliad Cymru rhwng 2007 a 2011 gan gynnwys gwybodaeth ar y trafodaethau ar ffurfio'r clymblaid, trafodaeth am glymblaid amgen rhwng Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig, materion staffio a busnes y llywodraeth.

Gohebiaeth

Gohebiaeth, 1937-2011, yn ymwneud â'i gweithiau llenyddol a'i diddordebau amrywiol.

Results 1 to 20 of 155